Prosiect atal digartrefedd sy’n defnyddio rhwydwaith o wirfoddolwyr i gynorthwyo pobl sy’n profi digartrefedd, neu’n wynebu risg o ddigartrefedd, i ganfod a chynnal eu tenantiaethau a sefydlu cartref yw Citadel.
Cefndir
Yn dilyn cau llochesi nos yng Nghymru ar ddechrau’r pandemig coronafeirws, bu i Housing Justice Cymru adnabod y buddion a oedd yn deillio o ddefnyddio gwirfoddolwyr yn y gymuned er mwyn cynorthwyo y rhai sy’n profi digartrefedd i symud ymlaen o lety argyfwng tymor byr i sefydlu cartref tymor hir. A dyna pryd ffurfiwyd Citadel!
Ers 2020 mae Citadel wedi tyfu a bellach maent yn cefnogi pobl sy’n profi digartrefedd ar draws Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Wrecsam, ac yn sgîl llwyddiant y prosiect yng Nghymru, bydd Housing Justice England yn cyflwyno’r prosiect o fis Hydref 2024.
Sefydlwyd Citadel yn wreiddiol i gefnogi gwesteion wedi iddynt symud ymlaen o Lochesi Nos HJC. Cafodd yr angen am gymorth pellach, yn ystod y misoedd cychwynnol wrth gael tenantiaeth, ei amlygu gan y rhai yr ydym yn eu cefnogi sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd.
Mae’r straen a trawma sy’n deillio o brofi digartrefedd yn aros gyda phobl am gyfnod hir wedi iddo ddigwydd ac yn ei wneud yn fwy tebygol o ddychwelyd. Yn ôl ymchwil a wnaed gan Lywodraeth Cymru, roedd 90% o’r bobl a oedd wedi profi digartrefedd yn dal i boeni am eu sefyllfa o ran tai, er fod nifer (dros 50% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg) o’r unigolion hynny bellach mewn tai sefydlog. Hefyd, mewn arolwg a gynhaliwyd ganddynt dywedodd 82% o gyn-westeion Housing Justice Cymru fod arnynt eisiau cymorth pellach, sy’n dangos bod angen enfawr am gymorth parhaus er gwaethaf y gwasanaethau sy’n bodoli eisoes.
Roedd adborth pellach gan bobl a oedd yn profi digartrefedd yn dangos bod angen mwy o gymorth wedi’i deilwra, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a’r ‘hyn sy’n bwysig’ iddynt:
“Mae pawb yn unigolyn. Nid oes digon o wasanaethau sy’n eich trin fel unigolyn”.
Mae model Citadel wedi cael ei ddylunio trwy ystyried yr holl adborth, ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd a chynnwys y bobl sy’n derbyn cymorth yn y broses o newid gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pob unigolyn.
Model Citadel
Mae Cydlynwyr Citadel yn arwain tîm o wirfoddolwyr mewn ardal leol, gan eu cynorthwyo i ddatblygu'r sgiliau a’r cydnerthedd ar gyfer eu rôl a chan hefyd sicrhau bod y bobl a gefnogir yn cael cymorth wedi’i deilwra sy’n diwallu eu hanghenion unigol.
Unwaith y mae gwirfoddolwyr wedi cael eu recriwtio, eu hyfforddi ac wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), maent yn cael eu paru â rhywun sydd wedi, neu sydd yn profi digartrefedd ac wedi eu cyfeirio at Citadel gan yr Awdurdod Lleol.
Mae gwirfoddolwyr yn defnyddio’u profiadau bywyd a sgiliau amrywiol i gefnogi unigolion sy’n profi digartrefedd neu sy’n wynebu risg o ddigartrefedd, gan gynnig cwmnïaeth, cynhorthwy ymarferol megis tasgau’r cartref neu gyllidebu, a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ar y cyd yn y gymuned.
Mae pobl a gyfeirir at Citadel yn cael eu grymuso i ddiffinio eu llwybrau eu hunain tuag at sefydlogrwydd o ran tai. Gyda chymorth gan wirfoddolwyr wedi’u neilltuo i’r rôl a chydlynwyr y prosiect, trwy flaenoriaethu nodau a dewisiadau pob unigolyn, mae Citadel yn meithrin dinasyddiaeth weithredol ac ymgysylltiad cymunedol.
