Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Digwyddiad Arlein - Paned a Sgwrs gyda Alex Swift

19 June 2024
  • Rhywbeth Difyr gyda Rhywun Difyr

    Cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen yma [agor mewn ffenest newydd]

    Hoffech chi ddysgu mwy am Awtistiaeth a’r Model Anabledd Cymdeithasol?

    Ar Orffennaf 11 2024, gan ddechrau am 12:00 byddwn yn cynnal sesiwn fydd yn herio tybiaethau am awtistiaeth a chynnig ffordd arall o feddwl am anabledd!

    Ail-Ddiffinio ein bywydau: Tua Dealltwriaeth Gymdeithasol o Niwroamrywiaeth

    Bydd y sesiwn hon yn egluro sut mae’r ffordd yr ydym yn diffinio awtistiaeth yn ffurfio ein dealltwriaeth o’r cyflwr fel cymdeithas.

    Gan ddefnyddio ei brofiad bywyd o ddod i ddeall ei awtistiaeth, asesiadau a diffinio’r cyflwr ar ei delerau ei hun, mae Alex yn eiriolydd cryf ar gyfer Model Anabledd Cymdeithasol.

    Yn ystod y sesiwn bydd Alex hefyd yn cynnal arbrawf, gan ddisgrifio nodweddion “niwronodweddiadol” yn yr un ffordd ag y mae nodweddion awtistiaeth yn cael eu cyflwyno gan y cyfryngau, fel ffordd o amlygu pwysigrwydd defnydd iaith wrth ymdrin a’r pwnc.

    Felly, os hoffech chi ddysgu mwy am Awtistiaeth a’r Model Anabledd Cymdeithasol, cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen yma [agor mewn ffenest newydd]

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru.

    Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno mewn da bryd cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch.

    Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru