Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Kathryn Chamberlain fel Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru.
Yn gyn-Brif Weithredwr Arolygiaeth Iechyd Cymru, Dr Kathryn Chamberlain yw Prif Weithredwr Awdurdod Monitro Annibynnol dros Gytundebau Hawliau Dinasyddion ar hyn o bryd.
Cafodd ei phenodiad ei argymell i'r Senedd gan y Pwyllgor Cyllid ac fe gafodd ei gymeradwyo a'i gadarnhau ddydd Mercher 11 Ionawr. Bydd cyfnod Dr Kathryn Chamberlain yn dechrau ar 16 Mawrth 2023 tan 15 Mawrth 2027.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths AS: “Ar ran y Pwyllgor Cyllid, hoffwn longyfarch Dr Kathryn Chamberlain a’i chroesawu i’w rôl newydd fel Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.
“Mae ganddi brofiad ac arbenigedd helaeth, a bydd yn ychwanegiad amhrisiadwy i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio â hi ac i weld sut y bydd yn mynd ati i gyflawni rôl y Cadeirydd.
“Hoffwn ddiolch hefyd i Lindsay Foyster, y Cadeirydd presennol, am ei hymrwymiad a’i gwaith caled yn ystod cyfnod heriol yn y rôl. Mae’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi ei gwasanaeth ar ran y sefydliad ac yn dymuno’r gorau iddi ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Dr Kathryn Chamberlain, Cadeirydd newydd ei phenodi: “Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i fod yn Gadeirydd ar Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith.
“Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae gwariant y Llywodraeth o dan y chwyddwydr i raddau nas gwelwyd cynt, ac rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn cael gwerth am arian gan y sector cyhoeddus.”
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: “Hoffwn longyfarch Dr Chamberlain a’i chroesawu i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru a’i rôl fel Cadeirydd.
“Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i gyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae archwilio i sicrhau fod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda, ei fod yn diwallu anghenion pobl a’i fod yn grymuso gwelliant, erioed wedi bod mor hanfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Kate a Bwrdd SAC i gyflawni ein huchelgeisiau strategol.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r Cadeirydd sy’n gadael, Lindsay Foyster, am yr ymroddiad a’r arweiniad y mae hi wedi’u cynnig i Fwrdd SAC ac i mi’n bersonol. Rwy’n dymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.”
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi penodi Dr Kathryn Chamberlain yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru am dymor o bedair blynedd, rhwng 16 Mawrth 2023 a 15 Mawrth 2027.