Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024

Trefniadau ar gyfer cyflawni ansawdd archwilio

Arweinyddiaeth a diwylliant

Mae Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio’n atebol i'r Archwilydd Cyffredinol am ansawdd ein holl waith archwilio, gan gynnwys yr hyn a wneir gan staff Archwilio Cymru a chontractwyr allanol.

Mae hi'n sicrhau bod ansawdd archwilio’n flaenllaw yn yr hyn a wnawn trwy:

  • osod safonau personol ar gyfer ansawdd archwilio ac arwain drwy esiampl;
  • ymgorffori ansawdd archwilio yn ein strategaethau, diwylliant, gwerthoedd, cod ymddygiad a methodolegau archwilio;
  • hyrwyddo pwysigrwydd ansawdd archwilio trwy ein system rheoli perfformiad;
  • darparu negeseuon rheolaidd, agored a chlir i staff am bwysigrwydd ansawdd archwilio; a
  • sefydlu llinellau cyfrifoldeb clir ar gyfer ansawdd archwilio.

Cynorthwyir Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio gan gyfarwyddwyr archwilio a'r tîm arwain ehangach i gyflawni'r cyfrifoldebau hyn a sicrhau ansawdd archwilio. Yn ganolog i lwyddiant ein strategaeth mae ffocws parhaus ar sicrhau ansawdd ein gwaith archwilio.

Mae ein diwylliant yn un sy’n ymrwymedig i wella’n barhaus ac i gynorthwyo ein staff i gyflawni'r gwelliant hwnnw, trwy ddysgu a datblygu a'n trefniadau rheoli perfformiad. Rhaid i'n harweinyddiaeth greu'r amodau i staff ffynnu ac ymgysylltu.

Un o’r meysydd ffocws allweddol yn ein strategaeth yw cryfhau ein galluoedd arwain ar draws y sefydliad. Rydym wedi datblygu rhaglen Datblygu Rheolwyr Pobl bwrpasol sy’n amcanu at helpu rheolwyr i feithrin ymddiriedaeth o fewn eu timau. Mae’r rhaglen wedi’i bwriadu i helpu rheolwyr pobl i goetsio, cefnogi, annog, datblygu, gwrando, rheoli perfformiad, darparu adborth a chael sgyrsiau effeithiol.

Mae hon yn elfen bwysig ar gyfer gwireddu’r uchelgeisiau ansawdd da a ddymunir gennym. Rydym hefyd wedi cyfranogi mewn rhaglen Darpar Arweinwyr ar y cyd ag asiantaethau archwilio eraill y DU, sy’n ategu’r amcanion rheoli talent a chynllunio ar gyfer olyniaeth yng Nghynllun Strategol y Gweithlu.

Yn 2023-24 buom yn fwy pwrpasol mewn perthynas â hyn. Roedd adborth yn yr Arolwg Pobl blynyddol yn 2022 yn dynodi bod rhai yn y sefydliad yn teimlo nad oedd gwerth eu gwaith yn cael ei ddeall na’i werthfawrogi’n eang. Fe ymrwymodd y TAG i weithredu er mwyn mynd i’r afael â hyn. Fe wnaeth Sioeau Teithiol chwemisol gan y TAG dynnu sylw at y modd y mae pob elfen o’r busnes yn cyfrannu at gyflawni ein gwaith archwilio lefel uchel a dathlu hynny. Anne-Louise Clark, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid

 

Moeseg

Trwy God Ymarfer Archwilio’r Archwilydd Cyffredinol, rydym yn mabwysiadu ac yn cymhwyso'r Safon Foesegol a gyhoeddwyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol i'n holl waith.

Un nodwedd allweddol ar archwilwyr yw'r gofyniad ein bod yn annibynnol ar y rhai yr ydym yn eu harchwilio. Mae hyn yn cynnwys nid dim ond wrth gyflawni gwaith archwilio ond annibyniaeth penodiadau hefyd. Mae'r annibyniaeth hon yn ein cynorthwyo i arfer sgeptigaeth broffesiynol ac yn ein galluogi i ddod i gasgliadau mewn modd gwrthrychol heb i ddylanwadau a allai beryglu ein crebwyll proffesiynol effeithio arnom.

Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r swydd yn annibynnol ar lywodraeth ac mae penodiadau’n cael eu gwneud gan y Brenin neu'r Frenhines sy'n teyrnasu ar enwebiad y Senedd. Caiff Archwilwyr Cyffredinol eu penodi am gyfnod penodedig o wyth mlynedd a dim ond gan y Brenin neu’r Frenhines y gallant gael eu diswyddo a hynny o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn. Mae cydnabyddiaeth ariannol yr Archwilydd Cyffredinol yn dâl a godir yn uniongyrchol ar Gronfa Gyfunol Cymru, sy'n gwarchod annibyniaeth y swydd.

