Amdanom ni

 
Ein nod yw:
  • Sicrhau pobl Cymru bod arian Cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda
  • Egluro  sut mae arian Cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion pobl
  • Ysbrydoli a grymuso’r sector Cyhoeddus yng Nghymru i wella.

 

Beth yw ein huchelgeisiau?

Manteisio’n llawn ar ein persbectif unigryw, ein harbenigedd a dyfnder ein dirnadaeth
Cryfhau ein safle fel llais awdurdodol, dibynadwy ac annibynnol
Cynyddu ein hamlygrwydd, ein dylanwad a’n perthnasedd
Bod yn sefydliad enghreifftiol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
 

Archwilio Cymru yw’r nod masnach ar gyfer ein dau endid cyfreithiol: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae gan y naill ei bwerau a dyletswyddau penodol:

  • Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn adrodd ar gyrff cyhoeddus Cymru.

  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro a chynghori’r Archwilydd Cyffredinol.

Ewch i’n tudalen ein gwaith am fanylion ar ein rhaglen waith gyfredol.