Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Felly, rydych chi'n gyfarwydd â’r drefn. Rydych chi newydd lowcio banana ac mae angen i chi gael gwared â'r croen. Ond mae penderfynu i ba fin y dylai fynd iddo yn gallu creu cryn benbleth y dyddiau hyn. Mae'n ddigon hawdd pan rydych chi adref ond rydym ni wedi bod yn sgwrsio yn ein swyddfa ni am sut i gael gwared â'ch sbwriel pan fyddwch chi yn y gwaith, yn y car neu yn y gampfa? Er mor anodd yw’r penderfyniad hyn i unigolion, mae'n anoddach fyth i weithleoedd a chymunedau. Felly, dychmygwch pa mor anodd yw hi i Gymru gyfan benderfynu beth i’w wneud gyda’i gwastraff.
Rhywbeth yr wyf i wedi cael fy atgoffa ohono drwy weithio ar ein hadroddiadau gwastraff yw mai'r peth gorau i'r amgylchedd yw rhoi'r gorau i gynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf. Un ffordd o feddwl am y ffordd yr ydym yn ymdrin â gwastraff yw'r hierarchaeth gwastraff.
Mae'r triongl â’i ben i waered hwn yn dangos beth mae'n ei olygu. Yr egwyddor gyffredinol yw bod y peth gorau i’w wneud â gwastraff ar y brig a’r peth gwaethaf i’w wneud ar y gwaelod.
Tan yn gymharol ddiweddar, roedd bron popeth a oedd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn cael ei adael mewn safle tirlenwi (gwaredu), ond mae ein hadroddiadau yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni yn awr yn adfer yr ynni a sgil-gynhyrchion eraill o’r gwastraff, ac wrth lwc rydym ni’n ailgylchu mwy a mwy. Mae poblogrwydd uwchgylchu wedi sbarduno pobl i greu llawer o flogiau a rhaglenni teledu sy’n dangos y grefft o gymryd un peth a'i droi yn rhywbeth arall. Mae'r rhain i gyd yn gamau cadarnhaol tuag at frig yr hierarchaeth gwastraff, ond yr hyn sy’n ddelfrydol yw atal gwastraff yn y lle cyntaf.
Yn ein cyfres o dri o adroddiadau diweddar, rydym ni wedi edrych ar y gwahanol ffyrdd y mae Cymru yn ymdrin â'i gwastraff.
Roedd yr adroddiad cyntaf yn edrych ar wastraff gweddilliol cartrefi (gwastraff bagiau du) a gwastraff bwyd a sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chynghorau lleol i ddod o hyd i ddewisiadau eraill yn hytrach na thirlenwi yng Nghymru. Gwelsom ni fod y 'Rhaglen Caffael Seilwaith Gwastraff' wedi ei rheoli'n dda a bod contractau ar gyfer cyfleusterau trin gwastraff newydd wedi lleihau'r ddibyniaeth ar dirlenwi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er hynny, mae'r rhagamcanion ar gyfer y prosiectau trin gwastraff hyn yn rhagdybio y bydd angen i gynghorau drin swmp sylweddol o wastraff gweddilliol y tu hwnt i 2040. Nid yw hyn yn cyfateb yn dda â dyhead cyffredinol Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes gennym unrhyw wastraff gweddilliol erbyn 2050.
Roedd yr ail adroddiad yn edrych ar ailgylchu yng Nghymru (yn benodol ar yr holl bethau y mae’r cynghorau yn eu casglu o’n cartrefi ac ati). Gwelsom fod y cyfraddau ailgylchu wedi gwella ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a bod dulliau ailgylchu yn dod yn fwy cyson sy’n annog mwy o bobl i gymryd rhan. Nid yw’r targedau yn mesur yr hyn sydd bwysicaf, megis lleihau carbon ac mae hyn yn destun pryder.
Yn ein hadroddiad terfynol ar wastraff a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi tynnu sylw at bwynt a wnaethom uchod, sef bod angen mwy o bwyslais ar y pethau ar frig y triongl, ac atal gwastraff yn y lle cyntaf yn benodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau gwastraff bob blwyddyn a gwelsom gynnydd cymysg o ran cyflawni'r targedau hyn.
Felly, nid yw ailgylchu'n wastraff amser llwyr, ond dylai’r gwaith o atal ddod yn gyntaf.
Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni wedi gallu gwneud argymhellion ar bynciau sydd o bwys ac sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru wrth iddi edrych ar ddiwygio ei strategaeth wastraff yn ystod y misoedd nesaf.
Ynglŷn â’r Awdur
Mae Sian Davies yn arbenigwr ar berfformiad yn Swyddfa Archwilio Cymru ac roedd yn rhan o'r tîm a oedd yn cyflawni’r tri adroddiad rheoli gwastraff.