Pa mor ddiogel yw eich cymuned?

09 Tachwedd 2020
  • Lansio arolwg o ddinasyddion ynglŷn â diogelwch cymunedol.

    Mae ein cymunedau’n bwysig i ni ac mae’r ffordd y cânt eu cadw’n ddiogel yn effeithio arnom i gyd. Heddiw, rydyn ni wedi lansio arolwg ar ddiogelwch cymunedol fydd yn edrych ar sut y mae unigolion yn teimlo ynglŷn â’r mannau lle maent yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden.

    Rydym eisiau siarad â phobl ynghylch pa mor dda y mae cyrff – megis yr heddlu, comisiynydd yr heddlu a throseddu, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol ac eraill - yn cydweithio i nodi blaenoriaethau diogelwch cymunedol, yn cyd-drefnu eu gwasanaethau ac yn mesur eu llwyddiant. 

    Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw:

    Mae cymunedau diogel, cryf yn agwedd bwysig ar ein bywydau bob dydd, ac mae eu cadw’n saff ac yn ddiogel er lles pawb. Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth sbectrwm eang o bobl ac rwy’n annog pawb i ddweud eu barn fel y gallwn greu darlun cynhwysfawr o ddiogelwch cymunedol yng Nghymru.

    Bydd ein hastudiaeth yn edrych i weld a yw’r broses yn gweithio yng Nghymru. Pwy sy’n cymryd yr awenau o ran diogelwch cymunedol? Ydy trigolion yn cael eu holi ynghylch eu pryderon? Ydy cyrff lleol yn cymryd rhan yn y broses o nodi materion lleol? Ydy’r sefydliadau cywir yn gweithio gyda’i gilydd i wneud eich ardal chi yn lle gwell i fyw?

    Mae’r arolwg yn agored i bawb yng Nghymru ac fe fydd ar agor tan 30 Hydref. Nid yw’r arolwg yn cymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau ac mae pob ymateb yn ddienw.

    I gymryd rhan ewch i dudalen yr arolwg heddiw neu dilynwch [Agorir mewn ffenest newydd] ni ar-lein drwy ddefnyddio’r hashnod #ArolwgDiogelwch [Agorir mewn ffenest newydd].