Mae gwirfoddolwyr yn helpu i gefnogi gydag:
- Ailgartrefu cyflym (dod o hyd i gartref)
- Cymorth emosiynol a gwrando
- Dod o hyd i eitemau’r cartref ac addurno
- Cyllidebu
- Cysylltu â’r gymuned
- Cynnal tenantiaeth

Beth yw manteision y model a arweinir gan wirfoddolwyr?
Mae’r model a arweinir gan wirfoddolwyr;
- Yn hybu dinasyddiaeth weithredol: Cysylltiadau â grwpiau cymunedol, integreiddio cymunedol, adfywio a gweithrediad cymunedol, cyfraniad cymunedol ac ymdeimlad o berthyn
- Yn manteisio ar wybodaeth leol: Mae gan wirfoddolwyr wybodaeth leol a gwybodaeth gymunedol werthfawr, gan wella’r cymorth a roddir i gyfranogwyr.
- Yn ei gwneud yn bosibl ymyrryd yn gynnar
- Yn cynnig arddulliau cefnogi unigoledig: Mae gwirfoddolwyr yn cerdded ochr yn ochr ag unigolyn, gan gynnig cymorth wedi’i bersonoli ac anogaeth sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion a nodau unigryw
- Yn cynnig hyblygrwydd o ran sut a ble y rhoddir cymorth: Mae gwirfoddolwyr yn creu amgylcheddau lle croesewir gonestrwydd ynghylch dyheadau, heriau a rhwystrau, gan feithrin awyrgylch cefnogol ar gyfer twf a datblygu.
- Yn pontio bylchau mewn gwasanaethau digartrefedd traddodiadol
Effaith yng Nghymru
- 90% o bobl a gynorthwywyd yn parhau yn eu tenantiaeth wedi 12 mis.
- Cyfradd ymgysylltu o 97% ymhlith pobl a gefnogir (ar gyfartaledd bob chwarter)
- 31 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal ar gyfer gwirfoddolwyr a phobl a gefnogir
- Oddeutu 2448 o gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb a wnaeth hwyluso’r canlynol;
- cynorthwyo pobl i gynnal eu tenantiaeth ac aros yn eu cartref
- cynorthwyo pobl i gael mynediad at gartref saff, diogel
- Cafodd 94% o bobl a gynorthwywyd i gael cartref eu cefnogi hefyd gyda chymorth ymarferol, megis tasgau’r cartref, cael gafael ar ddodrefn a charpedi.
Y manteision i wasanaethau statudol
- Mae pobl yn cronni gwybodaeth am y gwasanaethau sy’n bodoli
- Mae pobl yn datblygu’r gallu i ddod o hyd i’r ffordd eu hunain ac yn cael eu dargyfeirio oddi wrth wasanaethau statudol oni bai eu bod yn gwbl hanfodol
- Ceir mynediad at wasanaethau ar adeg ataliol/ gynnar yn hytrach nag ar ôl i’r sefyllfa droi’n argyfwng
- Nid yw pobl yn ceisio mynediad at wasanaethau oherwydd dibyniaeth/ unigrwydd.
Adborth gan unigolion a gefnogwyd gan Citadel
Mae 87% o’r bobl a gefnogwyd yn teimlo bod ganddynt sgiliau gwell i fyw’n annibynnol
“Nid ydynt yn ei wneud am eu bod yn cael tâl; maent yn ei wneud am bod arnynt eisiau ei wneud ac mewn rolau â thâl gall gweithwyr cymorth newid yn rheolaidd”
“Rwy’n gwybod bod arnynt eisiau rhoi rhywbeth i mi y gallaf fod yn falch ohono, i edrych arno a dweud ‘Rwyf wedi bod trwy’r holl bethau hyn yn fy mywyd ond rwy’n haeddu bod â’r lle yma a fy un i yw hwn”
I gael rhagor o wybodaeth am Citadel a gwaith Housing Justice, gallwch fynd at eu gwefan.