• Swyddog y Gymraeg
    £32,311 - £38,324
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Bydd Swyddog y Gymraeg yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth, cynllunio a chydlynu gweithgareddau iaith Gymraeg ac adrodd ar gyfer y sefydliad.

Bydd Swyddog y Gymraeg hefyd yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer Archwilio Cymru gyda Chomisiynydd y Gymraeg, yn ogystal â datblygiadau deddfwriaethol, strategol a thechnegol mewn perthynas â'r Gymraeg a'r diwydiant cyfieithu.

Bydd natur y gwaith yn y swydd hon yn gofyn am gymysgedd sgiliau cyfoethog a'r gallu i ddatblygu a chynnal perthynas waith gadarnhaol a phroffesiynol gyda staff a rhanddeiliaid Archwilio Cymru, gan gynnwys Arweinyddiaeth Weithredol ac aelodau'r Bwrdd. Darperir manylion am y prif gyfrifoldebau, y sgiliau a'r gofynion profiad yn y disgrifiad swydd.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl. 

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y disgrifiad swydd.  Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth Cyfathrebu, Gareth Phillips.

NODER: Caiff y ganolfan asesu ei chynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 14 Mawrth 2022.

Dyddiad Cau

  • 07/03/2022
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy