Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Pan roddwyd ein trefi a’n dinasoedd dan glo, fe gaeodd mannau cyhoeddus, ac fe gyfyngwyd ar symudiadau yn yr awyr agored. Fe helpodd yr ymateb hwn i arafu lledaeniad y feirws ac achub bywydau trwy leihau’r cyfleoedd i’r feirws gyflymu a rhoi rhagor o bobl mewn perygl.
Fe ymatebodd llywodraethau ledled y byd yn gyflym i symud pobl ddigartref oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety. Lleolwyd dros 1,200 o bobl mewn motelau ledled Seland Newydd. Yn yr un modd, fe gartrefodd yr wyth talaith a thiriogaeth yn Awstralia 5,000 o bobl a oedd yn byw ar strydoedd eu prifddinasoedd – gan ehangu eu llochesi, bwcio ystafelloedd mewn gwestai, meddiannu adeiladau cyhoeddus, ac ar y cyfan gwneud beth bynnag oedd ei angen i gadw pobl ddwy fetr ar wahân mewn tai glân, sefydlog. Yn nhri mis cyntaf y pandemig fe gynorthwyodd Llywodraeth Cymru gynghorau i ailgartrefu dros 800 o bobl a oedd yn cysgu allan neu mewn perygl o ddigartrefedd.
Un o ganlyniadau annisgwyl y cyfnod dan glo yw bod yr arfer o gysgu allan wedi cael ei leihau’n sylweddol. Mesur mewn argyfwng oedd gweithredu mesurau cloi caeth. Ond mae hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn gyffredinol o ran helpu pobl i ddatrys problem yr ymddangosai am flynyddoedd ei bod yn amhosibl cael ateb iddi – symud pobl a oedd wedi bod yn cysgu allan yn y tymor hir oddi ar y strydoedd, i mewn i lety a chyda chyfle i ailadeiladu eu bywydau.
Yr her yn awr yw adeiladu ar y polisi cychwynnol hwn a gwneud y newid hwn mewn argyfwng yn newid parhaol. Gwyddom nad yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn hawdd; ond dyma’r peth iawn i’w flaenoriaethu. Bydd yn lleihau’r galw ar wasanaethau brys ac acíwt, mae’n achub bywydau ac yn gwneud defnydd gwell o arian. A yw hyn yn ddichonadwy?
Yn seiliedig ar ein hymchwil rydym ni, yn Archwilio Cymru, yn credu am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth bod lleihau maint cysgu allan yng Nghymru’n bosibilrwydd. Ond mae angen i gyrff cyhoeddus nid dim ond canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl do uwch eu pennau. Mae angen i’r holl bartneriaid newid yr hyn y maent yn ei wneud a sut y maent yn ei wneud.
Ar lefel genedlaethol mae’n hanfodol bod llywodraethau’n rhoi arweinyddiaeth glir ar gyfer mynd i’r afael â’r mater hwn. Mae angen i bob rhan o’r sector cyhoeddus gydweithio i ddarparu tai amgen, a rhoi cymorth a chynhorthwy i’r rhai sydd heb le i gadw’n ddiogel. Yn hyn o beth mae Cymru eisoes ar ben ffordd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar ei bod yn buddsoddi £20 miliwn arall a fydd yn cael ei ddefnyddio i adeiladu cartrefi ac addasu cartrefi gwag i atal pobl ddigartref rhag gorfod mynd yn ôl ar y strydoedd ar ôl y pandemig. Gofynnir i gynghorau ddatblygu cynlluniau a dod o hyd i gartrefi parhaol ar gyfer cannoedd o bobl sy’n cysgu allan a symudodd i lety argyfwng yn ystod y cyfnod o fod dan glo.
Ar y brig, y neges yw “gallwn wneud hyn”. Ond beth arall y mae angen iddo ddigwydd?
Ar ddiwedd y mis byddwn yn cyhoeddi adroddiad a fydd yn nodi sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i roi diwedd ar gysgu allan. I helpu i wneud yr uchelgais hwn yn realiti rydym ni’n credu bod angen i gyrff cyhoeddus:
Mae ein hadroddiad yn cynnwys hunanasesiad i gyrff cyhoeddus ei ddefnyddio i helpu i lunio’u hymateb. Rydym hefyd wedi cyhoeddi offeryn data i nodi ble y mae angen inni ganolbwyntio gwaith atal yn y dyfodol i fynd i’r afael o ddifrif â digartrefedd yn y tymor hir.
Mae Cymru ar drothwy cyflawni rhywbeth gwirioneddol drawsnewidiol. Mae ymateb i effaith y pandemig ar gysgu ar y stryd wedi dangos beth sy’n bosibl – yn awr ein lle ni i gyd yw sicrhau mai dim mwy o ddigartrefedd yw’r ‘normal newydd’!
Rheolwr Llywodraeth Leol yn Archwilio Cymru yw Nick Selwyn, a chanddo gyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau llywodraeth leol Cymru gyfan a’n gwaith gydag Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru 15 mlynedd yn ôl, bu’n gweithio i nifer o awdurdodau lleol ym meysydd tai a gofal cymdeithasol ac mae’n un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig.