Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Archwilio Cymru yn buddsoddi mewn sgiliau digidol staff

24 Chwefror 2023
  • Yn y blog hwn, mae aelodau staff Archwilio Cymru, Victoria Walters ac Alice King, yn rhannu'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu o'u gwaith ar greu Fframwaith Sgiliau Digidol ar gyfer uwchsgilio cydweithwyr.

    Mae technoleg ddigidol eisoes yn chwarae rhan fawr yn ein gwaith ond yn y dyfodol, heb os bydd ein dibyniaeth ar dechnoleg yn cynyddu byth mwy. Yr allwedd i ddatgloi potensial technoleg yw hyder staff a sgiliau digidol.

    Rydyn ni mewn sefyllfa debyg i nifer o sefydliadau eraill ledled y byd. Rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i dyfu hyder ein staff yn eu sgiliau digidol.

    Felly, fe ddysgon ni gan sefydliadau eraill, a dechrau datblygu ein hagwedd ein hunain tuag at uwchsgilio digidol.

    Dywedodd Alice:

    "Fe wnaethon ni ymchwil ar yr hyn oedd eisoes ar gael er mwyn i ni allu adeiladu ar fframweithiau sydd eisoes yn bodoli. Fe wnaeth sefydliadau eraill ein helpu ni, a nawr rydyn ni eisiau rhannu ein dysgu hefyd.

    Peth pwysig iawn wnaethon ni oedd arolygu ein staff i ganfod y sgiliau digidol lle roedd eu hyder ar ei isaf. Rhoddodd hyn syniad llawer cliriach i ni o'r materion y dylem ganolbwyntio arnynt. 

    Yna fe wnaethom greu fframwaith o sgiliau a nodir mewn pum categori: Sgiliau sylfaen, Gweithio bob dydd, Cyfathrebu a Chydweithio, Trin gwybodaeth, a Thrafod.

    Mae'r fframwaith yn nodi lefel graidd o sgiliau yr ydym am i'r holl staff, ar bob lefel, ddatblygu. Yn bendant, mae manteision ac anfanteision i'r dull hwn, ac fe wnaethom feddwl ar un adeg effalai y dylem fod gennym 3 lefel wahanol o sgiliau, neu y dylem nodi sgiliau ar gyfer rhai rolau swydd. Ond yn y pen draw, roedden ni'n meddwl ein bod ni mewn perygl o or-gymhlethu pethau, felly fe wnaethon ni ei gadw'n syml."

    Mae'r fframwaith ar gael ar-lein i bawb yn y sefydliad. Mae'n cynnwys esboniad o beth yw'r fframwaith, sut i'w ddefnyddio, ac yna mae staff yn dilyn y llwybrau dysgu, sy'n setiau o adnoddau dysgu wedi'u creu yn Linkedin Learning.

    Meddai Victoria:

    "Roeddem wedi treialu Linkedin Learning yn ystod y pandemig a gweld yr hyblygrwydd a gynigiodd, a'r adborth cadarnhaol a gafodd, rydym wedi ei gyflwyno i'r holl staff. Roedd y platfform hwn yn ymddangos fel yr opsiwn gorau i gysylltu adnoddau ag o'r fframwaith ei hun.

    Gweithiais gyda thîm y prosiect dros y misoedd nesaf i fapio cynnwys y fframwaith i adnoddau Linkedin a hefyd creu adnoddau ein hunain yn Archwilio Cymru a ychwanegwyd wedyn i lwybrau dysgu Linkedin.

    Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaethom ddatblygu'r fframwaith drwy dreialu a gwella yn seiliedig ar adborth staff a gawsom. Roedd hyn yn galluogi rhai gwelliannau cadarnhaol a oedd yn gwneud y fframwaith yn llai cymhleth ac yn haws mynd ato i ddefnyddwyr. 

    Cefnogodd ein tîm TG wrth greu'r dudalen ar-lein i gynnal y fframwaith, a datrys unrhyw rwystrau. Ac fe wnaeth ein tîm Cyfathrebu ein helpu i ddatblygu cynllun lansio a oedd yn cynnwys digwyddiad 'cinio a dysgu', lansio erthygl ar gyfer ein sianeli cyfathrebu mewnol, blogiau, ‘personas’ ac astudiaethau achos, sesiynau galw heibio a phresenoldeb mewn cyfarfodydd tîm. 

    Daeth tîm y prosiect ag unigolion at ei gilydd o bob ran o'r sefydliad ac roedd yn enghraifft wych o gyfathrebu cadarnhaol a gweithio ar y cyd."

    Er mwyn gwreiddio'r fframwaith, rydym wedi gofyn i'n rheolwyr ei gynnwys yn eu trafodaethau personol gyda'u timau, fel eitem sefydlog ar yr agenda.

    Mae Linkedin yn eich galluogi i fonitro pa dimau ac unigolion sy'n defnyddio'r fframwaith, felly mae gennym ddeallusrwydd parhaus gwych am y defnydd o'r fframwaith. Mae hyn yn mynd i fod yn wych wrth ein helpu ni i draethu a gwella'r fframwaith, ac i'n helpu ni i dargedu timau sydd heb ymgysylltu eto.

    Yn ystod y 2 fis ers i ni lansio'r fframwaith, rydym wedi ymgysylltu'n wych â 160 o'n 280 o staff yn cyrchu'r Fframwaith Sgiliau Digidol a 249 gan weithredu eu trwyddedau Linkedin (sy'n llam sylweddol o'r man lle'r oeddem cyn ei lansio).

    Rydym ni'n annog cydweithwyr i rannu eu dysgu a'r uchelgais yw esblygu, wrth i sgiliau digidol ddatblygu, i fersiwn 2.0. Byddwn yn eich diweddaru chi...

    Os oes gennych unrhyw ddysgu ar fframweithiau sgiliau digidol yr hoffech eu rhannu, neu os hoffech wybod mwy am ein fframwaith, cysylltwch â'r tîm yn Hyfforddiant@archwilio.cymru.

    Cadwch lygad allan am ein hadroddiad 'Cynhwysiant Digidol yng Nghymru' (a gyhoeddir ddechrau mis Mawrth), sy'n adlewyrchu ar faterion a thueddiadau o amgylch y thema ehangach o gynhwysiant digidol.

    Mwy am yr Awduron

    Portrait of Vic Walters

    Victoria Walters yw Rheolwr Datblygu Pobl a Sefydliadol yn Archwilio Cymru. Mae Victoria wedi gweithio ym maes Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu yn y sector preifat a'r trydydd sector cyn ymuno ag Archwilio Cymru, ac mae'n credu mewn ategu unigolion a'u sefydliadau i berfformio ar eu gorau.

    Portrait of Alice King

    Dechreuodd Alice King ei gyrfa yn Archwilio Cymru ar y rhaglen hyfforddiant i raddedigion yn 2015. Ers gorffen y cynllun hyfforddi a chymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig, mae hi wedi symud ymlaen i rôl Arweinydd Archwilio, gan gyflwyno portffolio o archwiliadau ariannol ar draws sector cyhoeddus Cymru. Mae Alice yn arwain timau mawr o brofiad amrywiol ac wedi ymrwymo i ddatblygu aelodau ei thîm, gan gynnwys eu Sgiliau Digidol!