Mae ein Cod Ymarfer Archwilio a'n Cod Ymddygiad staff yn atgyfnerthu pwysigrwydd annibyniaeth a gwrthrychedd i'n gwaith. Mae'n ofynnol i'n holl staff wneud datganiad annibyniaeth blynyddol lle maent yn nodi unrhyw gysylltiadau â'r cyrff yr ydym yn eu harchwilio a allai amharu ar eu hannibyniaeth. Pan nodir unrhyw rwystrau o'r fath, cymerir camau priodol i liniaru gwrthdaro buddiannau posibl i lefel dderbyniol. Gall camau o'r fath gynnwys atal staff rhag gweithio ar archwiliadau penodol neu gyfyngu ar gwmpas ymwneud posibl unigolyn ag archwiliad penodol.

Mae Cod Ymddygiad ar wahân yn bodoli ar gyfer aelodau'r Bwrdd y mae'n ofynnol iddynt ddatgan unrhyw fuddiannau a all fod ganddynt yn unrhyw fater ac y gall fod yn ofynnol iddynt adael cyfarfodydd lle mae'r mater hwnnw'n cael ei ystyried.

Yn ogystal â gwaith lle caiff yr Archwilydd Cyffredinol ei benodi drwy statud megis archwilio cyfrifon ac archwiliadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, caiff wneud rhywfaint o waith drwy gytundeb o bryd i'w gilydd. Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau sefydledig i sicrhau bod gwaith anstatudol yn cael ei wneud dim ond pan fydd gennym y capasiti a'r gallu i wneud y gwaith hwnnw a lle na fyddai derbyn penodiad o'r fath yn amharu ar annibyniaeth statudol yr Archwilydd Cyffredinol.

Lle’r ydym yn hanesyddol wedi prynu gwasanaeth cwmnïau preifat i wneud gwaith ar ran yr Archwilydd Cyffredinol, bu'n ofynnol iddynt fod â threfniadau tebyg ar waith i fonitro a rheoli unrhyw fygythiadau posibl i annibyniaeth yr archwiliadau y maent yn eu gwneud. Mae gennym weithdrefnau i fonitro effeithiolrwydd y trefniadau hynny.

Mae gennym Bolisi Cylchdroi sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd ac sy'n rheoli pa mor hir y gall uwch aelodau o staff fod yn rhan o gyfarwyddo unrhyw archwiliad penodol. Mae'r polisi’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng natur gwaith yr Archwilydd Cyffredinol sy’n annewisol gan mwyaf, maint cymharol fach Archwilio Cymru a gofynion y Safon Foesegol.

Mae staff yn cael hyfforddiant i atgyfnerthu ymwybyddiaeth o'n polisïau a'n gweithdrefnau annibyniaeth.

Yn dilyn bwlch a achoswyd gan Covid, yn 2023-24 fe gyflwynom ni hyfforddiant moeseg wyneb-yn-wyneb i holl staff ac aelodau bwrdd Archwilio Cymru. Roedd y sesiynau hyn o ddwy awr a mwy’n cynnwys rhoi sylw i Safon Foesegol 2019, codau moesegol y sefydliadau cyfrifyddu a Chodau Ymddygiad Archwilio Cymru. Fe wnaethom deilwra’r sesiynau tuag at anghenion grwpiau gwaith penodol, megis archwilwyr perfformiad, ac fe’i gwnaethom yn ofynnol i staff ateb cwestiynau trwy gydol y sesiynau. Martin Peters, Pennaeth y Gyfraith a Moeseg

 

Canllawiau ac offer archwilio

Un o’r elfennau pwysig o gyflawni ansawdd archwilio yw sefydlu dulliau safonedig o gyflawni ein gwaith.

Rydym yn gwneud ein gwaith archwilio perfformiad gan ddefnyddio ein Llawlyfr Cyflawni Gwaith Archwilio Perfformiad (PADM). Yn 2023, fe wnaethom ddiweddaru PADM i adlewyrchu'r safonau archwilio perfformiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Rhyngwladol y Sefydliadau Archwilio Goruchaf (INTOSAI). Mae'r rhain yn cynrychioli'r safonau perfformiad rhesymol a chyraeddadwy a ddefnyddir gennym i asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithgareddau corff a archwilir.

Yn 2024, fe wnaethom werthuso’r modd yr ydym yn cymhwyso’r PADM newydd gan gynnwys arolwg o ddefnyddwyr. Roedd cydweithwyr yn croesawu’r pwyslais ychwanegol ar gynllunio gwaith archwilio, a’r hyfforddiant a chymorth a roddwyd. Canfu’r gwerthusiad ddiffyg eglurder mewn perthynas â rhai prosesau adolygu, sydd bellach wedi cael eu symleiddio ac a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn ein llif gwaith newydd.

