Canllawiau ynghylch ymgeisio

Canllawiau

I gael mwy o wybodaeth am ein prosesau, dewiswch eitem o’r rhestr ganlynol:

Cwestiynau cyffredin

I gael atebion i gwestiynau cyffredin, dewiswch eitem o’r rhestr ganlynol:

  1. A fydd fy nghais yn cael ei gydnabod?
  2. A oes rhaid i mi gwblhau fy ffurflen gais mewn un sesiwn?
  3. Pryd fyddwch chi’n cysylltu â’m canolwyr?
  4. A allaf ddilyn hynt fy nghais?
  5. Beth os byddaf yn penderfynu tynnu fy nghais yn ôl?
  6. A ydw i’n gallu cael adborth ar fy nghais?
  7. Beth os nad ydw i’n gallu dod am gyfweliad ar y dyddiad/amser a bennwyd?
  8. Pryd fyddaf yn clywed canlyniad fy nghyfweliad?
  9. A ydw i’n gallu cael adborth ar fy nghyfweliad?
  10. Sut allaf gysylltu â’r adran Adnoddau Dynol?

Y broses ymgeisio

Er mwyn rhoi’r un cyfle i’r holl ymgeiswyr ymgeisio, mae’n ofynnol i bawb gwblhau ffurflen gais trwy ein porth recriwtio. Gallwch atodi CV hefyd fel rhan o’ch gwybodaeth ategol, ond sicrhewch eich bod yn rhoi eich enw ar yr holl ddogfennau ategol os gwelwch yn dda.

I ofyn am gopi caled o’r ffurflen gais, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol. Agorir mewn ffenest newydd

I’ch cynorthwyo gyda’ch proses ymgeisio rydym yn eich cynghori i ymgyfarwyddo â’r swydd-ddisgrifiad a’n ein gwerthoedd a hymgyddiadau [PDF 500KB Agorir mewn ffenest newydd]

Wrth gwblhau eich ffurflen gais nodwch sut yr ydych yn cwrdd â’r cymwyseddau a enwir trwy eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad. Mae’n hanfodol eich bod yn cyfeirio at enghreifftiau penodol, lle y bo’n briodol, gan ddefnyddio’r dull STAR. Gallwch ddarllen ein hawgrymiadau da ar gyfer dechrau ar eich cais [PDF 53KB Agorir mewn ffenest newydd] i’ch rhoi ar ben ffordd.

Mae gennym hefyd gyngor a chanllawiau yn benodol [PDF 64KB Agorir mewn ffenest newydd] ar gyfer ymgeiswyr y rhaglen graddedigion.

Wrth ddefnyddio ein porth peidiwch â defnyddio botwm Yn Ôl eich porwr i ddychwelyd at y dudalen flaenorol gan y bydd hyn yn achosi gwall ac fe allech golli eich gwaith. Defnyddiwch y botwm ar gyfer y dudalen flaenorol ar waelod pob tudalen i fynd yn ôl trwy eich cais.

Gwiriwch fod yr holl adrannau wedi’u ticio ar y dudalen grynhoi. Os yw unrhyw rai’n goch, ewch yn ôl at y dudalen honno a chwblhewch yr holl feysydd gorfodol sydd â * ar eu pwys. Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r botwm ‘Ymgeisio’ nes bod yr holl feysydd gorfodol wedi’u cwblhau.

Wedi ichi gyflwyno eich cais, fe gewch gadarnhad trwy’r e-bost.

Cofiwch na fyddwch yn gallu gwneud unrhyw newidiadau unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r ffurflen, felly gwiriwch eich cofnodion yn ofalus cyn gwneud hynny.

Yn ôl i'r rhestr

Y broses ar gyfer dewis rhestr fer a chyfweliadau/canolfan asesu

Os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad/canolfan asesu, byddwn yn cysylltu â chi trwy’r e-bost i drefnu dyddiad eich cyfweliad/canolfan asesu. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi trwy’r e-bost os bydd eich cais yn aflwyddiannus a chithau heb gyrraedd y rhestr fer.

Mae dyddiad(au) y cyfweliad/y ganolfan asesu yn cael ei gyhoeddi/eu cyhoeddi fel arfer ar dudalen manylion y swydd i’ch galluogi i wneud trefniadau os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer. Fel arfer mae 2 neu 3 o bobl ar y panel cyfweld. Mae un person yn gweithredu fel Cadeirydd a bydd ef neu hi’n rhoi amlinelliad byr o fformat y cyfweliad. 

Mae pob un o aelodau’r panel fel arfer yn gofyn ambell i gwestiwn yr un ynghylch cymwyseddau; efallai y byddant yn gofyn ichi roi manylion pellach ar gyfer eich ateb os byddant yn teimlo bod hynny’n angenrheidiol. Gallwch ddarllen am ateb y cwestiynau ar gymwyseddau [PDF 51KB Agorir mewn ffenest newydd] i gael arweiniad pellach ar strwythuro eich atebion mewn cyfweliad.

Efallai y gofynnir ichi hefyd roi cyflwyniad byr a/neu sefyll profion. Byddwch yn cael eich hysbysu pa dasg(au) y bydd angen ichi ei chyflawni/eu cyflawni ar eich manylion trefnu ymgeisydd ar-lein. Ar gyfer cyflwyniadau, mae manylion y rhain yn cael eu rhoi ichi ymlaen llaw fel arfer i roi amser ichi baratoi.

