-
Hyfforddai Graddedig£26,059Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.Cymru
Ynglŷn â'r swydd hon
Ydych chi'n ystyried eich hun fel arweinydd cyllid yn y dyfodol? Ydych chi'n chwilio am gyfle i raddedigion o'r radd flaenaf sydd wedi'i ariannu'n llawn i hyfforddi fel cyfrifydd siartredig?
Yna, efallai mai ein Rhaglen Hyfforddi i Raddedigion yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano!
Oes gennych chi ddiddordeb mewn lle mae eich arian trethi yn mynd a’r hyn mae'n cael ei wario arno? Ydych chi'n awydddus am wella gwasanaethau cyhoeddus? Fel hyfforddai yn Archwilio Cymru, byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifeg wrth deithio o amgylch Cymru yn ymchwilio i sut mae arian y cyhoedd yn cael ei wario, ac a yw'n cael ei wario'n dda.
Byddwch yn cymryd rhan yn yr archwiliad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan sicrhau bod y gwaith a wnewch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy!
Pwy yw Archwilio Cymru
Ni yw'r corff sy'n archwilio'r sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru; ein swyddogaeth unigryw yw sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac i ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella. Mae ein gwaith yn cael effaith go iawn ar gymunedau lleol; mae rhai o'n gwaith cenedlaethol diweddar wedi edrych ar dlodi tanwydd, COVID-19, digartrefedd a newid yn yr hinsawdd.
Pam Archwilio Cymru?
Rydym yn cymryd dysgu a datblygu ein hyfforddeion o ddifrif, a byddwch yn cael cefnogaeth lawn tra byddwch yn cydbwyso eich astudiaethau â'ch swydd weithgar fel hyfforddai.
Mae gennym hefyd restr drawiadol o fanteision:
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus)
- Pecyn cyflog hael
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Disgowntiau siopa
- Tanysgrifiadau proffesiynol
- Cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, gan gynnwys trwyddedau LinkedIn
Gwnewch gais heddiw a dechreuwch ar eich siwrnai tuag at newid wyneb y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae mwy o wybodaeth ar sut i wneud cais ar gael ar y wefan.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Sian Grainger ar 029 2032 0547.
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023