Clwy'r Traed a'r Genau 2001 yn erbyn COVID-19

05 Tachwedd 2020
  • Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i sut rydym yn dysgu?

    Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i sut rydym yn dysgu?

     

    Y Byd Cyn y Cyfryngau Cymdeithasol

    Pan gafwyd achosion o Glwy'r Traed a'r Genau yn 2001 (FMD-01), roedd y defnydd o'r rhyngrwyd yn gyfyngedig, ac nid oedd neb wedi clywed am 'y cyfryngau cymdeithasol'. Sefydlwyd Facebook yn 2004, a Twitter yn 2006. Ar y llaw arall, mae COVID-19 wedi bod yn 'bandemig y cyfryngau cymdeithasol' i raddau helaeth iawn. I lawer o bobl, dyma eu prif ffynhonnell wybodaeth (os nad yr unig un).

     

    Mae'r sylwadau hyn yn fyfyrdod personol ar rai o’m profiadau yn ystod FMD-01, sut mae pethau'n wahanol yn ystod COVID-19, a sut gallen nhw fod yn well. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar effaith y cyfryngau cymdeithasol ar sut rydym yn dysgu ac yn gwrando.

     

    Bywyd gweithredol yn ystod FMD-01

    Yn ystod FMD-01 roeddwn yn gweithio mewn swydd weithredol i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, sef y sefydliad a oedd yn gyfrifol am ddiogelu adnoddau naturiol yng Nghymru; ansawdd y tir, yr aer a'r dŵr. Roeddwn wedi bod yn gwneud y math hwn o waith ers tro, ac roeddwn yn gymharol gyfforddus gyda gwaith rheoleiddio a gwella'r amgylchedd.

     

    Ond roedd yn gyfnod anodd, ac mae argyfwng fel FMD-01 yn gadael ei ôl. Roeddwn wedi tyfu i fyny mewn ardal lled wledig, gan roi help llaw ar ffermydd yn ystod fy ieuenctid, felly roeddwn yn meddwl fy mod yn gwybod ychydig am fywyd ffermio. Wel, does dim byd yn eich paratoi ar gyfer y poen, y dicter a'r anobaith a wynebais yn ystod y sgyrsiau 'canolfan alwadau' gyda'r gymuned ffermio. Roedd pobl wedi gorfod gweld eu holl ddiadellau o ddefaid a'u buchesi o wartheg yn cael eu difa fel rhan o’r 'mesurau rhagofalus’.

     

    Lladdwyd 6 miliwn o wartheg a defaid ledled y DU. Er mwyn atal y feirws FMD-01 rhag ymledu'n barhaus, bu'n rhaid cael gwared â'r carcasau hynny mewn ffordd nad oedd yn diraddio'r amgylchedd. Ni fyddaf byth yn anghofio’r golygfeydd erchyll o’r pyllau amlosgi a'r claddu ar raddfa fawr ar Fynydd Epynt. Dyma oedd 'dileu'r feirws' mewn ffordd gwbl ddigyfaddawd ar raddfa ddiwydiannol.

     

    Cyfathrebu mewn argyfwng

    Digwyddodd fy mhrofiadau FMD-01 cyn i'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio'n eang. Mae'r sefyllfa'n gwbl wahanol heddiw wrth i'r cyfryngau cymdeithasol roi sylw helaeth i  COVID-19. Wrth fyfyrio ar y ddwy sefyllfa, rwy'n credu bod y cyfryngau cymdeithasol wedi cael effaith sylweddol ar ddau faes cyffredinol:

    • Sut rydym yn cael gwybod am beth sy'n digwydd (rhannu gwybodaeth)
    • Deall effaith y sefyllfa ar fywydau pobl (sut mae pobl yn lleisio eu barn).

     

    Hysbysu pobl am yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wybod

    Yn ystod FMD-01 roedd y broses o rannu gwybodaeth yn gymharol syml. Yn fras, roedd pedwar dull:

    1.       Cyfryngau Swyddogol

    Gwybodaeth gan y Llywodraeth (cenedlaethol a lleol).

