Gweithio ag eraill

Rydym yn aelodau o’r Fforwm Archwilio Cyhoeddus, sy’n dwyn ynghyd holl sefydliadau archwilio cyhoeddus y DU, a Choncordat Iechyd Cymru rhwng cyrff sy’n gyfrifol am archwilio, rheoleiddio ac arolygu iechyd a gofal cymdeithasol.

Arolygu Cymru 

Yn ogystal â’n haelodaethau, rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu eraill – fel Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn – er mwyn cynnal adolygiadau ar y cyd o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Lawr lwythwch y Protocol Gweithredol [PDF 378KB Agorir mewn ffenest newydd] rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol er mwyn dysgu mwy am ein rhaglenni cydweithio. Gallwch hefyd ddarllen Gweithio gyda’n gilydd i ddarparu sicrwydd [PDF 194KB Agorir mewn ffenest newydd].

Yn 2011 fe lofnodwyd Cytundeb Strategol [PDF 210KB Agorir mewn ffenest newydd] gan y pedwar corff arolygu yn amlinellu ein hymrwymiad i gydweithio fel rhan o raglen Arolygu Cymru. Am fwy o wybodaeth ar y rhaglen, darllenwch flog Arolygu Cymru [Agorir mewn ffenest newydd].

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy'n nodi sut y byddant yn cydweithredu ar eu cyfrifoldebau cysylltiedig o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yr ydym, bellach, yn datblygu rhaglen waith cydgysylltiedig i gyflawni’r bwriadau a nodir yn y Memorandwm cyd-ddealltwriaeth [PDF 750KB yn agor mewn ffenestr newydd].

Tu allan i Gymru

Mae ein trefniadau cydweithio yn mynd y tu hwnt i Gymru. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Audit Scotland, Northern Ireland Audit Office a’r Care Quality Commission ar brosiectau ar y cyd – neu er mwyn rhannu gwybodaeth ac arfer da.

Mae gwaith ar y cyd o’r fath yn cynnwys gwaith paru data helaeth bob dwy flynedd er mwyn nodi unrhyw achosion posibl o dwyll a llygredd. Mae ein gwaith gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn cynnwys cyhoeddi adroddiadau uchel eu proffil ar y cyd.

Gweithio dramor

O dro i dro, mae’r Archwilydd Cyffredinol ac ein staff yn ymgymryd â gwaith gyda, neu ar ran, sefydliadau sector cyhoeddus tramor.

Mae ein gwaith tramor wedi cynnwys Arolwg o lywodraethu da ar gyfer Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Wladwriaeth yn Guernsey, helpu i ddatblygu swyddogaeth Adnoddau Dynol ac archwiliad gwerth am arian ar gyfer Gwasanaethau Archwilio’r Llywodraeth yn Ghana. Rydyn ni hefyd wedi gwneud gwaith yn Lwcsembwrg, Lithiwania ac Ynysoedd y Cayman.

Gweler hefyd: Gwaith wedi'i Gomisiynu