-
Uwch-Archwilwyr Wrth Gefn£ 49,600 (band cyflog 4)Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.Cymru
Ynglŷn â'r swydd hon
Ein swydd yn Archwilio Cymru yw archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sut y maent yn sicrhau gwerth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Ein nod yw i:
- Rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda
- Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl
- Ysbrydoli a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Fel rhan o'n gwaith, rydym yn awyddus i ddefnyddio Archwilwyr Wrth Gefn i ddarparu cymorth tymor byr, ad hoc wrth gynnal ein harchwiliadau perfformiad.
Daw ein cydweithwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a'ch swydd chi fydd cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau perfformiad lleol a chenedlaethol mewn cyrff archwiliedig.
Bydd angen i chi fod â sgiliau dadansoddi profedig y gellir eu cymhwyso ar draws ystod o brosiectau archwilio a bydd angen i chi allu rheoli galwadau sy'n cystadlu ar eich amser. Yn ogystal â hyn, rydym yn chwilio am rywun sydd â'r gallu i ddysgu'n gyflym a chymhwyso'r dysgu hwnnw i'r heriau y mae cyrff y sector cyhoeddus yn eu hwynebu o fewn cyd-destun archwilio. Rhaid i chi allu gweithio'n annibynnol a hefyd fel rhan o dîm amlddisgyblaethol a chael dealltwriaeth fanwl o sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu yng Nghymru.
Mae lleoliad ein swyddi Uwch-Archwilwyr Wrth Gefn yn hyblyg ac mae cyfleoedd ar gael ledled Cymru.
Oherwydd natur y gwaith sydd ar gael, cynigir y swyddi hyn ar sail wrth gefn yn unig, ni allwn roi unrhyw oriau penodol o waith ac nid oes rheidrwydd ar ymgeiswyr llwyddiannus i dderbyn gwaith.
Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn Archwilio Cymru yn diffinio'r ffordd rydym yn gweithio a sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein nodau. Mae ein holl bobl wedi ymrwymo'n llwyr i ddangos ein gwerthoedd a'n hymddygiadau fel y gallwn weithio'n effeithiol gyda'n gilydd a gwneud penderfyniadau da. Maen nhw'n ein helpu ni i fod y gorau y gallwn ni fod ac yn sicrhau bod gennym y sgiliau a'r profiadau cywir yn y lle iawn.
Mae ein gwerthoedd wedi'u cynllunio gan staff i helpu i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, yn enwedig ar y lefelau uwch, a datblygu diwylliant hyfforddi i sicrhau amodau ffyniannus ar gyfer llwyddiant sefydliadol.
Disgwyliwn i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu'n llawn at feithrin diwylliant cadarnhaol a'n helpu i dyfu drwy fyw ein gwerthoedd a'n hymddygiad.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y disgrifiad swydd. Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Lisa Williams ar 029 20320500
Sylwer: mae ein swyddfeydd ar hyn o bryd ar gau a bydd pob cyfweliad yn cael ei gynnal ar-lein.
Mae Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Ddu, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl.
Mae Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg