Y Grefft Goll?

03 Rhagfyr 2021
  • Sut mae cysylltiadau traws-Iwerydd yn cael eu gwneud rhwng Cymru a Nova Scotia gan ddefnyddio grym sgwrs

    Bob hyn a hyn mae rhywun yn hiraethu am y grefft goll o sgwrsio. Mae'n thema sy’n ailadrodd gan y rhai sy'n ymateb i newid; bod y byd modern yn troi yn gyflymach ac yn gyflymach.

    ‘Does yna ddim amser bellach i'r gymdeithas hen ffasiwn ble’r oedd amser i sylwi ar ein hamgylchedd ac ystyried rhyfeddod y ddaear. Mae'n ymddangos bod y rhyfeddodau modern bellach yn defnyddio ein holl egni, gyda'n ffonau clyfar a'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gyd yn denu ein sylw wrth i ni ruthro o A i Y. Ymddengys mai prin iawn yw’r amser i sopio am sgwrs bellach.

    Nid yw hwn yn benbleth newydd.

    Ar ôl tyfu o ofnau bod datblygiad y rheilffyrdd yn ystod y 1840au a'r 1850au a datblygiad diweddarach y telegraff trydan wedi cyflymu’r byd y tu hwnt i allu'r ddynoliaeth i ymdopi, tybed beth fydden nhw'n ei feddwl o gyflymder gwyllt y byd heddiw?

    Mae yno fel arfer elfen hiraethus i'r pryderon a'r mudiadau hyn sy'n ceisio hyrwyddo gwerthfawrogiad o grefftwaith medrus a gorffennol euraid oesol a'i ffordd goll o fyw. Mae ein fersiwn modern o'r byd yn teimlo'n anghyfforddus o gyflym ar adegau, gyda'r mudiadau '... araf' amrywiol wedi darparu gwrthbwynt hamddenol gydag elfen gryfach o ymwybyddiaeth ofalgar.

    Fodd bynnag, mae sgyrsiau'n hen fecanwaith cysylltu rhwng pobl; dyma pam fydd gennym goffi a bwffes mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb wedi'r cyfan. Mae lletygarwch yn fuddiol, ond mae'r gwerth yn y cysylltiadau; y rhew wedi'i dorri gan frechdan.

    Ffrindiau â manteision gwybyddol

    Yn 2011, cynhaliodd Prifysgol Michigan arolwg a ddangosodd pa fathau o ryngweithio cymdeithasol a oedd yn hybu perfformiad gweithredol gwell. Dangosodd astudiaeth a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Michigan ac a gyhoeddwyd yn 2011 [agorir mewn ffenest newydd]  fod sgyrsiau gyda’u pwrpas yn ddim mwy na dod i adnabod eraill heb unrhyw agwedd gystadleuol fel eu pwrpas yn gwella galluoedd meddyliol craidd. Ar y llaw arall, ni ddangoswyd unrhyw fanteision o gyflwyno agwedd gystadleuol.

    Mae'r dull Treialon Coffi ar Hap wedi'i ddefnyddio gan y Gyfnewidfa Arfer Da yn ogystal â llawer o hwyluswyr eraill ers blynyddoedd mewn gwahanol ffurfiau. Calon y dull yw bod pobl yn cael eu paru yn ôl eu swyddi neu eu diddordebau, neu yn cael eu paru ar hap. Mae'n syniad gwych, ond ei wendid mawr yw bod angen grŵp o gyfranogwyr sydd wedi ymrwymo i'r syniad sy'n gallu ymrwymo'r amser i drefnu'r cyfarfodydd.

    Mae llawer o ysbrydion o fewn y treialon.

    Ffordd o amgylch y cyfyngiad hwn yw gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael sgwrs gyda dieithryn diddorol i ofod ac amser cyffredin a chael y sgyrsiau yn y fan a’r lle, dull a elwir yn Gaffi Gwybodaeth [agorir mewn ffenest newydd].

