Iechyd meddwl yn ystod COVID-19

05 Tachwedd 2020
  • COVID-19-rainbow-wordpress

    Rydym yn edrych ar waith sy’n digwydd ar draws y sectorau cyhoeddus i weld sut mae sefydliadau yn ymateb i effaith Covid-19 a sut maent yn gweithio'n wahanol i ddarparu gwasanaethau.

    Rydym wedi meddwl y byddai o fudd petawn yn rhannu peth o’n gwaith sydd wedi amlygu rhai meysydd sy'n ymwneud â chefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl a byddwn hefyd yn trydar amdanynt yr wythnos hon. Rydym hefyd yn trafod themâu tebyg ar gyfer pobl ag anableddau anghenion dysgu ac am eu rhannu nhw hefyd.

    Dwi wedi bod yn meddwl cryn dipyn am iechyd meddwl dros y misoedd diwethaf ers dyfodiad Covid-19.

    Yn y perygl o ddatgan yr amlwg, mae gennym oll iechyd meddwl. Byddai'n braf meddwl amdano fel naill ai teimlo’n iach neu ddim yn iach, ond wrth gwrs nid yw mor syml â hynny. Mae’n llwybr troellog ac yn un nad ydym wedi gofyn am fod arni.

    Fe ddaeth COVID-19 law yn llaw â nifer o heriau i ni gyd gyda’r mwyaf amlwg ac uniongyrchol yn rhai corfforol - gweithio o gartref, ymbellhau cymdeithasol, addysgu plant gartref, siopa'n wahanol a gwarchod y rhai sydd fwyaf agored i niwed corfforol o’r firws

    Rydyn ni i gyd wedi gorfod addasu'n gyflym iawn i'r hyn sy'n digwydd, ac os ydych chi fel fi, llwyddais i addasu i'r newidiadau corfforol yn eithaf cyflym.

    Ond daeth COVID-19 hefyd law yn llaw â ffactorau eraill megis ansicrwydd a diffyg rheolaeth, poeni am gyfeillion a theulu, pryderon ariannol, unigrwydd a cholli cysylltiad cymdeithasol ac ymdeimlad cynyddol o rwystredigaeth a blinder cyffredinol. Yn anffodus, mae rhai wedi gorfod ymdopi â cholli anwyliaid neu wedi gorfod ymdopi â straen ychwanegol fel gweithiwr allweddol mewn amgylcheddau risg uchel.

    Mae'n ddigon hawdd siarad am yr heriau corfforol rydyn ni’n eu hwynebu ac sy’n gyffredin rhyngom (sicrhau bod gennym ddigon o bapur tŷ bach, neu'r her o gael bwyd). Nid yw'r un mor hawdd trafod y pwysau a'r heriau meddyliol rydyn ni'n eu hwynebu, na sut rydyn ni'n ymdopi.

    Dyma pam bod gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl mor bwysig ar hyn o bryd, yn enwedig i'r rheiny a oedd angen cymorth cyn i Covid-19 effeithio ar ein bywydau. Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi gorfod addasu'n gyflym ac roedd yn gwbl briodol bod y ffocws ar ymateb i’r pandemig.

    Mae hyn wedi golygu bod rhai gwasanaethau traddodiadol wedi gorfod dod i stop, mae rhai wedi gorfod addasu ac mae rhai wedi mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.

    Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn wahanol, ac ynghyd â'r galw arferol/rheolaidd am wasanaethau nid yw’n syndod clywed bod y galw am wasanaethau iechyd meddwl yn cynyddu.

    Fe wnaeth Mind (elusen iechyd meddwl genedlaethol) ddarganfod ym mis Mai bod chwarter o’r bobl y gwnaethant siarad â hwy heb allu cael mynediad at y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt. Mae pryderon tebyg wedi'u codi hefyd gan bobl sydd ag anghenion anabledd dysgu.

    Trwy ein gwaith rydym wedi dod ar draws enghreifftiau o rannu gwybodaeth yn well, newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a sut mae rhai cymunedau yn gweithio i gefnogi ei gilydd.

    Dyma ond ambell i enghraifft yn unig, ond ewch i weld ein Trydar am fwy o wybodaeth ac i gyfrannu:

    • Mae Ymddiriedolaeth GIG Partneriaeth Surrey a'r Gororau wedi cynhyrchu amryw o fideos YouTube i esbonio COVID-19 [agorir mewn ffenestr newydd] ac ymbellhau cymdeithasol i bobl ag anableddau dysgu.
    • Mae Coleg Brenhinol Meddygon Teulu wedi rhyddhau eu cynnwys e-ddysgu [agorir mewn ffenestr newydd] cyfan yn rhad ac am ddim tan 30 Medi 2020 er mwyn cynorthwyo unrhyw feddyg teulu a gweithiwr gofal iechyd cynradd sy'n dychwelyd mewn ymateb i covid-19. Mae hyn yn cynnwys gweminarau ar ymgynghori o bell ar faterion iechyd meddwl ac mae ganddo wybodaeth sy'n benodol i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.
    • Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent wedi creu rhith-wasanaeth gan nad yw gwasanaethau wyneb yn wyneb yn bosibl. Dyma enghraifft o sut y gall gwasanaethau addasu i amgylcheddau sy'n newid yn gyflym heb fuddsoddiad sylweddol. Mae’r gwasanaeth wedi creu poster [agorir mewn ffenestr newydd] i helpu cyfathrebu'r newidiadau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
    • Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhannu rhaglen newydd sy'n cael ei alw'n ‘Cryfach gyda’n Gilydd [agorir mewn ffenestr newydd]’ i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl hŷn yn y cyfyngiadau. Mae'n eu cefnogi a’u hannog i ymgymryd â gweithgaredd newydd neu rannu diddordeb sydd eisoes yn bodoli gydag eraill.

    Tynnwyd fy sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl a lles pan oeddwn yn cymryd rhan yn Arolwg Lles COVID-19 Cymru [agorir mewn ffenestr newydd] i helpu'r GIG yng Nghymru ddeall sut y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar iechyd meddwl a lles trigolion Cymru.

     

    Mae'r arolwg ond yn cymryd 10 i 15 munud i'w gwblhau, felly gwnewch baned a rhowch gynnig arni.

    Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein dull ar gyfer dysgu, rhannu ac ysbrydoli yma [agorir mewn ffenestr newydd].

    Mwy am yr awdur

    andrew-doughtonMae Andrew Doughton yn Archwilydd Arweiniol yn y tîm iechyd. Ar hyn o bryd, mae'n arwain ystod o astudiaethau iechyd cenedlaethol gan gynnwys ar wasanaethau orthopedig, ac mae’n Archwilydd Arweiniol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae wedi bod gydag Archwilio Cymru a’i gyrff rhagflaenol ers 2001.