Effaith

Mae effaith ein gwaith archwilio’n dal i fod yn rhan allweddol o ansawdd archwilio – dylanwedir yn rhannol ar hyn gan y prosiectau yr ydym yn eu dewis, yr argymhellion yr ydym yn eu gwneud a sut yr ydym yn gwerthuso’r broses o gyflawni prosiectau.

Rydym wedi:

  • Sefydlu rhaglen strategol o waith archwilio, sy’n tynnu ar ymgysylltiad â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  • Cynnal gweithdy ar ‘greu effaith’ yn y gynhadledd staff a gyflwynwyd gan y tîm Datblygu a Chanllawiau Archwilio a’r tîm Cyfathrebu.
  • Darparu hyfforddiant a chanllawiau ar ddrafftio a thracio argymhellion archwilio, gan gynnwys argymhellion CAMPUS sy’n gysylltiedig â’r effaith fwriadedig. Rydym hefyd wedi safoni defnydd timau archwilio o’r Ffurflen Ymateb Rheolwyr (MRF) i gael ymateb gan gyrff a archwilir i unrhyw argymhellion archwilio perfformiad.
Mae’r PADM newydd yn gwneud i ni oedi a meddwl am yr hyn yr ydym yn ei wneud a pham. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynghylch sail ddeddfwriaethol ein gwaith a pha un a fydd a sut y bydd archwiliad yn cyflawni cyfrifoldebau’r Archwilydd Cyffredinol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Hefyd, perthnasedd yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Catryn Holzinger, Rheolwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

 

Dulliau newydd

Hon oedd yr ail flwyddyn i ni roi dull archwilio cyfrifon newydd ar waith mewn ymateb i’r Safon Ryngwladol ddiwygiedig ar Archwilio 315 (DU)2. Roedd hyn yn newid sylfaenol i'n dull gyda'r safon ddiwygiedig yn amcanu at ysgogi asesiad risg mwy cyson, gwell ansawdd ac effeithlonrwydd archwilio, a mwy o bwyslais ar sgeptigaeth broffesiynol. Mae ein dull bellach yn rhoi mwy o bwyslais ar risg archwilio gan sicrhau bod timau'n cwblhau profion wedi'u targedu.

Dadansoddeg data

We continue to develop and embed a range of data analytic and other computerised tools in our financial audit work to allow us to effectively interrogate and risk assess large volumes of transactional data to improve audit quality.

In performance audit, several tools have been launched or updated for auditors’ use including the Health Risks Tool (HEART) that provides analyses of key datasets to inform risk assessments of local health boards and trusts; and a redeveloped LG Context and Performance (LG CaP) data tool.

The LG CaP includes the latest data on key service performances, alongside contextual information and financial data. This has a range of uses, including supporting our financial sustainability work. We will be delivering specific training on the use and presentation of data during autumn 2024.

Cymorth technegol

Cefnogir ein holl archwilwyr gan ein tîm Datblygu a Chanllawiau Archwilio (AD&G) pwrpasol, sy’n rhoi canllawiau a chyngor arbenigol ynghylch ystod o faterion technegol a phroffesiynol ac, ar y cyd â’n tîm Adnoddau Dynol, yn cefnogi gweithgarwch dysgu a datblygu ein timau archwilio.

Fe wnaethom gryfhau ein cymorth technegol trwy sefydlu swyddogaeth ymchwil a datblygu ar wahân yn 2022. Mae’r tîm yn parhau i ddatblygu ein dull o sganio’r gorwel sy’n cynnwys gwneud ymchwil gynnar i roi cymorth i ddatblygu ein rhaglen o waith archwilio. Mae’r gwaith hwn yn ein helpu i ganolbwyntio ein gwaith archwilio i gael effaith fwy a rhannu arfer da, er enghraifft ein gwaith diweddar ar bwyllgorau archwilio effeithiol.

Rydym yn ymegnïo i gynnal a meithrin perthnasoedd gweithio a rhwydweithiau clòs gyda nifer o randdeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys sefydliadau proffesiynol ac asiantaethau archwilio eraill y mae eu gwaith yn ymwneud â‘r sector cyhoeddus. Rydym yn amcanu at gynyddu i’r eithaf gyfleoedd i rannu gwersi a gwybodaeth i wella’n barhaus a sicrhau ein bod yn dylanwadu ar brosesau penderfynu ehangach a allai effeithio ar archwilio’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Fe wnaeth rhoi’r dull archwilio newydd ar waith arwain at ailwampio’r fethodoleg yr oeddem yn ei chymhwyso i’n harchwiliad o wariant grantiau yn fy mhrif archwiliad. Fe wnaethom ddadansoddi gwariant grantiau yn ôl y math o gynllun, a wnaeth ein galluogi i ganolbwyntio ar y risgiau penodol ym mhob cynllun, ac yna dewis yr haeriadau a oedd fwyaf perthnasol i’r risg honno yn ein tyb ni. Fe dalodd y dull yma ar ei ganfed – canfuom wallau cyfrifyddu, ac fe amlygom ni i’r cleient ble y gellid cryfhau prosesau’r grantiau. Matthew Bowen, Uwch Archwilydd

