Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Nid oes dau ddiwrnod fyth yr un fath yn gweithio fel Uwch Archwilydd

16 Rhagfyr 2022
  • Gwnes i gais yn wreiddiol i Archwilio Cymru gan fy mod yn gweld eu gwaith fel gwasanaeth gwerthfawr i'r gymdeithas, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan ohono.

    Cwblheais fy nghymhwyster cyfrifeg ar gynllun Archwilio Cymru i hyfforddi graddedigion ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy nyrchafu i fod yn Uwch Archwilydd ddechrau'r flwyddyn.

    Roeddwn yn awyddus i barhau â'm taith gydag Archwilio Cymru yn dilyn cwblhau'r cynllun i raddedigion gan fod Archwilio Cymru wedi cynnig amgylchedd ategol i mi lle cefais fy annog a'm herio ers y diwrnod cyntaf.

    Cefais gysylltiad archwilio gyda sefydliadau amrywiol ar draws ystod o sectorau, o archwilio'r heddlu i gyrff y GIG, sydd wedi darparu profiad amhrisiadwy wrth hogi fy sgiliau archwilio. Dim ond yn ystod eleni, rwyf wedi gweithio ar draws 5 corff gwahanol, sy'n golygu bod fy ngwaith bob amser yn amrywiol ac rydw i bob amser yn gohebu â chleientiaid newydd. Yr amrywiaeth yma yw un o'r agweddau rwy'n eu gwerthfawrogi fwyaf yn Archwilio Cymru - nid oes dau ddiwrnod fyth yr un fath.

    Fel Uwch Archwilydd rwyf hefyd yn gyfrifol am arwain ar gyrff llai sy'n cynnwys datblygu a gweithredu cynllun archwilio, cwrdd yn rheolaidd â chleientiaid i drafod y materion archwilio ac adborth, hyfforddi ac ategu staff iau, adolygu gwaith, a datblygu casgliadau ar gyfer ein hadroddiadau archwilio.

    Mae ethos tîm cryf yn Archwilio Cymru sy'n gwneud i mi deimlo fy mod i wedi fy nghynorthwyo ac mae fy nghydweithwyr i gyd yn hynod o gyfeillgar sy'n gwneud dod i mewn i'r gwaith yn y bore yn bleser. Yr wyf yn gwerthfawrogi y  pwyslais ar les yn Archwilio Cymru, ac rwyf yn bles iawn bod Archwilio Cymru yn fy ngalluogi i weithio'n hyblyg.

     

    Ynglŷn â'r awdur

    Benjamin Hughes, Uwch Archwilydd.