
-
Arallgyfeirio Incwm ar gyfer Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng…
-
Dulliau o sicrhau sero net ledled y DU
-
Llamu Ymlaen: Gwersi o'n gwaith ar y gweithlu ac asedau
-
Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at Mawrth 2023
-
Methiannau mewn rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu –…
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau fy ngwaith archwilio 2022 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gynhaliwyd i gyflawni fy nghyfrifoldebau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Cyhoeddais farn ‘gwir a theg’ amodol ar gyfrifon 2021–22 y Bwrdd Iechyd oherwydd na allwn gael tystiolaeth digonol priodol bod gwariant, symiau taladwy a chroniadau penodol yn cael eu datgan a’u cyfrif yn gywir yn y cyfnod cyfrifyddu cywir. Amodais hefyd fy marn ar ‘reoleidd-dra’ wrth i’r Bwrdd Iechyd fethu unwaith eto â bodloni ei ddyletswydd ariannol i fantoli’r cyfrifon dros gyfnod o dair blynedd, ac (ynghyd ag wyth corff arall yn y GIG yng Nghymru) gwnaeth wariant afreolaidd yn ystod y flwyddyn wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion i ariannu rhwymedigaethau treth pensiynau clinigwyr.