 

Platfformau archwilio

Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio systemau pwrpasol sy’n seiliedig ar Microsoft 365 ar gyfer ein holl waith archwilio cyfrifon, grantiau, a pherfformiad. Mae ein platfformau o gymorth i sicrhau cysondeb dulliau archwilio ac yn darparu gwiriadau ansawdd cynwysedig. Mae’n rhoi inni’r gallu i fabwysiadu arferion gorau a datblygiadau proffesiynol newydd yn ein methodolegau archwilio yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym wedi datblygu llif gwaith archwilio perfformiad, a fydd yn adlewyrchu ein PADM newydd. Trwy gyflwyno’r dechnoleg hon, rydym yn amcanu at gynnal a gwella ansawdd archwilio, gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd a rhoi cymorth i fonitro cynnydd. Yn 2024 fe wnaethom dreialu’r prototeip yn llwyddiannus a byddwn yn cyflwyno’r llif gwaith yn 2025.

Mae gennym hefyd blatfform electronig i reoli’r gwaith yr ydym yn ei wneud ar fwy na 700 o archwiliadau o gynghorau tref a chymuned.

Dysgu a datblygu

Rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn dysgu a datblygu i wella gwybodaeth a sgiliau proffesiynol ein staff. Er enghraifft, rydym wedi ymrwymo i gontract newydd gyda chyflenwr allanol i gefnogi a gwella ein harlwy hyfforddiant mewnol ar gyfer gwaith archwilio cyfrifon.

O dan y contract hwn rydym eisoes wedi comisiynu hyfforddiant manwl ar archwilio a chyfrifyddu grwpiau; adrodd ar gynaliadwyedd; archwilio contractau yswiriant; hyfforddiant atodol ISA 315; a newidiadau cyffredinol i safonau adrodd ariannol.

Darperir lwfans dangosol o ddeg diwrnod y flwyddyn ar gyfer staff i gefnogi eu gweithgarwch dysgu a datblygu proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys rhaglen hyfforddi wedi’i theilwra ar gyfer ein hyfforddeion a phrentisiaid sydd wedi’i bwriadu i helaethu eu datblygiad tra’u bod yn gweithio tuag at ennill eu cymwysterau proffesiynol.

Mae dwy elfen i’n rhaglenni dysgu a datblygu blynyddol:

  • elfennau gorfodol – mae’r rhain wedi’u bwriadu i sicrhau bod yr holl staff yn cael hyfforddiant mewn meysydd sgiliau craidd a thechnegol newydd ac allweddol sy’n berthnasol i’w rolau; ac
  • elfennau ‘ar alw’ – caiff y rhain eu hadnabod o adolygiadau datblygu perfformiad aelodau o staff gyda’u rheolwyr llinell a’u bwriad yw cefnogi datblygiad personol unigolyn.

Rydym yn ymrwymedig i ddysgu parhaus ac rydym yn defnyddio'r canlyniadau a'r sylwadau o’n harolwg pobl i lywio ein dull lle mae dysgu a datblygu yn y cwestiwn.

Rhennir canlyniadau ein prosesau monitro ansawdd (gweler y Drydedd linell sicrwydd) gyda staff ac mae ymatebion i unrhyw faterion a adnabuwyd yn cael eu cynnwys fel rhan o'n rhaglenni dysgu a datblygu yn ôl yr angen.

Mae rhan fawr o'n rhaglenni dysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi canolbwyntio ar wreiddio ein safonau archwilio INTOSAI newydd. Ar gyfer archwilio perfformiad, mae hyn wedi cynnwys:

  • parhau i gyflawni adrannau perthnasol o’n cynllun dysgu a datblygu; ac
  • ailadrodd hyfforddiant gorfodol cynharach ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd neu sy’n dychwelyd.

Mae ein prosesau datblygiad personol wedi cael eu hachredu fel system datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) briodol ar gyfer ein staff gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a’r Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT).

Mae gennym hefyd broses dysgu-ar-ôl-prosiectau ar gyfer prosiectau mawr (gan gynnwys archwiliadau) sy’n ceisio atgyfnerthu ein nod i fod yn sefydliad sy’n dysgu ac yn rhannu ac sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.