Yr hyn mae Cynllun Swyddfa Archwilio Cymru i Raddedigion yn ei gynnig i fi – a chi

05 Tachwedd 2020
  • Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio graddedigion, gofynnwyd i rai o'n hyfforddeion presennol i flogio a dweud pam y gwnaethant gais yn y lle cyntaf a sut beth yw bywyd ar raglen graddedigion Swyddfa Archwilio Cymru.

    Yma, mae Harrie Clemens yn ysgrifennu am fyfyrdodau personol.

    I gael gwybod rhagor am y cynllun, a sut i wneud cais, edrychwch ar ein gwefan [agorir mewn ffenest newydd]

    Cymwysterau

    Fel graddedigion Swyddfa Archwilio Cymru, ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag at Gymhwyster Cyfrifyddu nodedig ICAEW ACA. Mae hwn hefyd yn un o ddewis gyrsiau y 4 cwmni cyfrifyddu mawr ac mae hyfforddeion o'r cwmnïau hyn yn ymuno â ni yn y coleg. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cael hyfforddiant Lefel 3+ ILM. Mae hwn yn gwrs rheoli a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae hwn a'r ACA yn gymwysterau y mae galw mawr amdanynt ac sy'n edrych yn dda ar eich CV.

    Enw da

    Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru enw da yn genedlaethol am ei rhaglen i hyfforddeion, nid yn unig yn y sector cyhoeddus, ond ym maes Archwilio a Chyfrifyddu hefyd. Os ydych yn bwriadu symud ymlaen ar ôl treulio cyfnod gyda Swyddfa Archwilio Cymru, gallwch ddibynnu ar enw da'r sefydliad fel lleoliad eich hyfforddiant.

    Amrywiaeth

    Mae gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yn eang ei gwmpas ac mae'r portffolio o waith yn amrywiol ac yn newid. Nid gormodiaith fyddai dweud bod pob dydd yn SAC yn wahanol!

     

    Rhwng yr archwiliadau amrywiol y byddwch yn gweithio arnynt yn ystod eich contract hyfforddi, ac ar eich secondiad hefyd, bydd y profiad y byddwch yn ei ennill yn Swyddfa Archwilio Cymru yn amrywiol.

    Effaith

    Pan oeddwn yn gwneud ceisiadau am gynlluniau i raddedigion, roeddwn yn benderfynol o weithio yn y sector cyhoeddus. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi mynd y tu hwnt i'm disgwyliadau. Rhwng archwilio taliadau grant yr UE, i dreuliau Aelodau o'r Cynulliad, gallaf weld yr effaith ehangach y mae fy ngwaith yn ei chael.

    Cysylltiadau

    Yn Swyddfa Archwilio Cymru, byddwch yn gwneud llawer o gysylltiadau proffesiynol a chymdeithasol.

     

    Byddwch yn dod i adnabod yr hyfforddeion eraill yn dda iawn drwy gydol yr hyfforddiant a chynhelir llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol hefyd. Mae parti llong blynyddol ar gyfer hyfforddeion ICAEW yng Nghaerdydd, a'r llynedd aeth pob un o hyfforddeion SAC i'r pantomeim Nadolig.

    Fodd bynnag, am y byddwch yn cael eich amlygu gryn dipyn i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, byddwch yn gwneud llawer o gysylltiadau proffesiynol ag archwilwyr eraill a chleientiaid.

    Harrie ClemensYr awdur

    Mae Harrie Clemens yn ei hail flwyddyn fel hyfforddai gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

     

    Ymunodd â ni ar ôl astudio gradd BA yn y Clasuron ym Mhrifysgol Warwick.