Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar ein uchelgais am weddill y flwyddyn

Mae ein Hadroddiad Interim wedi'i gyhoeddi
Mae ein Hadroddiad Interim yn rhoi crynodeb o sut rydym yn cyflawni neu'n datblygu ein cynlluniau ers cyhoeddi ein Cynllun Blynyddol ym mis Ebrill 2021.
Rydym wedi parhau i lunio ein cynlluniau archwilio llywodraethu a gwerth am arian ar gyfer cyrff unigol y GIG a llywodraeth leol a archwiliwyd gennym i ganolbwyntio ar faterion sydd fwyaf perthnasol. Gyda pharhad pandemig COVID-19, rydym wedi parhau i arfer yr hyblygrwydd hwnnw'n fwy nag erioed.
Mae ein blaenoriaethau o ran rhedeg y busnes wedi parhau i gynnwys addasu a lleihau aflonyddwch i'n gwaith, tra'n sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn gan ein pobl, gyda thîm newydd o 'hyrwyddwyr' lles wedi'u ffurfio'n gynharach yn y flwyddyn a datblygiad diweddar Strategaeth Lles newydd i ni.
Ni fu angen gwyro'n sylweddol oddi wrth y rhaglenni gwaith a nodwyd yn ein Cynllun 2021-22. Mae'r holl waith a gynlluniwyd wedi'i gyflawni neu'n mynd rhagddo i gynllunio, sy'n glod i broffesiynoldeb ein staff a chydweithrediad a gawn gan y cyrff yr ydym yn eu harchwilio.
Dan arweiniad ein huchelgeisiau a defnyddio ein sefyllfa unigryw, rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y momentwm hwn am weddill y flwyddyn i ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
