Fy mhrofiad fel un o brentisiaid Swyddfa Archwilio Cymru

05 Tachwedd 2020
  • Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio, rydym wedi gofyn i rai o'n Prentisiaid ysgrifennu blog am sut beth yw bod yn brentis yn Swyddfa Archwilio Cymru. Yma mae Lewis Ball yn sôn am ei brofiad hyd yn hyn…

    I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'n gwefan.

    Mae prentisiaeth yn Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnig cyfle gwych o ran gyrfa mewn Cyfrifyddu heb orfod mynd i'r brifysgol. Nid yw'r brifysgol yn addas i bawb, mae'r brentisiaeth hon yn rhoi llwybr i'r rhai sydd am symud ymlaen i yrfa wrth ddysgu yn y swydd.

    Yn ystod tair blynedd y brentisiaeth byddwch yn astudio i gyflawni cymwysterau Lefel 2, 3 a 4 y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu. Os ydych yn llwyddo i basio pob un o'ch arholiadau, gallwch symud ymlaen i'r cyfnod hyfforddi ac astudio tuag at eich papurau proffesiynol gyda chymhwyster Cyfrifydd Siartredig ICAEW. Mae'r wybodaeth a gasglwyd o'r amgylchedd gwaith yn wych, gallwch roi eich dysgu o'r coleg ar waith, sy'n rhoi mwy o ddealltwriaeth i chi o'r systemau cyfrifyddu.

    O'r diwrnod cyntaf pan ddechreuais fy mhrentisiaeth, mae fy nghydweithwyr yn Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod mor barod eu cymwynas. Os ydych yn cael trafferth deall y gwaith , mae pawb yn hawdd mynd atynt. Dywedwyd wrthyf ‘does dim unrhyw gwestiwn yn gwestiwn gwirion’. Rwyf wedi meithrin perthynas dda gyda fy nhimau archwilio ac yn enwedig gyda'r tri phrentis arall.

    Yn fy chwe mis cyntaf, rwyf wedi gweithio ar sawl archwiliad. Mae’r rhain wedi cynnwys:

    • Grantiau a Chyfrifon Cyngor Blaenau Gwent;
    • Bwrdd Iechyd Cwm Taf; a'r
    • Cronfeydd Amaethyddol.

    Rwyf wrth fy modd eich bod yn cael teithio a gweithio gyda llawer o bobl wahanol ar archwiliadau gwahanol o ddydd i ddydd. Rwyf wedi dysgu sut i wneud ‘profion grŵp’ fel gwariant, symiau sy'n daladwy a phrofi'r gyflogres.

     

    Rwyf wedi teithio i ogledd Cymru er mwyn gwneud ailwiriadau a chefais gyfle i weld golygfeydd gwych mynyddoedd y gogledd. Fel grŵp, rydym wedi bod ar sawl cwrs hyfforddi sy'n arbenigo yn ein gwaith ac rydym yn cael diwrnodau bob mis er mwyn mynd ar ragor o hyfforddiant i ddatblygu ein sgiliau ymhellach. Mae nifer y diwrnodau gwyliau yn anhygoel (33 diwrnod), gyda buddiannau eraill fel gostyngiadau mewn siopau a bwytai.

    Y tu allan i'r gwaith, rwy'n chwarae rygbi dros glwb rygbi Pont-y-pŵl. Gallaf gynnwys yr holl hyfforddi a gemau o amgylch fy amserlen waith. Mae gennym hefyd weithgareddau allanol yr wyf yn cymryd rhan ynddynt fel pêl-droed 5 bob ochr os hoffech ymuno â ni. Mae fy rheolwr llinell wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi fy helpu gydag unrhyw anghenion.

    Yn gyffredinol, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn lle gwych i weithio ac rwy'n argymell y brentisiaeth yn gryf i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais.

    Blog Picture - Lewis Ball

    Prentis Swyddfa Archwilio Cymru yw Lewis Ball