Dyma pam rydym ni’n benderfynol o wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn lle GWYCH i weithio

05 Tachwedd 2020
  • Lle GWYCH i weithio!  Nid dim ond llinell slic yw hon – mae’n ymrwymiad gwirioneddol i bawb sy’n gweithio yma yn Swyddfa Archwilio Cymru a phawb sydd eisiau gweithio yma.

    Nid robotiaid mohonom ni; rydym ni’n dîm o 250 o unigolion unigryw.  Mae gan bob un ohonom ni wahanol gymhellion, gwahanol hoff a chasbethau, gwahanol farn ar yr hyn sy’n bwysig mewn bywyd, a gwahanol ddyheadau ar gyfer y dyfodol.  Rydym yn gweithio mewn gwahanol rannau o Gymru, ledled Cymru ac weithiau y tu hwnt i Gymru hefyd.  O ystyried yr holl wahaniaethau hyn, beth sy’n ein huno ni fel tîm?  Wel, ein gweledigaeth ni – bod pobl Cymru yn ymddiried ynom ni, bod cyrff cyhoeddus yn gwerthfawrogi ein gwaith a bod ein pobl yn rhagori.

    Mae’n dipyn o ymrwymiad i fod yn lle GWYCH i weithio ynddo.  Ac rydym ni’n gwybod bod rhai heriau i ni wrth wneud hynny.  Rydym ni wedi gwneud hyn oherwydd yr unig ffordd y gallwn ni gyflawni ein gweledigaeth yw trwy ein tîm anhygoel o bobl broffesiynol sy’n gweithio’n galed.  Yr unig ffordd y gall ein pobl ragori, fod wedi eu cymell i weithio’n galed a gwneud gwahaniaeth, yw ein bod ni yn darparu’r amgylchedd iawn iddynt weithio ynddo.  Ac mae hynny’n golygu’r amgylchedd cywir ar gyfer eu hanghenion unigol, nid un dull ar gyfer pawb.  Rydym yn gwybod, o’n gwaith gyda Stonewall, fod pawb yn gweithio ar eu gorau pan fyddant yn cael bod yn nhw eu hunain mewn amgylchedd cefnogol a chalonogol.

    Caiff ein huchelgais i fod yn “Lle GWYCH i weithio ynddo” ei grisialu drwy ein Strategaeth Pobl [agorir mewn ffenest newydd], sy’n nodi’r pedwar piler ar gyfer sut brofiad yw hi i weithio yma:

    • Rydym ni’n gwneud gwahaniaeth – yn helpu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu’r gwerth a’r gwasanaeth gorau i’r gymuned y maent yn eu gwasanaethu
    • Rydym yn cefnogi gyrfa a datblygiad personol ein pobl
    • Mae pawb yma yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith a’u parchu am eu bywyd allanol. Mae gweithio hyblyg, amgylchedd proffesiynol a phecyn buddion da ar gael
    • Mae’n lle gwych i weithio. Mae ein diwylliant sy’n gefnogol yn emosiynol yn helpu cydweithwyr i gydweithio, ymgysylltu a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

    Mae’r rhain yn seiliedig ar ein 8 Ymrwymiad Pobl yn y Strategaeth, sy’n cwmpasu ein diwylliant, ein hamrywiaeth, ein ffyrdd o weithio, ein tâl ac amodau, a’n hethos dysgu a datblygu.  Mae gennym hefyd ein gwerthoedd a’n hymddygiad sy’n pennu disgwyliadau clir ar gyfer pob un ohonom sy’n gweithio yma.  Mae’n fath o gytundeb: disgwyliadau uchel ar gyfer yr hyn yr ydym yn ei wneud, wedi ei gydbwyso ag amgylchedd gwych ar gyfer yr amodau i lwyddo.

     

    Yr unig ffordd y gallwn ni gael yr effaith fwyaf bosibl fel Swyddfa Archwilio Cymru yw drwy fod yn lle GWYCH i weithio ynddo. Dyna’n union pam y mae hi mor bwysig i ni, yn bwysig i bobl Cymru ac yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

    Ynglŷn â'r awdur

    Penodwyd Steve O'Donoghue yn Gyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol ym mis Ebrill 2014. Cyn hynny, mae ei yrfa yn cynnwys llywodraeth leol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Steve yn uwch model rôl ar faterion Lesbiad, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT+) ac yn aelod o Grŵp Diddordeb Cydraddoldeb SAC. Mae Steve hefyd yn aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus.