Gofyn Am Brofiadau Cleifion a Pherthnasau o Amseroedd Aros y GIG

09 Tachwedd 2020
  • Bydd y canfyddiadau yn ffurfio rhan o astudiaeth genedlaethol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

    Gofynnir i gleifion a pherthnasau i rannu eu profiadau o aros am lawdriniaethau wedi'u cynllunio. Bydd arolwg Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n cael ei lansio heddiw, yn casglu profiadau cleifion o bob cwr o'r wlad i helpu i werthuso sut y mae'r GIG yng Nghymru yn rheoli amseroedd aros.

    Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

    Nod yr astudiaeth hon yw cymryd safbwynt systemau cyfan i ddeall beth sy'n cyfrannu at amseroedd aros ar gyfer triniaethau wedi’u cynllunio a sut y gellid gwella pethau. Bydd yr arolwg hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni o brofiad gwirioneddol cleifion o’r system a beth allai'r GIG ei wneud i wella’r profiadau hynny. Mae fy nhîm yn awyddus i glywed gan gynifer o bobl ag sy’n bosibl, fel y gallwn fapio'r perfformiad ar draws Cymru.

    Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn awyddus i glywed gan bobl sydd wedi cael llawdriniaeth wedi'i chynllunio yn y 3 blynedd diwethaf. Mae ganddynt ddiddordeb mewn pa mor hir oedd cleifion yn gorfod aros am lawdriniaethau, sut oeddent yn teimlo am faint o amser y bu rhaid iddynt aros, a gafodd hyn effaith ar eu hiechyd a faint o ran oedden nhw’n teimlo iddynt ei gael yn y penderfyniadau am eu triniaeth.

    Dyma'r drydedd astudiaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei chynnal ar amseroedd aros y GIG, gyda'r astudiaeth flaenorol yn 2006 yn dod i’r casgliad fod y GIG yng Nghymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol wrth leihau amseroedd aros hir.

    Os hoffech chi rannu eich profiadau, gallwch wneud hynny ar-lein drwy wefan arolwg amseroedd aros y GIG [Agorir mewn ffenest newydd]Mae’r arolwg yn fyr iawn ac nid yw’n cymryd mwy nag ychydig funudau i’w gwblhau. Mae'n agored am 5 wythnos ac yn cau am 4 o’r gloch ar 13 Mehefin 2014.

    Bydd y sgwrs o amgylch amseroedd aros hefyd yn parhau ar-lein ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol. Gallwch gymryd rhan drwy ddefnyddio'r hashnod #NHSwaiting [Agorir mewn ffenest newydd] ar Twitter neu drwy ddilyn Swyddfa Archwilio Cymru ar Facebook [Agorir mewn ffenest newydd].