Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Yn ein hadroddiad rydym yn canolbwyntio ar y rhwystrau sy’n wynebu cynghorau a’u partneriaid, ond rydym hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddysgu o fannau eraill.

    Canfum, er bod niferoedd nodedig o ddatblygiadau tir llwyd yn cael eu cyflawni gan gynghorau, y gallai adfywio gael ei gynyddu’n sylweddol gydag ymagwedd fwy systematig, ymyraethol a chydweithredol.

    Trwy ddefnyddio dulliau llwyddiannus o fannau eraill a chynllunio â ffocws mwy penodol, gallai cynghorau fod wedi’u harfogi’n well i oresgyn rhwystrau sylweddol.

    Yr hyn a ganfuom

    • Mae gan gynghorau ddealltwriaeth eang ond nid cynhwysfawr am yr amgylchedd adeiledig a'r potensial ar gyfer adfywio.
    • Er bod rhywfaint o adfywio’n cael ei gyflawni, mae'r ffocws yn dal i fod ar brosiectau 'haws' i’w cyflawni ac nid yw cynghorau bob amser yn mabwysiadu dull uchelgeisiol, ymyraethol i fynd i'r afael â rhwystrau hirsefydlog.
    • Gall cynghorau enwi rhwystrau i adfywio tir llwyd ac ail-bwrpasu adeiladau gwag ond nid ydynt yn defnyddio gwersi o fannau eraill i'w goresgyn.
    • Mae'n gryn her mesur cynnydd o ran adfywio tir llwyd oherwydd gwendidau mewn data a'r modd y caiff ei reoli.

    Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru a chynghorau ystyried ein canfyddiadau a’n hargymhellion.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Gallai adfywio gael ei gynyddu’n sylweddol gyda dull mwy systematig, ymyraethol a chydweithredol o ddatblygu tir llwyd

    View more
CAPTCHA