Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Y gweithredoedd tu ôl i’r geiriau

14 Ionawr 2022
  • Dydyn ni ddim yn enwog am gael teitlau bachog ar gyfer ein hastudiaethau cenedlaethol yma yn Archwilio Cymru, ond mae hwn yn dipyn o lond ceg hyd yn oed yn ôl ein safonau ni.

    Ydyn, fel rhan o'n rhaglen 2021-22 o astudiaethau llywodraeth leol Cymru gyfan, rydym yn edrych ar sut mae cynghorau'n "Adeiladu Cydnerthedd Cymdeithasol a Hunanddibyniaeth mewn Dinasyddion a Chymunedau."

    Mi fuom yn pwyso a mesur y geiriau am sbel. Yn rhannol oherwydd ein bod ni’n mwynhau chwarae o gwmpas hefo geiriau, ond yn bennaf achos bod y pwnc yn mynd â ni i dir eitha’ niwlog – mae'n anodd rhoi eich bys ar ystyr 'cydnerthedd cymdeithasol' a 'hunanddibyniaeth gymunedol'.

    Ac eto, mae'r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn cymryd camau i'r cyfeiriad hwn – mae 19 o'r 22 cyngor wedi sefydlu amcanion llesiant sydd wedi'u hanelu at wella cydnerthedd cymunedol. Ond a ydynt yn canolbwyntio ar eich cefnogi chi i wneud mwy o benderfyniadau a bod yn fwy hunan-ddibynnol?

    Mae blynyddoedd o lymder a phandemig byd-eang wedi golygu na all cynghorau barhau i fod yn bopeth i bawb, a chanolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau yn unig. Mae'r naratif yn amlwg yn newid, ac mae gwneud mwy gyda llai wedi arwain at gynghorau'n canolbwyntio fwyfwy ar 'alluogi' dinasyddion a chymunedau i wneud mwy drostynt eu hunain.

    Beth yw cydnerthedd cymunedol?

    Diffiniad Llywodraeth Cymru o gadernid cymunedol yw "gallu cymuned i wrthsefyll straen a heriau, ac mae'n cwmpasu'r gallu i addasu a goroesi amgylchiadau andwyol fel ergydion amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd, tra'n ymdopi ac yn ffynnu mewn bywyd bob dydd". Mae diffiniadau cynghorau'n amrywio, ond pe bawn yn dod â'r geiriau i gyd at ei gilydd, byddai'r casgliad yn tynnu sylw at dermau fel: perthyn, gweithredu, cysylltiedig, cydlynol, bywiog, diogel a chyfranogol.

    Ond nid y geiriau sydd bwysicaf yn hyn i gyd. Mae llawer ohonom wedi dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus yn fwy nag erioed yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mi wnaethon nhw gamu i’r adwy i’n gwarchod ni ac roedden nhw yno pan oedden ni eu hangen. Ond mae llawer hefyd wedi tynnu sylw at ymdeimlad cynyddol o gymuned, a chymunedau'n gwneud mwy drostynt eu hunain, yn ystod y pandemig.

    Do, mi ddaethom o hyd i ffyrdd newydd o gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid na allem eu gweld. Ond yn nes at adref mi fuom hefyd yn llofnodi i dderbyn llawer (iawn..) o barseli dros ein cymdogion. Ac rydym wedi rhannu gwên ar draws y stryd wrth glapio ar garreg y drws wrth dalu teyrnged i'r rhai sy'n gweithio'n galed i'n cadw'n ddiogel. Mae ymchwil [agorir mewn ffenest newydd] yn adlewyrchu’r ymdeimlad cynyddol o gymuned ledled y DU – er enghraifft, mae’n dangos bod 31% o bobl wedi dod yn fwy cyfforddus yn gofyn i'w cymdogion am help hefo'u siopa yn ystod y pandemig. Siawns fod cyfle yma i gyrff cyhoeddus fanteisio ar hyn i gyd er mwyn creu dyfodol gwell a mwy gwydn, lle mae pobl a chymunedau'n penderfynu ar y materion maent yn eu hwynebu ac yn gwneud mwy drostynt eu hunain?

    Beth ydi ein rôl yn hyn?

    Yn ein rôl o esbonio sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl, rydym yn taro goleuni ar yr hyn sy'n eistedd y tu ôl i'r geiriau – beth mae'n ei olygu i adeiladu cymunedau cydnerth, ac yn bwysicach – pa mor dda y mae cynghorau'n gwneud hyn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am "bwysigrwydd cynnwys pobl eraill sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth."

    Felly, rydym yn edrych ar sut mae cynghorau'n mynd i’r afael â materion fel tlodi digidol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir ar yr adeg gywir, a sut mae pobl yn cael eu cefnogi i wirfoddoli a chymryd rhan mewn grwpiau a gweithgareddau cymunedol.

    Yn amlwg, allwn ni ddim gwneud hyn heb glywed o lygad y ffynnon am y cannoedd a'r miloedd o newidiadau sy'n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, rydym yn lansio arolwg i ddarganfod beth sy'n gwneud eich cymuned chi’n unigryw, a pha mor gydnerth ydi’r gymuned honno. Rydym am glywed eich hanesion – y pethau rydych chi a'ch cymuned wedi'u gwneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydych chi'n falch ohonynt – er mwyn i eraill gael dysgu. Rydym hefyd am gael gwybod beth arall y mae angen i gynghorau ei wneud i'ch cefnogi chi, eich teulu a'ch ffrindiau i allu gwneud mwy drosoch eich hun. 

    Gallwch gwblhau ein harolwg yma [agorir mewn ffenest newydd]. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

    Mwy am yr awdur

    Mae Euros Lake yn Uwch Archwilydd yn ein tîm llywodraeth leol ac mae wedi gweithio i Archwilio Cymru ers 2013.