Gwasanaethau Archwilio

Mae’r Gwasanaethau Archwilio yn ymwneud â thros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru ac mae’n archwilio tua £24 biliwn o incwm a gwariant.

Mae tîm y Gwasanaethau Archwilio yn edrych ar sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn sector cyhoeddus Cymru.

aa
Simon, Arweinydd Archwilio Ariannol at Audit Wales

‘Mae bod yn Arweinydd Archwilio Ariannol yn Nhîm y Gogledd wedi profi'n brofiad gwerth chweil yn broffesiynol ac yn bersonol.  Mae'n amgylchedd cefnogol iawn lle rwyf wedi gallu gwella ac ehangu fy arweinyddiaeth a'm sgiliau technegol wrth gyflawni gwaith’.

Erin
Erin, Archwilydd Arweiniol at Audit Wales

‘Fy hoff beth am weithio yn Archwilio Cymru yw’r ffaith nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Er bod y gwaith yn gallu bod yn heriol ar brydiau, mae'r amrywiaeth sy'n cael ei gynnig drwy weithio gyda gwahanol bobl a sefydliadau ar draws Cymru wir yn rhoi boddhad mawr i mi’.

David
David, Uwch Archwilydd at Audit Wales

‘Mae'r amrywiaeth o waith Archwilio rwyf wedi bod yn rhan ohono fel aelod o glwstwr Gogledd Cymru wedi bod mor amrywiol: nid oes unrhyw ddeuddydd byth yr un fath. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael profiadau a chyfleoedd amhrisiadwy i ddatblygu fy ngyrfa yma yn Archwilio Cymru’.

Sabel
Sabel, Uwch Archwilydd at Audit Wales

‘Mae tîm y gogledd yn griw clòs ac mae ‘na rywun wastad yno i mi ffonio i ofyn am eu barn ar fater technegol neu i fynd am baned neu am dro pan yn gweithio yn un o’n swyddfeydd’.

David
David , Uwch Archwilydd at Audit Wales

‘Rwyf wedi gweithio'n helaeth o fewn y GIG a Llywodraeth Cymru cyn dod i Archwilio Cymru. Rwy'n mwynhau bod yn rhan o'r tîm archwilio perfformiad gyda chydweithwyr cynorthwyol a chyfeillgar, ethos tîm cryf a'r gallu i weithio'n hyblyg’.

Heledd
Heledd, Uwch Archwilydd at Audit Wales

‘Mae'r Tîm yn hynod o gyfeillgar ac maent i gyd wedi bod yn ategol iawn o ran cwestiynau gan rhywun sydd newydd ddechrau yn y swydd a bob amser yn barod i gynnig cyngor ac arweiniad’.

aa
Erin
David
Sabel
David
Heledd

Mae hyn yn cynnwys cyfrifon cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, y cyrff cyhoeddus a noddir ganddi a chyrff cyhoeddus cysylltiedig, Comisiwn y Senedd a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Archwilio Ariannol

Archwiliad statudol dros 800 o gyrff cyhoeddus.

Archwilio Perfformiad

Sy'n cynnwys y trefniadau priodol ar gyfer sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol.

Meysydd gwaith eraill

cynnal ymchwiliadau, gan gynnwys adroddiadau er lles y cyhoedd a chyfrannu at y Fenter Twyll Genedlaethol.