-
Prentis Cyllid AAT£24,656 – £29,440Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.Cymru
Ynglŷn â'r swydd hon
Amdanom Ni: Archwilio Cymru yw corff archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroddedig i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Rydym yn darparu sicrwydd annibynnol ac yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.
Y Cyfle: Rydym yn cynnig cyfleoedd i ennill a dysgu drwy Raglen Uwch Brentisiaeth Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) Archwilio Cymru.
Mae'r cyfleoedd naill ai'n rhaglen cyfnod penodol o 2 flynedd ar gyfer y rhai sydd â lefel AAT lefel 2 NEU raglen cyfnod penodol 3 blynedd ar gyfer y rhai sydd dim ond â chymwysterau Safon A.
Sylwer, NID yw unigolion sydd eisoes â gradd yn gymwys i wneud cais.
Byddwn yn eich ategu i gwblhau hyfforddiant proffesiynol i gwblhau AAT o lefel 2 (neu 3 os ydych eisoes wedi cymhwyso ar lefel 2) hyd at lefel 4.
Byddwch yn cymryd rhan yn yr archwiliad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, yn sicrhau bod y gwaith a wnewch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy.
Rydym yn awyddus i'ch ategu a'ch hyfforddi drwy ein rhaglen brentisiaethau sy'n darparu llwybr posibl i'n cynllun i raddedigion.
Cyfrifoldebau allweddol:
- Mynychu a chwblhau'r cymhwyster AAT
- Cynnal gwaith archwilio ar draws ystod o feysydd cyfrifo neu wariant grant, gan sicrhau dull gweithio wedi'i gynllunigydag Archwilydd Ariannol Arweiniol neu oruchwyliwr priodol arall i’ch cynorthwyo
- Cael cymorth wrth nodi canfyddiadau o'r gwaith maes a datblygu argymhellion ystyrlon sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Cyflwyno dogfennaeth wedi'i threfnu ac wedi'i hysgrifennu'n dda i'w hadolygu
Yr Hyn yr Ydym yn ei Gynnig:
- Hyfforddiant a mentoriaeth cynhwysfawr
- Amgylchedd gwaith cynorthwyol a chynhwysol
- Cyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa posibl i'n Rhaglen Hyfforddiant i Raddedigion
- Pecyn cyflog a buddion rhagorol
Pecyn cyflog a budd-daliadau
- £24,656 – £29,440
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol
- 35 awr o waith yr wythnos.
- Absenoldeb i astudio â thâl
- Gostyngiadau ar y stryd fawr
- Trefniadau gweithio hyblyg a gweithio hybrid
Gofynion Hanfodol:
- Diddordeb cryf mewn archwilio a gwaith sector cyhoeddus
- Sgiliau dadansoddol a datrys problemau cadarn
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog
- Sylw da i fanylion ac ymrwymiad i gywirdeb.
- Isafswm cymwysterau addysgol o 3 Safon A Gradd C neu'n uwch, ynghyd â B mewn TGAU Mathemateg
- Dangos dysgu a chymhwyso dysgu yn eich gwaith o ddydd i ddydd
- Sgiliau TG da, gyda'r gallu i ddysgu sgiliau TG newydd
- Sgiliau gweithio tîm rhagorol, dangos brwdfrydedd a chymryd rhan weithredol yn y tîm
- Sgiliau holi a gwrando cadarn
Sut i Wneud Cais:
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein ar ein gwefan, gan sicrhau eich bod yn nodi'r HOLL ofynion addysgol, gorffennol a chyfredol. Ceir rhagor o wybodaeth am y swydd a chymhwysedd ar ein gwefan. Rydym bwriadu cynnal asesiadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 7 Ebrill 2025.
Os ydych yn awyddus i ddechrau eich gyrfa ym maes archwilio a chael effaith gadarnhaol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!Prentis_Disgrifiad_Swydd.pdf