Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Dwi wedi mwynhau'r amrywiaeth o waith a ddyrannwyd i mi

10 Chwefror 2023
  • Morgan ydw i, a dwi'n brentis Gweinyddu Busnes yn Uned Fusnes Archwilio Cymru.

    Dechreuais fy mhrentisiaeth yn haf 2021, gan weithio'n bennaf ar weinyddu ein prosiect Cynghorau Tref a Chymuned a rhoi mynediad i archwilwyr i'r prosiectau yr oedd eu hangen arnynt. Ar hyn o bryd gallech sôn am i unrhyw dref yng Nghymru i mi ac mae'n debyg y byddaf wedi clywed amdani!

    Ers dechrau'r brentisiaeth, dwi wedi cael profiadau newydd gwerthfawr ym maes recriwtio, helpu mewn canolfannau asesu, trefnu a hwyluso digwyddiadau, a llawer mwy. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda'r Bartneriaeth Busnes Symudedd Cymdeithasol i drefnu wythnos o weithgareddau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel, a oedd yn rhoi boddhad mawr i mi.

    Lleoliad fi oedd Ynys Môn am flwyddyn gyntaf fy mhrentisiaeth - roedd gweithio o bell yn her i mi, a dysgais bwysigrwydd estyn allan at fy nghydweithwyr am gymorth a chefnogaeth i leihau'r risg o deimlo'n ynysig. Symudais i lawr i’r De haf diwethaf ac rwyf wedi mwynhau mynd i'r swyddfa a chyfarfod â chydweithwyr gwahanol.

    Mae fy rheolwyr wedi bod yn ategol iawn o ran hyfforddiant a chynnig help yn ymwneud â’m lles, ac roedd fy narparwr prentisiaeth o ALS yn hanfodol wrth fy arwain ar hyd y ffordd i'm Diploma mewn Gweinyddu Busnes. Roedd modd i mi gymryd diwrnodau penodedig i astudio yn ystod yr wythnos waith i aros ar ben fy aseiniadau ac adolygu ar gyfer arholiadau, ac mae'r hyblygrwydd hwn wedi bod yn wych.

    Does dim diwrnod arferol i mi ar hyn o bryd, gan fy mod i'n gwneud popeth o archifo i recriwtio i gysylltu â gwestai am ddyfynbrisiau i ddigwyddiadau. Dwi wedi mwynhau'r amrywiaeth o waith a ddyrannwyd i mi ac rwyf yn ddiolchgar am y sgiliau a'r profiadau yr wyf wedi’u hennill, gan y bydd y cyfan o fudd mawr i mi pan ddaw hi'n fater o gymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa.

    Ynglŷn â'r awdur

    Mae Morgan Vaughan o Fôn, Gogledd Cymru, ac yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys darganfod cerddoriaeth newydd a chwarae'r gitâr, cefnogi'r tîm pêl-droed gorau erioed (Arsenal), mynd i'r dafarn gyda ffrindiau a chwarae gemau fideo.