Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ym mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau gwariant newydd mewn ymateb i COVID-19.
Dyma’r tro cyntaf erioed i Lywodraeth Cymru gynhyrchu Cyllideb Atodol ym mis Mai. Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, ymarfer technegol iawn yw’r Gyllideb Atodol Gyntaf, gyda newidiadau cyfyngedig mewn cynlluniau gwariant.
Ond mae diweddariad y Gyllideb eleni yn wahanol. Mae’n cyflwyno cynlluniau ar gyfer £2.5 biliwn o wariant newydd i gefnogi’r ymateb i COVID-19. Mae hyn yn gynnydd o fwy na 10% yng nghyllideb Llywodraeth Cymru: lefel o gynnydd blynyddol heb ei debyg.
Mae Ffigur 1 yn dangos y ffynonellau ariannu ar gyfer gwariant COVID-19 Llywodraeth Cymru. Daw’r rhan fwyaf o bell ffordd o gynnydd yn y grant bloc, sy’n cael ei sbarduno’n uniongyrchol gan ymrwymiadau gwariant sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ailflaenoriaethu’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd sydd ar gael iddi hefyd er mwyn cefnogi’r ymateb i COVID-19 ac wedi symud cyllid oddi wrth rai o’i rhaglenni cyfredol er mwyn blaenoriaethu’r ymateb i COVID-19.
Ffigur 1: Ffynhonnell £2.5 biliwn o gyllid newydd ar gyfer COVID 19.
Sylwer: Mae ‘arall’ yn cynnwys cynnydd yn y grant bloc o ganlyniad i Gyllideb y DU ym mis Mawrth 2020 (nad oedd wedi’i gynnwys yng nghyllideb derfynol 2020-21 Llywodraeth Cymru), sydd wedi gostwng yn rhannol oherwydd gostyngiad disgwyliedig mewn cyllid o’r Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru. Mae mwy o fanylion am hyn yn y Nodyn Esboniadol [agor mewn ffenestr newydd] i Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Archwilio Cymru o Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-2021.
Daw’r £256 miliwn o gyllid wedi’i ailflaenoriaethu o dros 60 o raglenni unigol gwahanol ledled Llywodraeth Cymru. Nid oes digon o le i nodi’r rhain yn fanwl.
Mae rhai o’r prif symudiadau mewn cyllid yn cynnwys: £50 miliwn a fwriadwyd i wella amseroedd aros y GIG; £30 miliwn a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i Gymru; £16.3 miliwn ar gyfer cyllido addysg uwch; a £12 miliwn o gyllid ar gyfer prentisiaethau.
Gellir rhannu’r £2.5 biliwn o ymrwymiadau gwariant newydd rhwng dau brif faes gwariant:
Mae COVID-19 yn cael effaith sylweddol iawn ar economïau cenedlaethol ledled y byd. Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod economi’r DU wedi crebachu dros 20% yn ystod mis Ebrill yn unig. Dyma’r gostyngiad mwyaf, o gryn dipyn, ers dechrau cadw cofnodion.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi busnesau ac elusennau wrth iddynt geisio goroesi’r storm economaidd hon. Mae Ffigur 2 yn rhoi dadansoddiad o’r ‘Cymorth i fusnesau, y sector gwirfoddol a thrafnidiaeth’.
Ffigur 2: Dadansoddiad o’r £1.7 biliwn a ddyrannwyd ar gyfer cymorth i fusnesau, y sector gwirfoddol a thrafnidiaeth.
Sylwer: Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cynnwys £100 miliwn o arian cyfalaf hefyd sydd wedi’i neilltuo at ddibenion gwahanol ym Manc Datblygu Cymru.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Archwilio Cymru o Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-21.
Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ein holl wasanaethau cyhoeddus hefyd. Rydym wedi gweld trawsnewid cyflym mewn rhai meysydd allweddol, gydag ysbytai maes newydd yn cael eu hadeiladu mewn wythnosau ledled Cymru. Gwelwyd rhai gwasanaethau’n cael eu hoedi a rhai staff yn cael eu symud i gyflawni tasgau eraill.
Mae Ffigur 3 yn nodi’r dadansoddiad o’r cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Fel y gellid disgwyl yn ystod argyfwng iechyd, dyrannwyd y rhan fwyaf o’r arian i’r GIG. Mae gofal cymdeithasol yn cael £50 miliwn am daliad untro ar gyfer staff a phecynnau gofal ar gyfer cleifion sy’n gwella, yn ogystal â £40 miliwn o fewn Cronfa Galedi Llywodraeth Leol i fynd i’r afael â chostau uwch mewn gofal cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ychwanegol sylweddol i lywodraeth leol er mwyn rheoli amrywiaeth o effeithiau, gan gynnwys costau ychwanegol a cholli ffrydiau incwm yn ystod y pandemig.
