Cydnabyddir yn eang na ellir parhau i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus drwy ddefnyddio dull seilo traddodiadol. Felly, mae troi ar weithio mewn partneriaeth o ran gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion yn anochel.
Er bod egwyddorion cyffredinol a gydnabyddir yn eang yn gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth, mewn gwirionedd, mae nifer o ffyrdd gwahanol o gyflenwi gwasanaethau rhwng cyrff statudol ac anstatudol.
Credwn yn gryf os ydych am fynd yn gyflym, ewch ati ar eich pen eich hun ond os ydych am fynd yn bell, ewch ati gydag eraill.' Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw gweithio mewn partneriaeth bob amser yn hawdd.
Fel y gŵyr pob un ohonom, mae heriau cynhenid yn gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth, ond mae hefyd o fudd enfawr i'r unigolyn y mae angen y gwasanaeth hwnnw arno. Yn y pen draw, mae'n annhebygol y bydd yr unigolyn y mae angen y gwasanaeth arno yn poeni am y rhwystrau a phwy sy'n cyflenwi'r gwasanaeth, cyhyd ag y caiff ei anghenion eu diwallu.
Bydd y seminar hon yn canolbwyntio ar 'ddal y drych i fyny' fel y gellir sicrhau bod y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ni waeth pwy sy'n cyflenwi'r gwasanaeth.
#WAOPartnership
I bwy mae'r seminar
Mae'r seminar hwn wedi'i anelu at uwch arweinwyr (Cadeiryddion, Prif weithredwyr, Swyddogion anweithredol, Aelodau bwrdd ac Aelodau annibynnol) sy'n gweithio yn y meysydd canlynol:
- iechyd
- llywodraeth leol
- gwasanaethau cymdeithasol
- cyrff trydydd sector
- cyrff gwirfoddol
- elusennau
- mentrau cymdeithasol
- heddlu
- tân ac achub
- cyrff datganoledig
- cymdeithasau tai
- byrddau gwasanaethau cyhoeddus (PSBs)
- cynghorau iechyd cymuned
- byrddau rhanbarthol
Ble a phryd
0930 - 1600
Dydd Mercher 19 Medi 2018
Stadiwm Swalec, Caerdydd CF11 9XR
0930 - 1600
Dydd Iau 27 Medi 2018
Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy LL26 0DF
Cofrestru
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn ar Get Invited [agorir mewn ffenest newydd]
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.