    Cysylltiadau rhyngwladol

    Un o ryfeddodau'r oes fodern yw'r cebl traws-Iwerydd sydd bellach yn cario sain a llun, yn ogystal â’r teligraff! Bu cael ein gorfodi i weithio'n gyfan gwbl o gartref a chyfathrebu drwy gyswllt fideo oherwydd Covid-19 yn ein hatgoffa'n fuan nad oedd pellter yn rhwystr pan ddaeth i gwrdd ag eraill.

    Nid oedd yn broblem i Gymro mentrus fynychu digwyddiadau mewn rhannau eraill o'r byd o'i gartref, ac un ohonynt oedd Caffi Gwybodaeth a gynhaliwyd gan Cindy Russell o Consider Conversation [agorir mewn ffenest newydd] o Nova Scotia. Roedd Chris Bolton, y Cymro mentrus dan sylw, eisoes wedi sefydlu perthynas gydweithredol gyda Ray MacNeil yn Sefydliad CLARI [agorir mewn ffenest newydd], hefyd yn Nova Scotia. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd neu well o wneud pethau yn y Gyfnewidfa Arfer Da, felly fe wnaethom neidio ar y cyfle pan awgrymodd Chris ein bod yn gweithio gyda Cindy a Ray i gynnal digwyddiad gyda'n gilydd.

    Sgyrsiau Traws-Iwerydd

    Y syniad oedd y byddem yn defnyddio fformat y Caffi Gwybodaeth i gyflwyno pwnc cyn i'r cyfranogwyr gael eu harwain i ystafelloedd llai ar Zoom ar gyfer cyfres o sgyrsiau.

    Cynhaliwyd y digwyddiad Sgyrsiau Traws-Iwerydd cyntaf ym mis Ionawr 2021, gyda Cindy yn arwain y sesiwn ac yn siarad am gamwybodaeth. Roedd yr adborth o'r sesiwn gyntaf yn dda iawn, felly fe aethom ati i drefnu mwy.

    Erbyn diwedd eleni rydym wedi cynnal 4 digwyddiad, gyda digwyddiad pellach ar gamwybodaeth a gyflwynwyd gan OFCOM.

    Rydym hefyd wedi cynnal dau ddigwyddiad yn edrych ar wahanol agweddau o gymuned. Edrychodd y digwyddiad cyntaf ar gydnerthedd cymunedol, gyda chyflwyniadau gan Cwmni Bro Ffestiniog [yn agor mewn ffenestr newydd] o Gymru a'r Happy Communities Project [agorir mewn ffenest newydd] o Nova Scotia yn rhannu eu profiadau ac ysgogi trafodaethau bywiog. Edrychodd sesiwn ym mis Hydref ar dai gydag Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd Llywodraeth Cymru a Pauline Macintosh o Adran Addysg Gydol Oes St Francis Xavier, Nova Scotia sy'n arwain y gwaith o ddatblygu Rhaglen Tai Cymunedol yno.

    Mae'r un dull wedi'i ddefnyddio ar gyfer yr holl ddigwyddiadau Sgwrs Traws-Iwerydd hyd yma: Dewiswch bwnc sy'n berthnasol i Gymru a Nova Scotia ac yna gwahoddwch bawb sydd wedi dangos diddordeb o'r blaen, yn ogystal ag unrhyw un newydd a allai fod â diddordeb.

    Yna caiff y rhai sy’n bwriadu cymryd rhan eu rhannu’n barau cyn i'r sesiwn ddechrau fel eu bod yn cyfateb yn fras o ran diddordebau a swydd os yw'n bosibl. Mae hyn yn cymryd amser, ond credwn ei fod yn allweddol i ddigwyddiad llwyddiannus. 

    Am y tro rydym yn cymryd saib byr tan 2022, cyn ailgysylltu'n fuan i ddechrau meddwl am thema a strwythur y digwyddiad Sgyrsiau Traws-Iwerydd nesaf gan anelu i’w gynnal yn fuan yn y gwanwyn.

    Os oes gennych ddiddordeb mewn dod draw i'r un nesaf, anfonwch neges at arfer.da@archwilio.cymru – byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs.

    Ynglŷn â’r awdur

    Mae Sion Owen yn Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth yn y Gyfnewidfa Arfer Da. Ymunodd ag Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2019, ac roedd wedi gweithio i awdurdod lleol cyn hynny.