• Swyddog Cymorth Gwasanaethau Busnes (Rhan amser)
    £27,307 - £31,377 (band cyflog 1)
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ynglŷn â'r swydd


Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Gwasanaethau Busnes dwyieithog i ymuno â'n tîm sy'n gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Mae'n swydd barhaol sy’n cael ei chynnig yn rhan amser dros 26 awr yr wythnos.

 

Fel Swyddog Cymorth Gwasanaethau Busnes, byddwch gennych ran weithredol wrth gefnogi'r busnes a sut yr ydym yn cefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd angen rhywfaint o brofiad arnoch o systemau archebu a systemau prynu i dalu, trin galwadau Cymraeg, a chefnogi prosiectau a rhaglenni gweinyddol.


Bydd agweddau craidd y swydd yn cynnwys darparu gwasanaethau gweinyddu effeithiol i'r busnes sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid e.e. archebu tocynnau teithio, ailstocio cyflenwadau, prynu a gwasanaeth negesydd, trin galwadau dwyieithog a gwasanaeth derbyn ymwelwyr, a gweinyddu ystafelloedd cyfarfod. Byddwch hefyd yn cymryd rhan yn y prosiectau a'r rhaglenni gwasanaethau busnes sy'n cynnwys amrywiaeth eang o feysydd gweinyddol.


Sut brofiad yw gweithio yn y Gwasanaethau Busnes?


Mae Gwasanaethau Busnes yn dîm bach sy'n rhoi cymorth gweithredol eang i'r busnes ledled Cymru. Yn ogystal â'r uchod, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o'r canlynol ac yn cyfrannu atynt, i roi ryw syniad, byddwch yn cefnogi:

  • rheoli cyfleusterau – prosiectau llety, ymholiadau parcio, cynnal a chadw ataliol cynlluniedig yr ystad, cymorth adweithiol a chysylltu â chyflenwyr.

  • iechyd a diogelwch - mentrau gan gynnwys hyfforddiant, cyflenwadau, dyletswydd gofal, ac ati.

  • lleihau carbon a chynaliadwyedd - system rheoli amgylcheddol, mesur ac adrodd ar berfformiad, a mentrau cynllunio.

  • cymorth caffael – prynu e.e. archebion ar-lein, gorchmynion prynu, adolygu cydymffurfiaeth, tendro a gweinyddu rheoli contractau.

  • rheoli cofnodion - gan gynnwys archifo ac adolygiadau dinistrio, a dogfennau gweinyddol cyffredinol eraill a chymorth arall.

A oes gennych brofiad o weinyddu busnes mewn amgylcheddau amlswyddogaethol?


Ydych chi'n mwynhau gweithio ar draws meysydd swyddogaethol a phrosiectau, ac yn awyddus i ddatblygu ymhellach?


A oes gennych chi ddiddordeb mewn lleihau carbon a datblygu cynaliadwy?


A oes gennych chi agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu?


Efallai mai ein swydd Swyddog Cymorth Gwasanaethau Busnes dwyieithog yw'r un i chi. Os oes gennych brofiad a'r brwdfrydedd i ymgysylltu â staff ar draws y sefydliad, efallai mai dyma'r swydd i chi.


Mae bod yn WYCH wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, rydym yn chwilio am rywun sydd ag angerdd am wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus trwy eich barn gadarn, ddadansoddol. a sgiliau cyfathrebu rhagorol.


Pwy yw Archwilio Cymru


Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym safle unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a dyma’n swydd:

 

  • Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon sector cyhoeddus.

  • Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl trwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.

  • Ysbrydoli a grymuso’r rhai yr ydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus trwy rannu mentrau ac arfer gorau.


Gweithio i ni


Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn angerddol am weithio gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.


Rydym yn Hyblyg - Rydym yn gweithio'n ddoethach - rydym yn ymddiried ynoch chi i wneud y dewis cywir wrth gyflawni'r dasg gan eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, p’un ai cyfrifoldebau gofalu neu reoli anableddau yw’r rheiny. O dan ein polisi hyblyg, byddwn yn ystyried gweithio gartref un diwrnod yr wythnos yn y swydd hon, nid yw’n ymwneud â chytundeb, ac yn amodol ar anghenion busnes a chyfansoddiad y 26 awr, gan fod angen i ni ddarparu gweithwyr swyddfa dros gyfnod yr wythnos.

Mae gennym Delerau Rhagorol – Rydym yn gofalu am ein pobl ac yn darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd bywyd a gwaith cadarnhaol trwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n gwyliau blynyddol 33 diwrnod y flwyddyn (heblaw am wyliau banc cyhoeddus), gallwch hefyd brynu, gwerthu a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi cael gwyliau estynedig.


Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl - Rydym o blaid datblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa er mwyn iddynt fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anstrwythuredig. Mae ein cynllun mentora a hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau LinkedIn Learning yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddynt.


Mae gennym fuddion rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr gorau. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r dewis i gael cerbyd trwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.


Rydym yn falch o fod ag Achrediad - Rydym yn gyflogwr Working Families a Change 100 balch ac wedi ennill achrediad Cyflog Byw.


Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioliadol o'r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt, a’r sgiliau, profiadau a safbwyntiau y maen nhw'n eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu cyfweld â'r holl ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.


Ein Proses Asesu


Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, gwyddoch y bydd eich cais yn cael ei hidlo i benderfynu a yw'n addas i symud ymlaen i gyfweliad ac asesiad. Bydd y broses hidlo a'r camau cyfweliad ac asesiad dilynol yn adolygu'r meini prawf hyn.


Mwy o wybodaeth


Gallwch ddysgu mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y disgrifiad swydd. Am drafodaeth anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â Laurie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Busnes ar 029 2032 0500.


Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar y 7fed Mehefin 2026.

Yn dilyn sifft o’ch cais ar-lein, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad sy'n cynnwys ymarfer byr, ysgrifenedig a chyfweliad. Bydd pob asesiad a chyfweliad yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.


Wrth wneud cais ar-lein, cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno’ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn byddwch yn cael cydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn cael cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwy AdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru


Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg; ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer, nid ydym yn gallu noddi fisâu gwaith.

Dyddiad Cau

  • 07/06/2026