Graddfeydd ffioedd a gosod ffioedd

Mae graddfeydd ffioedd yn darparu fframwaith i archwilwyr gael trafod ffioedd gyda chyrff llywodraeth leol. Mae graddfeydd ffioedd hefyd yn galluogi’r Archwilydd Cyffredinol i adnabod a herio ffioedd sy’n ymddangos yn rhy uchel neu’n rhy isel i alluogi archwilwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau’n briodol. Wrth ragnodi graddfeydd ffioedd, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ceisio sicrhau bod y ffioedd sy’n dilyn yn ddigonol er mwyn galluogi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal balans ariannol yn ei gwaith llywodraeth leol.

Caiff y graddau ffioedd eu meincnodi yn erbyn ffioedd a godir gan asiantaethau archwilio eraill yn y DU, lle y bo'n briodol. 

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi ei Cynllun Ffïoedd 2022-23.

Mae'n ofynnol i archwilwyr arddel eu barn broffesiynol, a lywir gan God Ymarfer Archwilio’r Archwilydd Cyffredinol, safonau cyfrifyddu ac archwilio perthnasol, a chanllawiau a gyflwynwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn pennu pa ffioedd sy'n gymwys i gorff penodol a archwilir o ystyried y math o gorff sydd dan sylw.

Lle na fydd ffioedd arfaethedig yn perthyn i'r raddfa ffioedd penodedig neu le y byddant wedi newid mwy na ±5 y cant o flwyddyn i flwyddyn, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn adolygu'r ffioedd arfaethedig er mwyn sicrhau bod yr amgylchiadau perthnasol dan sylw yn cynnig eglurhad digonol neu'n cael eu diwygio yn unol â hynny. Bydd hyn yn cyfyngu ar y posibilrwydd o godi ffioedd gormodol neu annigonol. Ar ôl cyflwyno'r rheolaethau hyn trafodir y ffi gyda'r corff perthnasol a archwilir ac, yn amodol ar unrhyw wybodaeth bellach sy'n effeithio ar y gwaith i'w gyflawni, fe'i cadarnheir fel y ffi i'w chodi ar y corff hwnnw.

Nodiadau:

  • Mae gwaith archwilio blynyddol yn cynnwys gwaith a ymgymerwyd mewn perthynas ag archwiliad cyfrifon ochr yn ochr ag archwiliad gwella a gwaith asesu a gynhaliwyd o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 lle’n briodol.  
  • Nid yw graddfeydd ffioedd gwaith archwilio blynyddol yn cynnwys gwaith sy’n mynd y tu hwnt i gyfrifoldebau cyffredinol archwilwyr, megis adrodd er budd y cyhoedd, archwiliadau eithriadol, arolygiadau arbennig a gwaith mewn perthynas â her etholwr ac atal gwariant anghyfreithlon. Fe godir tâl am waith ychwanegol o’r fath ar sail ddyddiol.
  • Mae graddau ffioedd ar wahân hefyd yn gymwys ar gyfer gwaith a ymgymerir ag o i ardystio hawliadau ac adenillion o ran grantiau a dalwyd neu gymorthdaliadau a wnaed i gyrff gwasanaethau llywodraeth leol.
  • Gall risgiau cyrff a archwilir a ffactorau eraill megis ei ofynion gwleidyddol, ei fframwaith cyflwyno adroddiadau ariannol a'i benderfyniadau busnes, ym marn yr archwilydd, ddylanwadu ar faint o waith archwilio sydd angen ei wneud i sicrhau y cyflawnir dyletswyddau'r archwilydd yn briodol.

Gall effaith y rheoliadau a’r trefniadau mae’r corff a archwilir wedi eu rhoi mewn lle i gwrdd â’u hamcanion ac wrth wneud hynny, rheoli a lleihau effeithiau cymhlethdod, risgiau a ffactorau eraill, hefyd gael effaith ar allu’r archwilydd i gyflawni eu cyfrifoldebau’n briodol.