Roedd y digwyddiad hwn yn ffurfio rhan o'n rhaglen barhaus sy'n canolbwyntio ar elfennau gwahanol llywodraethu. Mae digwyddiadau blaenorol yn cynnwys:
- Goleuni ar Graffu
- Y Drych ar y Wal ... Edrych ar lywodraethu da
- Dyfodol llywodraethu: Gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol
- Llywodraethu: Cefnogi gwelliant o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus cymhleth
Roedd y seminar hon yn canolbwyntio ar oblygiadau'r Ddeddf o ran craffu a swyddogaethau anweithredol a'r rôl y mae'n ei chwarae yn fframwaith llywodraethu cyffredinol cyrff cyhoeddus. Roedd y seminar hon wedi'i hanelu at grwpiau allweddol o swyddogion ac aelodau o'r 44 corff sy'n dod o dan y Ddeddf, yn ogystal ag aelodau/swyddogion anweithredol sy'n uniongyrchol gyfrifol am graffu ar swyddogaethau gweithredol.
Galluogodd y seminar hon i'r rhai wnaeth ddod i feithrin dealltwriaeth o oblygiadau'r Ddeddf i'r rhai sy'n craffu ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig o ran y pum ffordd o weithio.
Ar gyfer pwy oedd y seminar
Cafodd y seminar hon ei hanelu at aelodau, rheolwyr a swyddogion yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys:
- Cadeiryddion ac is-gadeiryddion pwyllgorau craffu ac archwilio;
- Arweinwyr ac aelodau o gabinetau;
- Prif Weithredwyr ac Uwch Dimau Arwain
- Aelodau ac Ysgrifenyddion Byrddau
- Swyddogion Craffu
Cyflwyniadau
Deunydd i'w rannu o'r diwrnod (Saesneg yn unig) [PDF 336KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cyfryngau cymdeithasol
- Gweler ein Storify [Agorir mewn ffenest newydd]
- Blogbostau'r Gyfnewidfa Arfer Da [Agorir mewn ffenest newydd]
Gweithdy 1 allbynnau - Amgylchedd [PDF 104KB Agorir mewn ffenest newydd]