Felly, beth allwch ei ddisgwyl fel un o Hyfforddeion Graddedig Swyddfa Archwilio Cymru?

05 Tachwedd 2020
  • Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio graddedigion, gofynnwyd i rai o'n hyfforddeion presennol i flogio a dweud pam y gwnaethant gais yn y lle cyntaf a sut beth yw bywyd ar raglen graddedigion Swyddfa Archwilio Cymru.

    Yma, mae Jennie  yn ysgrifennu am fyfyrdodau personol. 

    I gael gwybod rhagor am y cynllun, a sut i wneud cais, edrychwch ar ein gwefan [agorir mewn ffenest newydd].

    Fy enw i yw Jen ac rwy’n hyfforddai archwilio ariannol trydedd flwyddyn ar y cynllun i raddedigion.

    Ymunais yn ôl ym mis Mehefin 2016 ac roeddwn yn teimlo'n gartrefol yma ar unwaith yn Swyddfa Archwilio Cymru. Mae pawb mor gyfeillgar ac rydych wir yn teimlo eich bod yn rhan o rywbeth arbennig.

    Felly, efallai eich bod yn dyfalu beth i'w ddisgwyl fel hyfforddai graddedig sy'n gweithio yn Swyddfa Archwilio Cymru. Wel, dim ond o'm profiad fy hun y gallaf siarad ond dyma ychydig bethau sydd gennyf i'w dweud:

    Mae digonedd o gyfleoedd i'w cael ar yr amod nad oes ofn arnoch i godi eich llaw a chymryd rhan. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fynd ar deithiau gwaith i Lundain a Newcastle er mwyn mynd i gynadleddau a chyfarfodydd gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol sydd nid yn unig yn llawer o hwyl ond hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio a datblygu eich gwybodaeth.

    Mae'r garfan dan hyfforddiant wedi cynyddu'n aruthrol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rydym wedi dod yn griw eithaf agos. Bydd gennych rywun bob amser i ateb eich cwestiynau neu rannu eich pryderon â nhw – rydym i gyd wedi bod yn eich esgidiau! Rydym hefyd yn ceisio trefnu cymaint o weithgareddau cymdeithasol â phosibl, felly ni fyddwch yn colli'r ffordd o fyw'r brifysgol ormod!

    Mae'r coleg yn anodd ond nid oes teimlad gwell na sefyll yr arholiad olaf hwnnw a gwybod eich bod yn rhydd….tan y lot nesaf. Mae amser coleg yn cynnwys ei fanteision hefyd – mae'n gyfle i chi ddod i adnabod yr hyfforddeion eraill yn eich carfan ac mae llwyth o fisgedi am ddim.

    Pan fyddwch yn dechrau arni, ni fydd gennych syniad beth sy'n digwydd. Roeddwn wedi graddio mewn Cyfrifyddu ac roeddwn yn teimlo fy mod wedi fy ngorlwytho'n llwyr. Peidiwch â phoeni – nid oes neb yn disgwyl i chi wybod popeth. Bydd aelodau eraill o'ch tîm archwilio yn rhoi help llaw i chi a pheidiwch â bod ofn gofyn!

    Byddwch yn rhan o sawl archwiliad gwahanol yn ystod eich amser yma. Rwyf wedi gweithio ar archwiliadau iechyd, llywodraeth leol a llywodraeth ganolog. Mae bob amser braidd yn rhyfedd newid o un archwiliad i un arall ond byddwch yn dod yn gyfarwydd â hyn yn fuan a dod o hyd i rywbeth diddorol am bob un.

    Mae eich datblygiad yn cael ei gymryd o ddifrif. Byddwch yn mynd ar amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi yn amrywio o gymryd cofnodion i ariannu cyfalaf (cyffrous!). Bydd eich anghenion datblygu yn cael eu clywed hefyd a'u diwallu lle bynnag y bo'n bosibl. Er enghraifft, roeddwn am ddatblygu fy sgiliau arweinyddiaeth felly cefais gyfle i oruchwylio hyfforddai iau ar fy archwiliad llywodraeth leol.
    Mae'r partïon Nadolig yn chwedlonol. Fe welwch pam rwy'n dweud hynny…

    Ynglŷn â'r awdur

    Jennie Morris

     

    Mae Jennie Morris yn hyfforddai yn ei thrydedd flwyddyn yn Swyddfa Archwilio Cymru.

    Ymunodd â ni ar ôl astudio Cyfrifyddu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.