Ffyrdd Callach o Weithio

Ei nod yw cefnogi strategaeth o welliant a all greu manteision o ran rheoli costau, cynaliadwyedd, ac ymgysylltu â chyflogeion. Mae cynllunio gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y dinesydd wrth wraidd ffyrdd callach o weithio. 

Mae'r canllaw hwn o reidrwydd yn canolbwyntio ar arferion penodol, ac wrth gwrs mae'r rhain yn deilwng ynddynt eu hunain - ond y neges ehangach yw bod arfer da yn ymwneud ag arloesedd yn hytrach na safoni. Mae'r canllaw hwn yn dangos ei bod yn bosibl gwneud newidiadau, ac y gall y newidiadau hyn ddod â llawer o fanteision.