Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024
Ar y dudalen hon disgrifiwn y prosesau adolygu oer sydd gennym ar waith gwerthuso ansawdd yr archwiliadau a gwblhawyd.
Rydym yn crynhoi deilliant yr adolygiadau hynny isod, gan ddefnyddio system sgorio pedwar pwynt:
Targed Archwilio Cymru ar hyn o bryd yw y dylai 100% o’r archwiliadau a gaiff eu samplu gael sgôr o 2 neu uwch yn yr asesiad.
Cafodd y rhaglen o adolygiadau oer o archwiliadau o gyfrifon yn 2022-23 ei chynnal gan QAD. Cyflwynir canlyniadau’r adolygiadau yn ôl blwyddyn ariannol yr archwiliad.
Fe wnaeth yr holl ffeiliau archwilio a adolygwyd gyrraedd ein targed ansawdd ac roedd y canfyddiadau ar y cyfan gan QAD fel a ganlyn: ‘Ar y cyfan, roedd y gwaith archwilio a adolygwyd gennym yn dal i fod o safon dda, gyda'r holl ymrwymiadau a adolygwyd naill ai'n dda neu'n dderbyniol ar y cyfan.’
Nid yw gwaith archwilio perfformiad yn cyd-daro â blwyddyn ariannol benodol o anghenraid. Cafodd y rhaglen o adolygiadau oer o archwiliadau o berfformiad yn 2024 ei chynnal gan QAD.
Mae deilliannau’r adolygiadau oer a gyflwynir y blynyddoedd calendr pan gwblhawyd yr adolygiadau oer.
Fe wnaeth yr holl ffeiliau archwilio a adolygwyd gyrraedd ein targed ansawdd ac roedd y canfyddiadau ar y cyfan gan QAD fel a ganlyn:
‘Roedd y ffeiliau archwilio perfformiad a adolygwyd yn dangos lefel dda ar y cyfan o ran cydymffurfio â safonau INTOSAI.’