Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio graddedigion, gofynnwyd i rai o'n hyfforddeion presennol i flogio a dweud pam y gwnaethant gais yn y lle cyntaf a sut beth yw bywyd ar raglen graddedigion Swyddfa Archwilio Cymru.
Yma, mae Anwen Worthy yn ysgrifennu am fyfyrdodau personol.
I gael gwybod rhagor am y cynllun, a sut i wneud cais, edrychwch ar ein gwefan [agorir mewn ffenest newydd].
Dair blynedd yn ôl, roeddwn yn dechrau blwyddyn olaf gradd Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd – a phe byddech wedi dweud wrthyf y byddwn bellach yn gyfrifydd wedi cymhwyso'n rhannol yn edrych ar gyllid sefydliadau ar draws sector cyhoeddus Cymru, ni fyddwn wedi'ch credu!
Roeddwn wedi dechrau fy ngradd yn siŵr y byddwn wedyn yn gwneud TAR, a gweithio fel athrawes. Fodd bynnag, ar ôl treulio fy nhrydedd flwyddyn yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu mewn ysgol uwchradd yng Ngwlad Belg, penderfynais nad oedd addysgu yn fy ngweddu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Oherwydd hyn roedd rhaid i mi ail feddwl yn llwyr ynghylch gyrfaoedd posibl! Roeddwn bob amser wedi bod yn dda mewn mathemateg yn yr ysgol, gan ei hastudio ar gyfer Safon A, ac roeddwn am wneud rhywbeth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth – felly dechreuais edrych ar swyddi cyllid yn y sector gyhoeddus a chynlluniau graddedigion, a dyna pam penderfynais i wneud cais i Swyddfa Archwilio Cymru.
O’m diwrnod cyntaf yn y ganolfan asesu, roedd pob aelod o staff y Swyddfa Archwilio gwnes i gwrdd ag ef yn gyfeillgar a chroesawgar, ac yn fwy na pharod i ateb fy nghwestiynau. Penderfynais ei fod yn bendant yn amgylchedd yr oeddwn i eisiau gweithio ynddo – ac yn ffodus, fe wnaethon nhw gynnig lle i mi ar y cynllun graddedigion a dechreuais weithio yma ar ddiwedd mis Mehefin 2016.
Ers hynny, rwyf wedi gweithio ar archwiliadau ariannol sy'n edrych ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol (megis cynghorau), byrddau iechyd y GIG a chyrff llywodraeth ganolog bach (megis Estyn). Cefais gefnogaeth wych gan gydweithwyr sydd bob amser wedi bod yn fwy na pharod i’m helpu gydag unrhyw beth nad oeddwn yn ei ddeall (yn bendant nid yw 'cwestiwn twp' yn bodoli)!
Rwyf nawr hanner ffordd trwy fy arholiadau ACA proffesiynol ac, eto, mae'r gefnogaeth yr ydym wedi'i derbyn wedi bod yn dda iawn. Mae'r ffordd y mae ein hastudiaethau'n cael eu strwythuro'n caniatáu seibiannau sylweddol rhwng cyfnodau astudio, ac mae'r gwyliau blynyddol hael iawn n (hyd at 41 diwrnod gan gynnwys gwyliau banc ac absenoldeb astudio) yn rhoi digon o amser i ymlacio yn ogystal â chymryd amser i ffwrdd i adolygu.
Eleni, rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar swyddogaeth arall Swyddfa Archwilio Cymru – archwilio perfformiad. Yn fras, mae hyn yn golygu edrych ar werth am arian ac economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Unwaith eto, cefais groeso cynnes i'm tîm newydd ac mae gen i lawer o gefnogaeth yn fy rôl wahanol. Ymhlith pethau eraill, cefais gyfle i weithio ar adroddiad ar berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood Studios , ac i fod yn rhan o'r gwaith y mae'r Swyddfa Archwilio yn ei wneud i gefnogi Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd.
Yn gyffredinol, ni fyddwn byth wedi dychmygu'r cyfleoedd a'r profiadau mae gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru wedi'u rhoi i mi, ac mae'n lle gwych i weithio os ydych chi am hyfforddi fel cyfrifydd yn ogystal â bod yn rhan o waith sy’n cael effaith wirioneddol ar sector cyhoeddus Cymru.
Mae Anwen Worthy yn hyfforddai trydedd flwyddyn ac wedi graddio o Brifysgol Caerdydd yn 2016 gyda gradd mewn Ffrangeg a Saesneg.