• Dylunydd Graffeg - (Cyfnod mamolaeth)
    £32,638 - £39,179 (Band cyflog 2 pro rata)
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ynglŷn â'r rôl

 

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Dylunydd Graffeg Rhan-amser am Gyfnod Penodol.


Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi dull digidol yn gyntaf o ymdrin â holl allbynnau Archwilio Cymru drwy weithio mewn partneriaeth â thimau prosiect, gan ddefnyddio eu briffiau i gynhyrchu dyluniadau sydd wedi'u creu yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr

 

Rydym angen rhywun sy'n wych am adrodd straeon data ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd trwy ddylunio effaith uchel. Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, sy’n cynnwys fideos wedi'u hanimeiddio; ffeithluniau a dylunio digidol, i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd drwy ein gwahanol sianeli.

 

Ydych chi'n angerddol, yn drefnus ac yn fedrus mewn meddalwedd dylunio?

 

Ydy’r rhain yn eich disgrifio chi?

 

Os ydynt, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

 

Pwy yw Archwilio Cymru?

 

Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein rôl ni yw:

  •  

  • Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus.

  •  Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl drwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.

  • Ysbrydoli a grymuso'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus drwy rannu mentrau ac arfer gorau.

 

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o gefnogol. Rydym yn angerddol am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

 

Rydyn ni'n Hyblyg – Rydyn ni’n gweithio'n Gallach; wrth ddarparu dewisiadau o sut, pryd a lle mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi wrth wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg wrth eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu'n rheoli anableddau. Rydym hefyd yn croesawu amrywiaeth o batrymau gwaith, o amser llawn, rhan-amser a rhannu swyddi ar draws y sefydliad.

 

Mae gennym Delerau Rhagorol - Rydym wir yn poeni am ein pobl ac am ddarparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith trwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus), gallwch hefyd brynu,  gwerthu, a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi gwyliau estynedig.

 

Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl - Rydym yn eiriolwyr dros ddatblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa i fod y gorau y gallant Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anstrwythuredig.  Mae ein cynllun mentora a hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau Dysgu LinkedIn yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddynt.


Mae gennym Fuddion Rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwr gorau. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys oriau cywasgedig, lle gallwch gywasgu hyd at 10% o'ch oriau gwaith dros gyfnod o bythefnos, fel arfer mae hyn yn golygu gweithio 9 diwrnod mewn 10, mae gennym hefyd gynllun beicio i'r gwaith ardderchog, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd trwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.


Rydym yn Falch o fod wedi ein Hachredu – Mae ein buddion a'n diwylliant rhagorol sy'n addas i deuluoedd yn golygu ein bod yn gyflogwr balch yn y Deg Gorau o Deuluoedd sy'n Gweithio ac wedi bod am y 3 blynedd diwethaf, rydym hefyd wedi cyflawni achrediad Cyflog Byw ac yn cydnabod anableddau cudd ymhlith ein gweithlu a gyda'r rhai yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw.


Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.


Sut brofiad yw gweithio yn y tîm Cyfathrebu?


Byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar, egnïol ac ymroddedig gydag ysbryd tîm gwych sy'n ffynnu ar ddarparu cynnwys ac ymgyrchoedd creadigol o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.


Ein Proses Asesu


Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, byddwch yn ymwybodol y bydd eich cais yn cael ei sifftio i benderfynu addasrwydd i symud ymlaen i gyfweliad ac asesu.

 

Mwy o wybodaeth


Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Samantha Logue, Rheolwr Dylunio a Chyhoeddi ar Samantha.logue@archwilio.cymru .


Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 ar 7fed o Fai 2026.


Sylwch, bydd proses ddethol dau gam ar gyfer y swydd hon. Ar ôl sifftio eich cais ar-lein, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad. Cynhelir yr holl asesiadau a chyfweliadau yn bersonol yn 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ.


Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwy AdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru


Rydym yn croesawu ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno yn Gymraeg; ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Sylwch hefyd, nid ydym yn gallu noddi fisâs gwaith.

Dyddiad Cau

  • 07/05/2026
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy