Wyt ti’n barod i danio #GyrfaSy'nCyfrif?

09 Tachwedd 2020
  • Rydyn ni wedi lansio ein rhaglen hyfforddiant ddiweddaraf i raddedigion

    Wyt ti'n awyddus i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus yng Nghymru? Wyt ti'n adnabod rhywun sy'n awyddus i ddechrau gyrfa ystyrlon, gyda hyfforddiant gwych, buddiannau hael a rhaglen waith amrywiol?

    Yna gallai Rhaglen Hyfforddiant i Raddedigion 2016-17 fod yn addas i ti.

    Mae ein rhaglen yn para am bum mlynedd ac yn rhoi sgiliau archwilio yn y swydd i raddedigion yn ogystal ag absenoldeb astudio wrth i ti weithio tuag at gymhwyster cyfrifyddiaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol.

    Os wyt ti eisiau rhagor o wybodaeth am y rhaglen, sut rydym yn dewis ein hymgeiswyr neu gyngor ar wneud cais gelli di fynd i'n tudalen Rhaglen Hyfforddiant i Raddedigion, neu gelli di gyfarfod â ni mewn un o'r ffeiriau gyrfa i raddedigion y byddwn yn mynd iddynt dros yr ychydig fisoedd nesaf

    • Bangor - 28 Medi
    • Abertawe - 13 Hydref
    • Bath - 20 Hydref
    • Prifysgol Caerdydd - 25 Hydref
    • Aston - 26 Hydref
    • Prifysgol De Cymru - 10 Tachwedd