Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Llongyfarchiadau enfawr a da iawn i Eleri Davies am ennill Prentis y Flwyddyn am Gyfrifeg a Phrentis y Flwyddyn.
Rydym mor falch o Eleri a'i holl waith caled, ei phenderfyniad a'i hymrwymiad i raglen Brentisiaethau Archwilio Cymru. Gan ddod â brwdfrydedd ac egni i bopeth mae'n ei wneud, mae Eleri yn aelod gwerthfawr iawn o dîm Archwilio Cymru.
Rydym yn angerddol am ddarparu cyfleoedd prentisiaethau sector cyhoeddus ac yn falch iawn o allu dathlu'r newyddion gwych yn ystod Wythnos Prentisiaethau 2023.
Fe wnaethom holi Eleri sut oedd hi'n teimlo am ennill y gwobrau a dywedodd:
Mae cael fy enwebu, cyrraedd y rhestr fer, ac yna yn y pen draw ennill teitl Prentis y Flwyddyn o fewn Cyfrifeg a hefyd cael fy enwi’n brif Brentis y Flwyddyn yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn fraint aruthrol. Wrth ddechrau fy mhrentisiaeth nôl ym mis Medi 2020 ychydig iawn o wybodaeth cyfrifeg oedd gen i, felly pan ddechreuais fy nysgu fel prentis AAT roedd yn teimlo fel iaith newydd ac ar adegau roeddwn i'n teimlo'n hollol allan o'm dyfnder. Fodd bynnag, roedd y cymorth a gefais gan fy nhiwtoriaid yn rhagorol ac rwyf wedi cael amryw gyfleoedd i gymhwyso fy nysgu gydag amryw o dasgau wrth weithio yn Archwilio Cymru. Mae gweithio ochr yn ochr â fy astudiaethau wedi rhoi i mi'r gorau o'r ddau fyd, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried prentisiaeth i fynd amdani!
Wrth siarad am Eleri yn ennill y wobr, dywed Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio, Ann-Marie Harkin:
Llongyfarchiadau Eleri - rydym mor falch o weld llwyddiant Eleri, yn ennill Prentis y Flwyddyn Cyfrifeg a Phrentisiaeth y Flwyddyn yn anhygoel. Mae llwyddiant Eleri yn deillio o ymrwymiad i'r Brentisiaeth AAT ac mae'n adlewyrchu'r hyn y gellir ei gyflawni. Mae Archwilio Cymru yn falch o'n holl brentisiaid ac yn eu gwerthfawrogi ac yn ymrwymo i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth fel llwybr mynediad amgen i'n sefydliad. Mae prentisiaethau'n cynnig amgylchedd gwerthfawr a chefnogol i ddysgwyr, ac rydym yn falch o chwarae ein rhan yn nhaith gyrfa Eleri hyd yn hyn.