Digwyddiad Llunio Atebolrwydd - canlyniadau a'r camau nesaf

09 Tachwedd 2020
  • Ar 22 Tachwedd, mynychodd 82 o uwch arweinwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru digwyddiad Llunio Atebolrwydd yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Digwyddiad ar y cyd oedd hwn rhwng Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

    Roedd y digwyddiad yn gyfle i rannu eu syniadau diweddaraf ar sut ddylai trefniadau atebolrwydd yng Nghymru newid, yn ogystal â darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar:

    • sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio'r ymateb i ymgynghoriad yr Archwilydd Cyffredinol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i lywio dyfodol archwilio; a
    • sut mae rhaglen waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn datblygu yn dilyn ymgysylltu cynnar â chyrff cyhoeddus, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach.

    Gwahoddwyd y cynrychiolwyr i rannu eu barn ar sut i ddarparu dealltwriaeth, her, cymorth a sicrwydd mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

    Allbynnau o’r diwrnod

    1. Gwyliwch araith Huw Vaughan Thomas, ‘Darlun o’r Hyn Sydd i Ddod [Agorir mewn ffenest newydd]
    2. Gwyliwch araith Sophie Howe, ‘Trawsnewid, nid ticio’r blychau’ [Agorir mewn ffenest newydd]
    3. Gwelwch ddelwedd graffig Eleanor Beer o'r diwrnod [JPEG 125KB Agorir mewn ffenest newydd]
    4. Darllenwch 'Storify’ y digwyddiad Llunio Atebolrwydd [Agorir mewn ffenest newydd]
    5. Mae lluniau o'r digwyddiad ar Facebook [Agorir mewn ffenest newydd] 

    Canlyniadau a'r camau nesaf

    • Rydym wedi crynhoi canlyniadau’r dydd a’r camau mae’r Comisiynydd a’r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cymryd fel a ganlyn:
    • Mae’r Archwilydd Cyffredinol a’r Comisiynydd yn datblygu cyfres o egwyddorion a fydd yn arwain eu disgwyliadau ar y cyd, ac amlinellu eu ffordd o gydweithio. Daw hyn fel ymateb i alwadau am well cytundeb rhwng rheoleiddwyr a chomisiynwyr. Byddant hefyd yn gweithio’n agos gyda’r arolygiaethau a chomisiynwyr eraill dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.
    • Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wrthi’n trafod ag amryw o randdeiliaid am y meysydd o flaenoriaeth a fydd yn adeiladu ffocws ar gyfer gwaith ei swyddfa, mewn ymateb i alwadau am well ymgysylltiad gan yr Archwilydd Cyffredinol a’r Comisiynydd er mwyn cael eu dull o weithio’n gywir.
    • Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn datblygu offer a dulliau newydd sy’n rhoi mewnwelediad mewn cyd-destun newydd, gan gynnwys gwaith peilot, a gwahaniaethu rhwng edrych ar sefydliadau unigol a chymryd golwg ehangach ar draws y system yn ei chyfanrwydd.
    • Bydd tîm Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi’r broses ddysgu, ar ôl galwadau i rannau adnoddau a gwybodaeth er mwyn bod o gymorth i’r rheiny sy’n cael anhawster.
    • Tynnwyd sylw at rwystrau systemig penodol rhag cynnydd gan gynnwys gorwelion cyllid tymor byr a dangosyddion nad yw’n ddefnyddiol. Er mwyn gweithredu’r Ddeddf, mae angen amgylchedd sy’n galluogi a chaniatáu. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol a’r Comisiynydd yn parhau i gefnogi sefydliadau i gymryd risgiau dan reolaeth ofalus, yn hytrach nag ymddwyn fel rhwystr rhag llwyddiant.
    • Bydd y ddau sefydliad yn canolbwyntio ar ymddygiad a deilliannau, yn hytrach na dangosyddion, wrth gydnabod efallai na fydd gan gyrff cyhoeddus yr holl wybodaeth i wneud penderfyniadau neu gychwyn ffyrdd newydd o weithio.
    • Bydd ymateb pob sefydliad i’r Ddeddf yn cael ei ddatgymalu i ddarnau o waith y gellir ymdopi â nhw, gyda gwaith archwilio Swyddfa Archwilio Cymru yn y flwyddyn gyntaf yn edrych ar ‘sut’ - y ddealltwriaeth o beth sydd angen newid a beth yw’r uchelgais.
    • Mae’r Comisiynydd yn awyddus i fod yn ‘lysgennad,’ yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n ceisio gweithredu’r Ddeddf, ond sydd angen mynd i'r afael â rhwystrau’n gyntaf.

    Roedd hi’n amlwg o’r digwyddiad fod pawb yn cytuno mai trwy ganolbwyntio ar ysbryd y Ddeddf, yn hytrach na’r manylion, y daw ei gwir werth.

    Bydd digwyddiadau ac ymgynghori pellach yn cael eu cynnal yn ystod 2017. Mae manylion pellach ar gael ar ein tudalen digwyddiadau neu drwy dderbyn cylchlythyr Swyddfa Archwilio Cymru.