• Swyddog Data Cynllunio ac Adrodd
    £52,373 - £60,641 (band cyflog 4)
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ynglŷn â’r rôl

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Data – Cynllunio ac Adrodd (P+R) ar gyfer cyfnod mamolaeth 8 mis.

Byddwch yn atebol i'r Pennaeth Cynllunio ac Adrodd am:

  • Goruchwylio'r ffordd o ddydd i ddydd ymdrin â gohebiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru a datgeliadau chwythu'r chwiban
  • Cyflwyno arolwg staff Archwilio Cymru 2026
  • Paratoi gwybodaeth reoli o ansawdd uchel ar gyfer TAG a'r Bwrdd trwy ddefnyddio offer data Power BI
  • Darparu cymorth ysgrifenyddiaeth i Pawb (ein grŵp buddiannau cydraddoldeb)
  • Gweithio'n effeithiol fel rhan o'r Gyfarwyddiaeth Archwilio, Moderneiddio ac Effaith ehangach.

Pwy yw Archwilio Cymru

Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn dal safle unigryw o fewn sector cyhoeddus Cymru, lle ein rôl yw:

  • Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda.
  • Egluro sut y caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio.
  • Ysbrydoli y sector cyhoeddus i wella.

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwd dros weithio gyda sector cyhoeddus Cymru ac am wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

Rydym yn hyblyg – Rydym yn hwyluso’r drefn, gan ddarparu dewisiadau ynghylch sut, pryd a ble mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch i wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg dan sylw, wrth eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu ymdopi ag anableddau. Rydym hefyd yn croesawu amrywiaeth o batrymau gweithio, gan gynnwys gwaith amser llawn, rhan-amser a rhannu swyddi ar draws y sefydliad.

Mae gennym delerau rhagorol - Mae ein pobl yn wirioneddol bwysig i ni, yn ogystal â darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith, drwy ein hwythnos waith 33 awr a'n lwfans gwyliau blynyddol o 33 diwrnod (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus). Gallwch hefyd brynu, gwerthu a rhoi gwyliau yn y ‘banc’ er mwyn galluogi gwyliau estynedig.

Rydym yn buddsoddi yn ein pobl – Rydym yn hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol, ac yn buddsoddi yn ein pobl i'w galluogi i wireddu eu dyheadau gyrfa a bod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddiant hael, a ategir gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anstrwythuredig.

Mae gennym fuddion rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a ystyrir yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr gorau. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys oriau cywasgedig, lle gallwch gywasgu hyd at 10% o'ch oriau gwaith dros gyfnod o bythefnos - sydd fel arfer yn golygu gweithio 9 diwrnod allan o 10. Yn ogystal, mae gennym gynllun beicio i'r gwaith rhagorol, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydlesu manteisiol, ymhlith llawer o bethau eraill.

Rydym yn falch o fod wedi ennill achrediad – Mae ein diwylliant a’n buddion rhagorol sy’n cefnogi teuluoedd yn golygu ein bod yn falch o fod ymhlith y deg cyflogwr gorau yn ôl mudiad ‘Working Families’, safle rydym wedi’i gynnal am y tair blynedd diwethaf; rydym hefyd wedi ennill achrediad y Cyflog Byw ac yn cydnabod anableddau cudd ymhlith ein gweithlu a’r rhai rydym yn gweithio gyda nhw.

Rydym yn datblygu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau sydd ganddynt i'w cynnig, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.

Sut brofiad yw gweithio yn y tîm Cynllunio ac Adrodd

Gallai diwrnod arferol eich gweld chi:

  • Monitro'r blwch derbyn gohebiaeth a'r mewnflwch chwythu'r chwiban a'r llinell gymorth ffôn
  • Cynnal cofnod mynediad a rennir o achosion gohebiaeth unigol
  • Cyhoeddi cydnabyddiaeth amserol i ohebwyr ac ymgysylltu â thimau archwilio ar baratoi ymatebion
  • Paratoi dadansoddiad o ganlyniadau arolwg staff 2026
  • Gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad i ddiweddaru'r dangosfwrdd gwybodaeth rheoli (MID) ar gyfer TAG a'r Bwrdd
  • Gweithio gyda Chadeirydd Pawb i drefnu cyfarfodydd, agendâu a phapurau

Rydym yn sefydliad hyblyg iawn, felly rydych chi'n gallu gweithio o un o'n tair swyddfa ac o gartref.

Ein proses asesu

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, nodwch y bydd eich cais yn cael ei sifftio i benderfynu a ydych yn addas i symud ymlaen i gyfweliad ac asesu.

Bydd y sifftio, a'r camau cyfweliad ac asesu dilynol, yn adolygu'r meini prawf canlynol.

Dysgwch fwy

Gallwch ddysgu mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl yn y disgrifiad swydd. Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Matt Hockridge (Matthew.hockridge@archwilio.cymru).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 y nos ar y 9fed o Awst 2026.

Cynhelir yr holl asesiadau a chyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghaerdydd – 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ ar y 18fed a 19eg o Awst 2026.

Wrth wneud cais ar-lein, cofiwch bwyso'r botwm 'parhau' ar ôl cyflwyno eich cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, cewch gydnabyddiaeth yn cadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na chewch gydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwy HRandPayroll@audit.wales

Rydym yn croesawu ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg; ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Noder hefyd nad ydym yn gallu noddi fisâu gwaith.

Dyddiad Cau

  • 09/08/2026