Swyddfa Archwilio Cymru yn ennill tair gwobr ar draws y busnes

09 Tachwedd 2020
  • Gwobrau CIPFA ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol y Flwyddyn; Tîm Cyllid y Flwyddyn; a Gwobr CIPR ar gyfer y Digwyddiad Gorau

    Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi ennill tair gwobr ar wahân o fewn wythnos, a hynny gan ddau gorff proffesiynol mawr eu bri – Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) a'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR).
    Enillodd y Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol, Ann-Marie Harkin, Wobr Cymru CIPFA ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol y Flwyddyn. 
    Enillodd tîm cyllid Swyddfa Archwilio Cymru y wobr Tîm Cyllid y Flwyddyn am eu gwaith yn cyhoeddi cyfrifon y sefydliad o fewn 10 wythnos wedi diwedd y flwyddyn, ac yn gynt na'r cyrff archwilio eraill yn y DU.
    Tim Cyfathrebu gyda y wobr PRide
    Ac, enillodd y Tîm Cyfathrebu y wobr Arian yng Ngwobrau PRide Cymru CIPR am y Digwyddiad Gorau. Roedd hon yn cael ei chyflwyno am y gynhadledd 'Cyllid ar gyfer y Dyfodol' gyntaf, sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol; mae hon yn dwyn ynghyd hyfforddeion cyllid cyhoeddus o bob cwr o'r sector cyhoeddus, fel rhan o'u proses ddysgu a datblygu.
    Ann-Marie Harkin gyda Gwobr CIPFA
    Roedd gwobr Ann-Marie Harkin yn gydnabyddiaeth am ei gwaith arloesol ar ddysgu a datblygu, a oedd yn cynnwys sefydlu cynllun hyfforddeion Cymru gyfan newydd – syniad a ffurfiwyd ac a ddatblygwyd ganddi hi. 
    Roedd ei gwobr hefyd yn gydnabyddiaeth o'i chyflawniadau fel Cadeirydd y Grŵp Sgiliau Cyllid a Datblygu. Mae hon yn fenter newydd arloesol, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â sefydliadau yng Nghymru sy'n cael eu hariannu gan arian cyhoeddus. Mae'r prosiect Cymru gyfan yn anelu at hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd gyrfa mewn cyllid cyhoeddus, a hynny trwy ddarparu secondiadau ledled y gwasanaethau cyhoeddus; cefnogi rhwydweithiau hyfforddeion; a datblygu rhaglenni arweinyddiaeth. 
    Mae'r cynllun yn golygu bod Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn GIG Cymru, mewn llywodraeth leol, yn yr heddlu, yn y gwasanaethau tân ac achub, yn Llywodraeth Cymru, mewn cyrff a noddir, ac mewn sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach – ynghyd ag mewn sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan gyllid cyhoeddus, er enghraifft y DVLA a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Wrth dderbyn y wobr, talodd Ann-Marie deyrnged i gyd-weithwyr mewn cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y GIG, a llywodraethau lleol, am y cydweithrediad sydd wedi gwneud y cynllun yn llwyddiant.
    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: 
    'Rwyf bob amser yn falch o waith caled, ymroddiad a chyflawniadau staff Swyddfa Archwilio Cymru. Ond mae ennill tair gwobr o fewn wythnos yn gyflawniad rhagorol, ac yn dystiolaeth o'r dalent yr ydym yn ffodus o'i chael yn y sefydliad hwn.'
    Dyma a ddywedodd Isobel Garner, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru:
    'Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gwella bob blwyddyn. Ac, mae'n wych gweld cyrff proffesiynol fel CIPFA a CIPR yn cydnabod ansawdd uchel ein gwaith. Gobeithiaf y gallwn adeiladu ar y llwyddiannau hyn, a pharhau i wneud cyfraniad cadarnhaol i wasanaethau cyhoeddus Cymru.'