    2.       Y Wasg a'r Cyfryngau Prif Ffrwd

    Yr hyn roeddem yn ei ddarllen mewn papurau newydd, ei glywed ar y radio neu ei wylio ar y teledu. Roedd hyn yn gymharol debyg i wybodaeth gan gyfryngau 'swyddogol'.

    3.       Lledaenu Sefydliadol

    Fel rhywun a oedd yn gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, roeddwn yn derbyn gwybodaeth am y wyddoniaeth, y dystiolaeth a'r ffeithiau gofynnol i wneud fy ngwaith (gallai hyn fod yn wahanol i 1 a 2 uchod).

    4.       Sïon

    Yr hyn y mae pobl yn siarad amdano gyda'u teulu, eu ffrindiau a'r bobl y maent yn eu cyfarfod yn y swyddfa bost neu'r dafarn.

     

    Arhoswch am ennyd i gymharu sefyllfa FMD-01 â'r sylw cyson sy'n cael ei roi i COVID-19 ar y cyfryngau cymdeithasol.

     

    Os edrychwch yn gyflym ar y rhyngrwyd fe welwch filoedd o safbwyntiau ar COVID-19. Mae pobl yn sgrechian am sylw. Mae hyn yn amrywio o gyfryngau swyddogol y llywodraeth ac Athrawon Epidemioleg i newyddion ffug, damcaniaethwyr cynllwyn a phobl â syniadau rhyfedd. Ond pwy ydych chi'n ymddiried ynddo?

     

    Allwch chi ymddiried yn y cyfryngau cymdeithasol mewn argyfwng?

    Yn 2015 fe ysgrifennais erthygl am y pwnc gan gyfeirio at rywbeth o'r enw 'Troll Farms'. Un peth a nodais oedd yr angen i feddwl yn feirniadol – er mwyn canfod pwy y gallwch chi ymddiried ynddo.

     

    Mae'r hyn a ddywedais yn 2015 yn berthnasol o hyd i COVID-19 - dim ond y ffynonellau gwybodaeth sydd wedi newid. Ar nodyn cadarnhaol, dwi wedi llwyddo i ganfod nifer o ffynonellau gwybodaeth diddorol a dibynadwy, gan gynnwys:

     

    • @PaulMatthews67. Paul yw Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, ac mae'n trydar bob dydd ar faterion COVID-19 sy'n bwysig i bobl Sir Fynwy. Mae dull ffeithiol ac uniongyrchol Paul yn apelio ataf fel bod dynol. Rwy'n hoffi hynny.
    • @LloydCymru. Mae Lloyd yn berson ifanc 16 oed o Geredigion sy'n rhannu ystadegau 'hawdd eu deall' am COVID-19 yng Nghymru. Mae Lloyd yn unigolyn dylanwadol â thros 13,000 o ddilynwyr, ac mae'n siŵr bod llawer o epidemiolegwyr yn eiddigeddus ohono.
    • @AuditWales a @AuditWales_GPX. Yn fy maes fy hun, rydym yn rhannu'r hyn rydym wedi'i ddysgu am beth mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud i ymateb i COVID-19.

     

    Yn ystod FMD-10, go brin y byddai neb wedi disgwyl derbyn gwybodaeth (ar ffurf trydariadau 280 nod) gan blentyn 16 oed a Phrif Weithredwr Cyngor Lleol. Dyna'r drefn newydd yn ystod COVID-19. Felly, ynghanol yr holl wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, mae angen dod o hyd i ffynonellau dibynadwy.

     

    Gwrando'n ofalus

    Mae gwrando ar brofiadau defnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion yn rhan allweddol o'r hyn y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud.

