Faint o frys sydd i ymdrin â’ch argyfwng salwch difrifol ond annifrifol?

05 Tachwedd 2020
  • Wedi drysu? Does ryfedd! Mae brandio’r gwasanaethau y tu allan i oriau yn hunllef.

    Dyma enwau eraill ar gyfer y gwasanaethau hyn:

    • gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau;
    • gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau; a
    • gwasanaethau gofal sylfaenol brys.

    Beth bynnag y byddwch yn eu galw, maen nhw’n wasanaethau hollbwysig. Maen nhw’n darparu gofal sylfaenol brys pan fo meddygfeydd teulu wedi cau.

     

    Yn ein hadroddiad diweddaraf, gwelsom fod y cyhoedd yn derbyn gwybodaeth a allai fod yn ddryslyd ynghylch yr hyn y mae’r gwasanaethau hyn yn ei wneud, a sut i fynd ati i gysylltu â nhw.

    Beth welsom ni?

    Cynhaliom ymarfer siopa cudd a ffonio 70 o feddygfeydd teulu pan oeddent wedi cau i weld pa wybodaeth oedd yn cael ei darparu i gleifion. Roedd y disgrifiadau yn y negeseuon ffôn ateb a glywsom yn amrywio’n aruthrol.

    Dyma rai o’r enwau amrywiol a roddwyd i’r gwasanaeth y tu allan i oriau:

    • 'gwasanaethau brys y tu allan i oriau',
    • ‘gwasanaeth dirprwyo meddygon’, yn ogystal â
    • 'darpariaeth dros y penwythnos a chyda’r nos'.

    Er bod rhai o’r negeseuon ateb hyn yn rhoi arweiniad i gleifion ar yr amgylchiadau lle dylent fod yn defnyddio’r gwasanaeth y tu allan i oriau, roedd yr amgylchiadau hynny’n cynnwys amrywiaeth ryfeddol.

     

    Clywsom y termau:

    • ‘argyfyngau yn unig’,
    • ‘problemau meddygol nad ydynt yn argyfwng’,
    • ‘pob argyfwng onid yw’n argyfwng difrifol',
    • ‘argyfyngau a phroblemau brys’ a
    • ‘salwch difrifol na all aros'.

    Gwneud synnwyr o’r cyfan

     

    Er ei bod hi’n glir bod angen trefniadau “cyfeirio” gwell, gwelsom fod cleifion ar y cyfan yn gwerthfawrogi gwasanaethau y tu allan i oriau. Serch hynny, nid yw darparu gwybodaeth well i gleifion ond yn un o blith nifer o heriau o flaen gwasanaethau y tu allan i oriau ar hyn o bryd. Nid yw safonau prydlondeb cenedlaethol yn cael eu bodloni, ac mae rhai pobl yn wynebu oedi o ran ateb galwadau, ymweliadau â’r cartref ac apwyntiadau wyneb yn wyneb.

    O’r gwaith a gyflawnwyd gennym, mae’n glir bod y gwasanaethau hanfodol hyn o dan straen gwirioneddol. Datgelodd ein harolwg staff broblemau’n gysylltiedig â morâl, gyda chanfyddiadau ynghylch prinder staff, oriau anghymdeithasol a diffyg cyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Ni fydd gwasanaethau y tu allan i oriau fel arfer yn cael eu hystyried yn fannau gwaith deniadol, felly bydd Byrddau Iechyd yn aml yn ei chael hi’n anodd llenwi sifftiau.

    Mae ein hadroddiad yn cyflwyno 8 argymhelliad i Lywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru ynghylch:

    • Gwella’r trefniadau ar gyfer cyfeirio i wasanaethau.
    • Codi proffil gwasanaethau y tu allan i oriau drwy adrodd yn flynyddol yn erbyn y safonau cenedlaethol.
    • Ymgysylltu â’r staff i ymdrin â´r rhesymau wrth wraidd morâl isel.
    • Datblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu i ddatrys y problemau staffio a geir ar hyn o bryd.
    • Cyflwyno adolygiad cenedlaethol rheolaidd o ansawdd gwasanaethau y tu allan i oriau.
    • Profi dulliau newydd o weithio yn y gwasanaethau y tu allan i oriau er mwyn creu model ar gyfer y modd y dylid darparu’r gwasanaethau yng Nghymru.
    • Adolygu’r trefniadau arwain cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau.
    • Cadarnhau’r graddfeydd amser ar gyfer achos busnes TG pwysig sydd yn gysylltiedig â’r gwasanaeth 111 newydd.

    Ynglŷn â’r awdur: Stephen Lisle oedd yr arweinydd prosiect ar gyfer y gwaith ar wasanaethau y tu allan i oriau. Mae Stephen wedi bod yn gweithio yn Swyddfa Archwilio Cymru ers 2005. Mae’n gystadleuydd brwd mewn treiathlonau ac yn gyn-newyddiadurwr.