Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Yn dilyn trychineb Tân Tŵr Grenfell, comisiynwyd adolygiad annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân gan Lywodraeth y DU. Datgelodd ymchwiliad Hackitt faterion difrifol a hirsefydlog gyda’r system diogelwch adeiladau bresennol. 

    Yr hyn a ganfuom

    Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i gymryd y camau gweithredu i sicrhau ein bod yn osgoi trychineb arall fel Grenfell. Canfu ein hadroddiad, er bod y newidiadau i Reoli Adeiladu a Diogelwch Adeiladau yn rhai sydd i’w croesawu, nad yw’r unigolion sy’n gyfrifol am roi’r newidiadau hyn ar waith mewn sefyllfa dda i’w cyflawni ac nad ydynt yn gallu cyflawni eu rolau’n effeithiol i wneud yn siŵr bod adeiladau yng Nghymru’n ddiogel.

    Canfuom hefyd fod ystod eang o broblemau’n wynebu’r proffesiwn rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau, gan gynnwys heriau staffio sylweddol.

    Yn ein hadroddiad, rydym yn cyflwyno nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Codi pryderon nad yw’r gyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yn cael ei blaenoriaethu ac nad oes adnoddau’n cael eu darparu ar ei chyfer

    Gweld mwy
CAPTCHA