Os byddwch yn rhedeg yn hwyr am unrhyw reswm, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol cyn gynted â phosibl.

Yn ôl i'r rhestr

Gwiriadau cyn cyflogi

Wrth gynnig cyflogaeth, byddwn yn cynnal nifer o wiriadau cyn cyflogi.

Hawl i weithio yn y DU

Mae Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 [Agorir mewn ffenest newydd] yn ei gwneud hi’n drosedd i gyflogwr gyflogi’r rheiny nad oes ganddynt hawl i weithio na byw yn y DU.
Felly, rydym angen prawf adnabod a thystiolaeth eich bod yn gymwys i weithio yn y DU. 

Archwilio cefndir er diogelwch cenedlaethol

Archwilio cefndir er diogelwch yw’r broses sy’n sicrhau y gellir ymddiried mewn gweithwyr a chontractwyr sy’n gweithio i ni wrth iddynt drin â gwybodaeth neu eiddo sensitif llywodraeth, a’u bod yn addas i weithio mewn swyddi penodol. 
Bydd angen i raddau’r archwiliadau cefndir gael eu pennu wrth benodi ond bydd cefndir holl staff o fewn meysydd Archwilio Perfformiad ac Ariannol yn cael eu harchwilio er diogelwch. 
 

Cwestiynau Cyffredin

1. A fydd fy nghais yn cael ei gydnabod?

Mae’r holl geisiadau ar-lein yn cael eu cydnabod yn awtomatig. Os hoffech sicrhau bod eich cais wedi ein cyrraedd cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol.

Yn ôl i'r cwestiynau

2. A oes rhaid imi gwblhau fy ffurflen gais mewn un sesiwn ar-lein ynteu a allaf fynd yn ôl i’w gwblhau yn ddiweddarach?

Bydd y system yn cadw pob adran wrth ichi fynd drwy’r ffurflen gais fel eich bod yn gallu parhau o’r rhan ddiwethaf ichi ei chwblhau neu wneud newidiadau’n ddiweddarach.

Yn ôl i'r cwestiynau

3. Pryd fyddwch chi’n cysylltu â’m canolwyr?

Rydym yn gofyn eich caniatâd i gysylltu â’r canolwyr a dim ond unwaith y byddwn wedi cynnig rôl ichi yn ffurfiol y bydd hyn yn digwydd. 

Yn ôl i'r cwestiynau

4. A allaf ddilyn hynt fy nghais?

Gallwch. Cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol a byddant hwy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

Yn ôl i'r cwestiynau

5. Beth os byddaf yn penderfynu tynnu fy nghais yn ôl?

Cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol gan roi eich enw; teitl y swydd a rhif cyfeirnod y swydd yr ydych yn dymuno tynnu’n ôl ohoni. Wedyn ni fydd eich cais yn cael ei ystyried wrth ddewis y rhestr fer, cyfweld ag ymgeiswyr a chynnig y swydd.

Yn ôl i'r cwestiynau

6. A ydw i’n gallu cael adborth ar fy nghais?

Nac ydych – yn anffodus nid oes adborth ar gael ar eich ffurflen gais. 

Yn ôl i'r cwestiynau

7. Beth os nad ydw i’n gallu dod am gyfweliad ar y dyddiad/amser a bennwyd?

Efallai y bydd ymgeiswyr yn gallu newid dyddiad/amser eu cyfweliad/canolfan asesu a dylent fewngofnodi ar y porth e-recriwtio i weld a oes dewisiadau eraill. Fodd bynnag, os byddwch yn canfod nad ydych yn gallu dod ar y dyddiad a bod dim dyddiadau/amseroedd eraill ar gael, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol. Bydd y penderfyniad i ail-drefnu cyfweliad/canolfan asesu’n cael ei wneud gan Gadeirydd y panel ac nid oes sicrwydd o hynny ar unrhyw gyfrif. 

Yn ôl i'r cwestiynau

8. Pryd fyddaf yn clywed canlyniad fy nghyfweliad?

Yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn ceisio hysbysu ymgeiswyr y diwrnod ar ôl y cyfweliad/y ganolfan asesu, ond nid yw hyn yn bosibl bob amser. Os nad ydych wedi clywed o fewn 5 niwrnod gwaith i’ch cyfweliad/canolfan asesu, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol i gael mwy o wybodaeth.

Yn ôl i'r cwestiynau

9. A ydw i’n gallu cael adborth ar fy nghyfweliad/ar y ganolfan asesu?

I gael adborth ar eich cyfweliad/ar y ganolfan asesu, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol. Byddant hwy’n gallu trefnu amser cyfleus gyda Chadeirydd y panel cyfweld a fydd yn gallu eich cynorthwyo.

 Yn ôl i'r cwestiynau

10. Sut allaf gysylltu â’r adran Adnoddau Dynol?

Gallwch gysylltu â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol gan ddefnyddio’r manylion isod:

E-bost: recriwtio@archwilio.cymru 

Ffôn: 029 2032 0543

Post:

Yr Adran Adnoddau Dynol

Swyddfa Archwilio Cymru

24 Heol y Gadeirlan

Caerdydd

CF11 9LJ