Golau Cynnes yr Hydref

18 Tachwedd 2020
  • Sut mae ysgrifennu creadigol yn helpu i wneud synnwyr o’r byd a gwella iechyd meddwl, o garcharorion i’r gweithlu gwasanaeth cyhoeddus.

    Mellt o’r Isymwybod

    Haf Bach Mihangel; cyfnod o gynhesrwydd a golau’r haf wrth i’r hydref gyrraedd, a gan fod dydd San Mihangel ar Fedi’r 29ain. Caiff ei alw’n Haf Indiaidd yn aml yn y Saesneg hefyd, ymadrodd a ddeilliodd o’r UDA. Dyma oedd teitl Ysgol Haf Hwyr Addysg Oedolion Cymru ac roedden ni wrth law yn y Gyfnewidfa Arfer Da gydag ychydig o gymorth technegol.

    Un o’r sesiynau a gefnogwyd gennym oedd sgwrs ddifyr iawn gan yr awdures Sian Northey [agorir mewn ffenestr newydd] ar y berthynas rhwng ysgrifennu a llesiant. Yn ei sgwrs, crybwyllodd y gall awduron feddwl yn aml eu bod yn ysgrifennu am un peth, ond yn ysgrifennu am rywbeth arall mewn gwirionedd, a hynny’n llawer agosach at adref. Er mwyn pwysleisio, disgrifiodd y sylweddoliad a wnaeth ei tharo wrth ysgrifennu ei chyfres gyntaf o straeon byrion. ‘Roedd yn gweithio ar ddarn oedd yn ymddangosiadol ddiniwed am deimladau gwraig yn datgymalu a cholli ei hymdeimlad ohoni ei hun tra’n teithio mewn llong ofod ar daith hir, ond daeth i sylweddoli ei bod mewn gwirionedd yn ysgrifennu am ei phriodas ei hun.

    Aeth ymlaen i ddisgrifio sut roedd wedi gweithio gyda charcharorion yn HMP Berwyn, Roedd y sesiynau ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd yn llyfrgell y carchar yn boblogaidd iawn fel arfer, gan fod bisgedi ar gael a gan fod cyfle i garcharorion wneud rhywbeth yn Gymraeg. Mae’r straeon newyddion diweddar [agorir mewn ffenestr newydd] yn ein hatgoffa nad yw gallu defnyddio eich mamiaith yn rhywbeth y dylid ei gymryd yn ganiataol. Roedd y sesiynau’n gyfle i’r carcharorion ymlacio rhywfaint hefyd. Wrth iddynt ymlacio fel hyn roedd yn rhoi cipolwg ar eu personoliaethau yn eu cyfanrwydd, nid eu personoliaethau carchar yn unig, wedi’i hwyluso gan y gair ysgrifenedig.

    Hobïau a Llesiant

    Mae’n hysbys ers tro byd bod hobïau, yn enwedig rhai creadigol yn ffordd dda o ysgafnhau straen a rhoi ymdeimlad o feistrolaeth a rheolaeth mewn byd prysur a dryslyd. Byd sydd ddim llai prysur a dryslyd yn sgil COVID-19. Dim ond y ffiniau sydd wedi newid.

    Mae gan hobïau creadigol yn enwedig ffordd o adael i ni ddianc o’n bywydau. I ddefnyddio darllen ac ysgrifennu eto fel enghraifft: Elfen ganolog o gyfres o nofelau Thursday Next gan Jasper Fforde yw Thursday, sef gallu’r prif gymeriad i gludo ei hun rhwng dau fyd. Y mecanwaith ar gyfer gwneud hyn yw’r adeg pan mae darllenydd yn dechrau clywed yr adar canu yn y coed a ddisgrifir ar dudalen, dechrau arogli’r glaswellt a theimlo’r heulwen. Yr eiliad nesaf mae wedi’i chludo mewn i’r llyfr ac yn gorfod bod yn ofalus iawn nad yw’n effeithio ar y stori.

    Yr eiliad drosgynnol honno o golli pob synnwyr o amser mewn breuddwyd bell yw natur rydd hobi neu weithgarwch hamdden. Yn yr un ffordd ag y mae cyrraedd golygfa ysblennydd wrth gerdded mynydd yn eiliad drosgynnol sy’n cael gwared ar amser ac ymdrech y daith.

    Wrth i ni fynd ati i gyflawni tasg greadigol rydym yn ymgolli yn y gwaith ar sawl lefel – yn ymwybodol ac yn ddiarwybod. Mae’r weithred syml o ysgrifennu am eich diwrnod yn ffordd o brosesau digwyddiadau’r diwrnod. Mae’r weithred o ysgrifennu llythyr at rywun, heb unrhyw fwriad o’i anfon yn dechneg gydnabyddedig o gael meddyliau a theimladau allan o’ch pen, ac ar bapur. Y peth pwysicaf yw eu cael allan. I brosesu.

    Adborth Gonest

    Ers y 12 mlynedd diwethaf o leiaf, mae cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi bod yn crebachu’n gyson. Mae natur y gwasanaethau eu hunain wedi newid yn llwyr hefyd, gyda’r argyfwng sydd ohoni yn achosi i bethau newid ac addasu yn gynt. Gyda newid daw straen a chyfle, a phryderon yn sgil hynny am lesiant a chefnogi staff.

    Ymddengys mai nod parhaus unrhyw sefydliad yw canfod beth mae’r staff yn ei feddwl mewn gwirionedd, ydyn nhw’n fodlon gyda’u rolau mewn gwirionedd ac a yw pawb yn cydweithio ac yn cyd-dynnu i gyflawni’r amcanion? I ba raddau mae eu swyddi a’r sefydliad yn rhoi boddhad iddynt? Yn y pen draw mae arweinwyr am wybod os yw’r gweithlu’n eu cefnogi nhw a’u penderfyniadau.

    Felly, a fyddai’n werth ceisio sbarduno creadigrwydd staff, heb gysylltiad â’u gwaith? Defnyddio technegau mynegiant rhydd i’w galluogi i gyfathrebu’n onest, yn ymwybodol ac yn ddiarwybod. I alluogi pobl i gyfathrebu’n rhydd, gyda’u hunain a’r byd mewn lle diogel.

    Tybed beth fyddem yn ei ddysgu.

    Y Fersiwn Gryno

    1. Yn aml, gall ysgrifennu neu gelfyddydau eraill ddatgelu mwy na’r bwriad i ni, yn aml gallwn fod yn creu ar un thema ar yr wyneb, ond mewn gwirionedd rydym yn mynd i’r afael â thema ddyfnach, hollol wahanol.
    2. Mae gweithgareddau creadigol neu hobïau’n ein helpu i ddianc o weddill ein bywydau a rhoi’r cyfle i ni ganolbwyntio.
    3. A ellid defnyddio’r dechneg hon mewn mannau diogel i ddenu safbwyntiau ar wasanaethau cyhoeddus Cymru?

    Ynglŷn â’r awdur

    Mae Sion Owen yn Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth yn y Gyfnewidfa Arfer Da. Ymunodd ag Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2019, ac roedd wedi gweithio i awdurdod lleol cyn hynny.