     

    Mae rhai pobl yn rhannu gormod o ddeunydd am eu profiadau COVID-19 ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae 'Hanesion Covid' (caneuon, fideos a dehongliadau drwy gyfrwng dawns) ar gael o bron pob cwr o gymdeithas, ar bob llwyfan cyfryngau cymdeithasol y gallwch feddwl amdano. Mae hwn yn gyfle.

     

    Mae'n gyfle i wasanaethau cyhoeddus wrando ar yr hyn sy'n digwydd (y da a'r drwg) a defnyddio'r wybodaeth hon i lunio gwasanaethau er mwyn bodloni anghenion pobl. Efallai nad ydynt yn 'gofyn' am rywbeth, ond maent yn rhannu gwybodaeth bwysig. Mae angen i chi 'wrando' yn y mannau cywir.

     

    Roedd pethau'n wahanol yn ystod FMD-01, ac roedd y broses o wrando'n digwydd yn aml drwy ymgynghoriadau a phrosiectau ymchwil ffurfiol. Nid oedd unrhyw ffordd ddibynadwy o gymryd rhan yn y sgwrs yn y swyddfa bost neu'r dafarn.

     

    Mae enghraifft o waith ymchwil a oedd yn disgrifio effaith FMD-01 ar y gymuned ffermio wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn. Cofiwch mai adroddiad cwbl ddigyfaddawd yw ‘The impact of the foot and mouth outbreak on mental health and well-being in Wales’. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn 2003 ac mae'n seiliedig ar waith ymchwil cadarn. Fodd bynnag, mae'n rhaid cwestiynu amseriad yr adroddiad a'i effaith yn y pen draw ar benderfynwyr a darparwyr gwasanaethau.

     

    Parhaodd effeithiau FMD-01, gan gynnwys effeithiau ar iechyd meddwl, am flynyddoedd lawer yng nghymunedau gwledig Cymru. Mewn cyferbyniad, mae llawer o'r trafodaethau am effaith COVID-19 ar iechyd meddwl yn amlwg iawn ac yn digwydd mewn 'amser real’. Rwy'n credu bod hyn wedi cael dylanwad ar gyflwyno mesurau mwy uniongyrchol i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol.

     

    Ar sail fy mhrofiad personol, credaf fod rhannu straeon drwy'r cyfryngau cymdeithasol, a gallu gwasanaethau cyhoeddus i wrando a gweithredu'n gyflym, wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol wrth ymateb i COVID-19 o'i gymharu ag FMD-01. Amser (ac astudiaeth ymchwil mae'n debyg) a ddengys yn y pen draw, ond diolch i'r cyfryngau cymdeithasol rydym yn siarad am y sefyllfa mewn amser real.

     

     

    Felly, beth allwn ni ei wneud?

    1.       Gallai cydnabod effaith y cyfryngau cymdeithasol a'r gwahaniaeth rhwng FMD-01 a COVID-19 helpu i nodi cyfleoedd yn ymwneud â sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu a sut rydym yn gwrando (ac yn dysgu).

    2.       Mae'n bwysig nodi pwy sy'n darparu gwybodaeth ddibynadwy. Meddyliwch am eich rôl fel 'ffynhonnell ddibynadwy’.

    3.       Rhaid gwybod pryd mae angen i chi wrando'n effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae pobl yn siarad ac yn rhannu llawer o wybodaeth.

     

    Gwybodaeth am yr awdur: 

     

    A person wearing glasses and smiling at the cameraMae Chris Bolton yn aelod o Dîm Arferion Da Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r swydd yn ymwneud â gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl i nodi a rhannu arferion da er mwyn cefnogi gwelliannau mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Chris yn Aelod o Fwrdd dau sefydliad y tu allan i'r gwaith, ac roedd yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Cofio Winston Churchill yn 2018. Mae Chris yn myfyrio ar y profiadau hyn a phrofiadau eraill ar ei flog personol [agorir mewn ffenestr newydd]: www.whatsthepont.blog. Cyn gweithio ym maes archwilio, bu Chris yn gweithio ym maes gwella a rheoleiddio amgylcheddol.