Strategaeth Ddynamig
Mawrth 2021 - Fel rhan o'n wythnos ddysgu arlein 'Gwneud synnwyr o argyfwng: Dysgu o Bandemig COVID-19' bu i ni gynnal gweminar byw ar Strategaeth Ddynamig.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym i gyd wedi gweld llawer iawn o newid ac ansicrwydd. Bu'n rhaid i arweinwyr o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus wneud penderfyniadau cyflym ac anodd mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym.
‘Gan amlaf, ni fydd yr hyn sy'n gweithio mewn cyfnodau arferol yn gweithio mewn argyfwng. Mae angen i ni feddwl a gweithredu'n wahanol' - Rheoli cymhlethdod (ac anhrefn) ar adegau o argyfwng – Canllaw maes i wneuthurwyr penderfyniadau 2021
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym i gyd wedi gweld llawer iawn o newid ac ansicrwydd. Bu'n rhaid i arweinwyr o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus wneud penderfyniadau cyflym ac anodd mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym.
Gyda lansiad diweddar 'Rheoli cymhlethdod (ac anhrefn) ar adegau o argyfwng - Canllaw maes i wneuthurwyr penderfyniadau', [agorir mewn ffenestr newydd] bydd yr Athro Dave Snowden, Crëwr Fframwaith Cynefin, yn ymuno â ni ac yn trafod y dull pedwar cam sy’n cael ei gynnig yn y llawlyfr sy’n ein galluogi i:
- asesu'r math o argyfwng a chychwyn ymateb;
- addasu i'r newid mewn cyflymder a dechrau adeiladu rhwydweithiau synhwyro i lywio penderfyniadau;
- ail-bwrpasu strwythurau a dulliau gweithio sydd yno yn barod i greu arloesedd radical; a
- goresgyn yr argyfwng, ffurfioli'r gwersi a ddysgwyd a chynyddu gwydnwch.
Bydd arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn ymuno â'r Athro Snowden i rannu eu profiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, a'r hyn y mae hyn i gyd yn ei olygu'n ymarferol.
Mae ein panel yn cynnwys:
- Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Anne-Louise Clarke, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid, Archwilio Cymru
- Todd Howlett, Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol, Nova Scotia Health
- Auriol Miller, Prif Weithredwr, Sefydliad Materion Cymreig