Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mesur llwyddiant y Cwricwlwm newydd i Gymru

24 Awst 2022
  • Wrth i'r flwyddyn ysgol ddod i ben, mae Cymru'n edrych ymlaen at garreg filltir bwysig ym mis Medi 2022 gydag addysgu'r Cwricwlwm newydd i Gymru am y tro cyntaf.

    • Bydd pob ysgol gynradd yn dechrau defnyddio'r cwricwlwm newydd a bydd bron i hanner ysgolion uwchradd, canol ac arbennig yn ei gyflwyno ar gyfer eu dosbarthiadau blwyddyn 7.

      Cerrig milltir allweddol - Medi 2022: addysgu cwricwlwm newydd yn gyntaf mewn ysgolion cynradd ac yn ddewisol ar gyfer blwyddyn 7. Medi 2023: gorfodol ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8. 2026/27: Cymwysterau cyntaf wedi'u dyfarnu.
    • Mae'r cwricwlwm newydd yn golygu newid mawr yn addysg pobl rhwng 3 ac 16 oed.

      Cwricwlwm ysgol yw popeth mae dysgwr yn ei brofi; nid dim ond yr hyn sy'n cael ei ddysgu, ond sut a pham mae'n cael ei ddysgu.  Bydd gan bob ysgol yr hyblygrwydd i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun o fewn fframwaith cyffredinol a adeiladwyd ar bedwar diben y cwricwlwm i Gymru [agorir mewn ffenestr newydd].

      Mae rhain i gefnogi ei ddysgwyr i ddod yn:

      • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau,
      • Mentrus, cyfranwyr creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith,
      • Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a'r byd,
      • Unigolion iachus hyderus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

      Sut fyddwn ni'n gwybod os bydd y cwricwlwm yn cyflawni'r nodau hyn?

      Yn ein hadroddiad ym mis Mai 2022 ar gynllunio a gweithredu'r cwricwlwm newydd, fe ddywedon ni nad oedd hi'n glir eto sut y bydd y rheiny sydd â diddordeb mewn addysg – gan gynnwys rhieni, gofalwyr a dysgwyr – yn gwybod a yw'r cwricwlwm newydd yn gyffredinol, ac ysgolion unigol, yn cyflawni'r nodau hyn. Argymhellwyd bod Llywodraeth Cymru yn nodi manylion am sut y bydd yn sicrhau tryloywder i rieni, dysgwyr a'r cyhoedd.

      Argymhelliad i ddatblygu dull sy'n cefnogi gwelliant yn ogystal ag atebolrwydd democrataidd a thryloywder.

       

    • Roedd llwyddiant neu fel arall systemau addysg wedi tueddu i gael eu barnu, yn rhannol o leiaf, yn ôl arholiadau a chanlyniadau profion. Fodd bynnag, dim ond un agwedd ar addysg sy'n gyfrifol am y mesur hyn ac mae llawer o ffactorau'n effeithio arnynt. Mae canolbwyntio’n ormodol ar fesurau mor uchel eu cyfran yn gallu gwyrdroi gweithgaredd ysgolion. Mae llawer o randdeiliaid yn gweld dull newydd o weithredu gyda mwy o rôl ar gyfer hunan-werthuso fel cryfder, gan dorri'r cysylltiad rhwng mesurau asesu ac atebolrwydd.

      Ers 2018, dyw ysgolion heb orfod cynnwys gwybodaeth gymharol o asesiadau darllen a rhifedd cenedlaethol yn eu hadroddiadau i'r llywodraethwyr. Ym mis Gorffennaf 2020, arweiniodd effaith anwastad y pandemig ar ysgolion Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i gyfrifo neu gyhoeddi mesurau perfformiad ar gyfer carfannau blwyddyn 11 ac ôl-16 [yn agor mewn ffenestr newydd]. Parhaodd hyn yn 2021/22.

      Ddiwedd Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y system o gategoreiddio ysgolion, gafodd ei atal yn 2019/20, yn gorffen. Mae canllawiau statudol ar y fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd [yn agor mewn ffenestr newydd] yn nodi ei disgwyliadau ar gyfer atebolrwydd democrataidd a gwybodaeth dryloywder a fydd ar gael i'r cyhoedd o ysgolion unigol, awdurdodau lleol (neu awdurdodau esgobaethol i ysgolion ffydd), Llywodraeth Cymru ac Estyn.

      Gallai'r trefniadau newydd roi gwybodaeth i rieni, gofalwyr ac eraill i'w helpu i ddeall eu hysgolion, yn dibynnu ar gysondeb ac ansawdd y wybodaeth sydd ar gael. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint o wybodaeth gyd-destunol sydd ar gael i'w helpu i lunio barn wybodus am y data, megis cyfran y disgyblion o aelwydydd difreintiedig.

      Ond wrth ateb y cwestiwn ehangach a yw'r cwricwlwm newydd yn cyflawni ei nodau mae angen math gwahanol o dystiolaeth sy'n dilyn cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr dros amser ac sy'n edrych ar holl ehangder y cwricwlwm. Bydd angen iddo ystyried diwygiadau eraill sy'n effeithio ar brofiad a pherfformiad disgyblion. Bydd angen iddo hefyd gynnwys gwahanol grwpiau o ddisgyblion wrth i'r cwricwlwm geisio lleihau anghydraddoldeb.

      Beth mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyd yma?

      Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar ddata ac anghenion gwybodaeth y system ysgolion [sy'n agor mewn ffenestr newydd] i'w adrodd yn Hydref 2022 yn ogystal â phrosiect ymchwil tair blynedd ar asesu a dilyniant [yn agor mewn ffenestr newydd].

      Mae hefyd wedi dweud y bydd yn lansio rhaglen fonitro genedlaethol o ddysgwyr mewn sampl o ysgolion i asesu cynnydd gydag amser. Wrth i fanylion yr ymchwil, gwerthuso a'r monitoring hwn ddod ar gael,  bydd yn gliriach sut y bydd effaith y cwricwlwm newydd yn cael ei asesu mewn ffordd gron.

      Heb y darlun llawnach hwn, mae perygl y bydd ymarferion allanol fel y profion PISA sydd ar ddod – y tro nesaf i fod yn ddiweddarach yn 2022 – a chanlyniadau arholiadau'n parhau i fod yn brofion sydd yn fantol uchel i'r system addysg ac i Lywodraeth Cymru.

      Amdano’r awdur

      Mae Claire Flood-Page yn archwilydd arweiniol. Hi oedd prif awdur adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae ganddi ddiddordeb mewn ysgolion a pholisi addysg. 

    • Adroddiad Cysylltiedig

      Y Cwricwlwm newydd i Gymru

      Gweld mwy