Gellir gwylio'r cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.
Hefyd gellir gweld syniadau o’r dydd a rannwyd ar Twitter [Agorir mewn ffenest newydd].
Mae buddion gweithio ystwyth yn fwy perthnasol nag erioed, â'r hinsawdd economaidd bresennol fel ag y mae. Mae'r cysyniad o weithio ystwyth yn estyn heibio'r trefniannau gweithio hyblyg traddodiadol ar gyfer unigolion, ac yn anelu i ddatblygu diwylliant er mwyn gweld y sector cyhoeddus yn gwneud y defnydd gorau o'i adnoddau, wrth sicrhau darpariaeth gwasanaethau sy'n gwella ac yn ymateb. Mae yna angen sylweddol ar draws y sector cyhoeddus am gyfnewid gwybodaeth fel y gellir rhannu, dysgu neu wella arferion, yn arbennig mewn perthynas ag:
- Adolygu hyblygrwydd presennol mewn trefniadau gweithio;
- Adolygu/rhesymoli portffolios eiddo drud;
- Cyflwyno arferion gweithio ystwyth drwy ddefnyddio TGCh;
- Y cyd-berthynas rhwng y materion allweddol; Pobl, Llefydd a Phrosesau
Cafodd y seminar ei anelu at rolau o fewn y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd sector yng Nghymru, yn arbennig:
- Rheolwyr Newid;
- Arweinwyr Polisi;
- Gweithwyr proffesiynol allweddol o'r adrannau Adnoddau Dynol, Rheolwyr Asedau a TGCh
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys dau sesiwn arddangos lawn:
- Mark Hooper, Indycube
- Norma Jarboe, WomenCount
A dewis i fynychu dau o'r gweithdai canlynol:
-
Portffolio Rhesymoli Eiddo – cael y pethau sylfaenol yn gywir
David Sutherland, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr -
GWIR Fuddion Gweithio Ystwyth
Sian Hayward, Cyngor Sir Fynwy -
Cefnogi Rheolwyr mewn Amgylchedd Gweithio Ystwyth
Jane Nyhan, Chwarae Teg
Pryd a ble
Dydd Iau 24ain Ionawr 2013
0900 – 1300
Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ
Dydd Mercher 30ain Ionawr 2013
0900 – 1300
Prifysgol Bangor, Bangor