Ffigur 3: Dadansoddiad o’r £763 miliwn o gyllid a ddyrannwyd i iechyd a gwasanaethau cyhoeddus
Sylwer: Mae Cronfa Galedi Llywodraeth Leol yn cynnwys: £40 miliwn ar gyfer costau ychwanegol ym maes gofal cymdeithasol; £40 miliwn i gefnogi’r rhai sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim; £10 miliwn i fynd i’r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd; £7 miliwn i gefnogi’r costau ychwanegol sy’n ymwneud â marwolaethau ychwanegol; a £78 miliwn i wrthbwyso colli incwm a chefnogi cadernid ariannol.
Yn ogystal â’r arian ychwanegol yn y grantiau bloc a gafodd ei ailflaenoriaethu rhwng adrannau a rhaglenni, bu newidiadau sylweddol o fewn adrannau hefyd i ailgyfeirio cyllid tuag at feysydd blaenoriaeth.
Mae Ffigur 4 yn nodi rhai o’r enghreifftiau allweddol.
Ffigur 4: Symudiad cyllid allweddol o fewn cyllidebau adrannol i ymateb i COVID-19.
Ffynhonnell: Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 Llywodraeth Cymru.
Nid diwedd y stori yw’r gwariant newydd, wedi’i ailffocysu, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi nodi yn ei dadansoddiad [agor mewn ffenestr newydd] bod £404 miliwn arall i ddod i Gymru o ganlyniad i ymrwymiadau gwariant newydd yn Lloegr.
Roedd yr arian hwn wedi’i gyhoeddi ond heb ei ffurfioli adeg diweddariad cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’n debygol hefyd y bydd cyhoeddiadau pellach ar wariant wrth i’r sefyllfa ddatblygu a’n bod ni’n symud i gamau newydd o’r ymateb i COVID-19.
O fewn cyrff cyhoeddus unigol ledled Cymru, bu ailflaenoriaethu enfawr o ran adnoddau, ac mae angen ystyried hynny hefyd wrth feddwl am effaith ariannol COVID-19.
Yr enghraifft amlycaf yw bod y GIG wedi rhoi’r gorau i bob gweithgaredd nad oedd yn weithgaredd brys; adleoli staff ac addasu theatrau llawdriniaeth at ddibenion cefnogi gofal dwys. Gwyddom fod staff Llywodraeth Leol wedi cael eu hadleoli i rolau newydd, er enghraifft, gyda rhai swyddogion gorfodi parcio yn helpu i reoli ciwiau mewn safleoedd ailgylchu gwastraff sydd newydd agor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod 80% o’i staff wedi bod yn gweithio ar weithgarwch sy’n gysylltiedig â COVID-19 i ryw raddau. Mae ailgyfeirio pobl ac asedau fel hyn yn cynrychioli ailddyrannu sylweddol o adnoddau a ariennir yn gyhoeddus o’r gwaith bob dydd tuag at ymateb i’r pandemig.
Mae Llywodraeth y DU wedi gwario symiau sylweddol hefyd yn cefnogi pobl yng Nghymru, yn enwedig trwy ei chynlluniau ffyrlo ar gyfer staff a darparu cymorth i weithwyr hunangyflogedig.
Mae data Trysorlys EM yn dangos bod dros 316,000 o weithwyr – tua chwarter y gweithlu – yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y cynllun ffyrlo a bod 102,000 yn rhagor wedi manteisio ar gymorth ar gyfer pobl hunangyflogedig. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddar fod tua 80% o fusnesau yng Nghymru yn gwneud rhywfaint o ddefnydd o’r cynllun ffyrlo.
Mae maint y gwariant ar ymateb i COVID-19 yn ddigynsail yn ystod y cyfnod diweddar ac mae cyflymder gwneud penderfyniadau a gweinyddu yn cyflwyno ei risgiau a’i heriau ei hun.
Mewn datganiad diweddar [agor mewn ffenestr newydd], mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi pwysleisio rhai o’r egwyddorion allweddol ar gyfer rheoli’r cyllid hwn yng Nghymru a’i ddull o roi sicrwydd a chefnogi gwaith craffu a gwella.
Mae Mark Jeffs yn Rheolwr Archwilio yn y Tîm Astudiaethau Cenedlaethol. Mae wrthi’n rheoli amryw o astudiaethau gwerth am arian gan gynnwys astudiaethau ar dlodi tanwydd, Brexit a’n gwaith Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus. Mae wedi bod gydag Archwilio Cymru a’r sefydliadau oedd yn ei ragflaenu ers 2004.